Llosgi wedi ei ragnodi fel rhan o reoli llystyfiant

URN: LANCS91
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn disgrifio eich rôl yn llosgi llystyfiant arwyneb wedi ei ragnodi, grug a glaswellt fel arfer. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud wrth baratoi ar gyfer a chwblhau gweithgareddau llosgi llystyfiant.  

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes rheoli helfilod a bywyd gwyllt, cadwraeth amgylcheddol, ffermio neu goedwigaeth a gellr ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir lle mae grug neu lystyfiant arwyneb arall yn cael ei reoli trwy losgi.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
paratoi offer a chyfarpar i’w defnyddio wrth gynnau a gostegu tanau llystyfiant
paratoi’r ardal llystyfiant fel ei fod yn ddiogel ar gyfer llosgi wedi ei ragnodi
gweithio gydag eraill i losgi llystyfiant arwyneb wedi ei ragnodi, o dan amodau wedi eu rheoli
ymateb yn briodol i ddigwyddiad lle mae tân yn dianc

Wrth losgi wedi ei ragnodi dylech fod wedi eich hyfforddi, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth sy’n benodol i wlad.

Mae’n rhaid i chi hefyd gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer cyfredol rheoli llosgi llystyfiant, sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd. 

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser wrth losgi wedi ei ragnodi, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn darparu’r lefel ofynnol o ddiogelwch ar gyfer y dasg
  3. cadarnhau nodi’r ardal o lystyfiant arwyneb i gael ei losgi a’r gofynion llosgi a gynlluniwyd
  4. cadarnhau eich rôl benodedig, amcanion a lefel eich cyfrifoldeb ar y diwrnod, ac i bwy y dylech adrodd
  5. nodi peryglon ac adrodd ar risgiau sydd yn gysylltiedig â’r llosgi sydd wedi ei gynllunio a gweithredu i leihau’r rhain
  6. cynorthwyo’r gwaith o baratoi rhwystrau tân a bylchau tanwydd, lle bo angen, i gynnal y llosgi sydd wedi ei gynllunio, gan ystyried tanwydd, tywydd, wynebwedd a thir
  7. paratoi’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gynnau a gostegu’r llosgi sydd wedi ei ragnodi i amodau gwaith diogel ac effeithiol, yn barod i’w defnyddio
  8. cynnal llosgi fel prawf i wirio’r amodau llosgi ac i lywio unrhyw addasiadau sydd eu hangen i’r cynllun llosgi
  9. defnyddio dyfeisiadau cynnau i gynnau’r llystyfiant mewn modd sydd wedi ei reoli, yn unol â’r cynllun cynnau
  10. cynnal y llosgi sydd wedi ei ragnodi, yn unol ag amcanion llosgi sydd wedi eu cynllunio, gan ddefnyddio patrymau cynnau, offer a chyfarpar penodedig
  11. dilyn system ddiogelwch LACES bob amser wrth gynnal llosgi sydd wedi ei ragnodi
  12. dilyn cyfarwyddiadau a chymryd camau ar unwaith, lle bo angen, i gywirio unrhyw amrywiad o’r amcanion llosgi sydd wedi eu cynllunio
  13. monitro ac adrodd ar unrhyw amrywiad mewn tywydd cyffredin neu ymddygiad tân 
  14. cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill trwy gydol y weithred
  15. gostegu tanau pan fydd yr amcanion llosgi gofynnol wedi cael eu cyflawni gan ddefnyddio’r cyfarpar perthnasol
  16. cymryd y camau perthnasol mewn argyfwng
  17. adrodd gwybodaeth am ganlyniadau’r gweithgareddau llosgi 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â llosgi wedi ei ragnodi, yn cynnwys y ddeddfwriaeth berthnasol
  2. pam mae llystyfiant yn cael ei losgi fel rhan o reoli cynefin a bywyd gwyllt
  3. y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol sy’n rheoli llosgi llystyfiant, sy’n berthnasol i’r genedl lle mae’r llosgi’n digwydd
  4. effaith bosibl rhagnodi llosgi a thanau gwyllt ar agweddau eraill ar yr amgylchedd naturiol yn cynnwys ansawdd aer a dŵr, cynefinoedd sensitif, rhywogaethau planhigion, helfilod a bywyd gwyllt
  5. y technegau atal tanau gwyllt y dylid eu defnyddio wrth gynnal llosgi wedi ei ragnodi
  6. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â llosgi llystyfiant, yn cynnwys risgiau i chi eich hun, eraill, yr amgylchedd a bywyd gwyllt
  7. pwysigrwydd nodi peryglon cychwynnol a pharhaus ac asesu risg a’r camau i’w cymryd
  8. pwysigrwydd hyfforddiant ar gyfer llosgi wedi ei ragnodi a gofynion deddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd
  9. pwysigrwydd dilyn system ddiogelwch LACES a sut mae’n cael ei chymhwyso mewn gweithrediadau llosgi wedi eu rhagnodi
  10. y dilad gwrthsefyll tân addas a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn ofynnol i’w defnyddio gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â llosgi wedi ei ragnodi a gostegu 
  11. eich rôl, eich amcanion a’ch cyfrifoldebau chi a phobl eraill, i bwy yr ydych yn adrodd a pham y mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau trwy gadwyn cyfarwyddiadau 
  12. diben, gwerth ac adeiladu rhwystrau tân a bylchau tanwydd
  13. yr elfennau (gwres, tanwydd, ocsigen) sydd eu hangen i gynnal tân a’r dulliau o drosglwyddo gwres sydd yn gallu achosi tân llystyfiant i ledaenu
  14. sut gall y tywydd, amodau a threfniant tanwydd, a thir, effeithio ar ledaeniad, dwysedd a difrifoldeb tanau a sut gall newidiadau yn y tywydd effeithio ar losgi wedi ei gynllunio a thanau gwyllt
  15. sut i ddefnyddio tanwydd, gwynt, llethr a wynebwedd, sydd wedi eu cynnwys yn y System Rhagfynegi Tanau Gwyllt (WiPS), i ragfynegi newidiadau mewn ymddygiad tân, yn cynnwys dwysedd a chyfeiriad
  16. sut i baratoi’n ddiogel, defnyddio a chynnal a chadw’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gynnau a gostegu tanau llystyfiant
  17. y defnydd diogel o ddyfeisiadau cynnau
  18. y ffordd y mae patrymau cynnau gwahanol yn gweithio a sut maent yn gallu effeithio ar y llosgi
  19. y ffordd y caiff offer a chyfarpar gwahanol eu defnyddio i reoli tanau llystyfiant a thanau daear (mawn)
  20. y cynlluniau tân, mapiau a gweithdrefnau eraill a ddefnyddir gan y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo, sy’n eich galluogi i ymateb yn effeithiol mewn argyfwng
  21. pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau o’r tîm a sut gellir gwneud hyn
  22. pam y mae’n bwysig asesu argyfyngau yn gywir a pha wybodaeth allweddol y dylid ei chydgrynhoi a’i chyfathrebu i’r rheiny sydd yn rheoli
  23. y camau gofynnol i’w cymryd os bydd argyfwng


Cwmpas/ystod


Offer a chyfarpar:
curwyr tân a chrafwyr
llosgwyr grug/ffaglau diferu
rhawiau ac offer palu
chwistrellwr gwarbac
chwythwyr dail
pympiau dŵr, peipen ddŵr a chyfarpar ategol

Cyfarpar diogelu personol:
dillad gwrthsefyll tân 
helmed/gorchudd wyneb /masg/gogls/amddiffynwyr clustiau
menig gwrthsefyll tân
esgidiau uchel gwrthsefyll tân
diogelwch anadlol

Cynnau llystyfiant pan:
mae’n llaith
mae’n sych


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Wynebwedd – Y cyfeiriad y mae llethr yn ei wynebu.

Codau ymarfer – Dogfennau sydd yn rhoi’r dulliau a ddatblygwyd i gynorthwyo gyda chydymffurfio â deddfau a rheoliadau wrth gyflawni gwaith e.e. Côd Muirburn (Yr Alban), Côd Llosgi Grug a Glaswellt (Cymru a Lloegr)

Mesur rheoli – Camau lleddfu y gellir eu cymryd i leihau cyswllt posibl â pherygl sydd wedi ei nodi

Ymddygiad tân – Ymateb tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffeg. Mae mathau gwahanol o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripio, rhedeg, ffaglu, brychu a choroni.

Rhwystr tân – Mesur i atal lledaeniad tân.

Bwlch tanwydd – Bwlch yn argaeledd tanwydd (deunydd llosgadwy) i gynnal y tân sy’n gweithredu fel rhwystr i arafu neu atal cynnydd y tân.

Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol yr amgylchedd tân sydd yn pennu rhwyddineb cynnau, graddfa’r lledaeniad, anhawster i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi fel mynegai.

Dihangfa dân – Llosgi sydd yn mynd y tu hwnt i’r tân sydd wedi ei ragnodi, tân sydd yn dianc neu dân gwyllt yn aml.

Perygl tân – unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr sydd yn gallu achosi tân gwyllt neu sydd yn gallu darparu cyflenwad tanwydd parod i helaethu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, sydd i gyd yn cyflwyno bygythiad i fywyd, eiddo neu’r amgylchedd.

Dwysedd tân – Y gyfradd y mae’r tân yn rhyddhau ynni ar ffurf gwres mewn lleoliad arbennig neu amser penodol, a fynegir mewn cilowatau y fetr (kW/m) neu cilojoule y fetr fesul eiliad (kJ/m/s).

Risg o dân – Tebygolrwydd o dân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol neu amser penodol. Caiff y risg o dân gwyllt ei gyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg o dân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl

Difrifoldeb Tân/Llosg – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sydd yn cael ei gynhyrchu gan dân/llosg a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.

Math o dân – Ceir tri math o gynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu math o dân: 1. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft tanau awyr, coron, isdyfiant, arwyneb a thanau daear. 2. Dosbarthiad o adran o dân yn unol â’i safle ar hyd terfyn allanol y tân. Er enghraifft, tanau pen, cynffon ac ystlys. 3. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â’r nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripio, cefnu, rhedeg, ffaglu, brychu, coroni, troelliad tân, tân wedi ei yrru gan ddarfudiad ac ati

Tywydd tân – Tywydd sydd yn dylanwadu ar gynnau tân, ei ymddygiad a’i ostegu. 

Tanwydd – Dosbarthiad tanwydd yn ôl eu taldra o’u cymharu ag arwyneb y ddaear. Ceir pum haen gyffredinol o danwydd: • Tanwydd awyr • Tanwydd uchel • Tanwydd gerllaw arwyneb • Tanwydd arwyneb • Tanwydd daear

Perygl tanwydd – cymhlethfa danwydd wedi ei diffinio yn ôl math, trefniant, cyfaint, cyflwr a lleoliad sy’n cyflwyno bygythiad o gynnau a gwrthsafiad i reolaeth

Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.

LACES – Mae LACES yn brotocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith mewn digwyddiadau o danau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn fyrfodd ar gyfer: L = Lookouts,  A = Awareness (or Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area

Tirwedd – Ymddangosiad ffisegol o’r tir yn cynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant cynhenid a’r effaith ddynol a achosir gan amrywiadau yn y defnydd o dir.

Tebygolrwydd – Asesiad o debygolrwydd perygl a nodir sydd yn arwain at golled (a fynegir fel arfer fel rhif o 1 i 5, isel i uchel).

Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses lle mae gwres yn gadael un corff neu wrthrych i un arall. Gyda thanau gwyllt a thanau coedwig, mae ynni gwres yn trosglwyddo o danwydd sydd wedi llosgi i rai sydd heb losgi trwy: Ddarfudiad, Pelydriad a Dargludiad

Llosgi wedi ei ragnodi – Llosgi wedi ei gynllunio a’i oruchwylio sydd yn cael ei wneud o dan amodau amgylcheddol penodedig i ddileu tanwydd o ardal o dir gosodedig ac ar y pryd, dwysedd a graddfa’r lledaeniad sy’n ofynnol i fodloni amcanion rheoli tir.

Cynllun llosgi wedi ei ragnodi (cynllun llosgi, cynllun gweithredu tân wedi ei ragnodi) – Cynllun sydd yn nodi’r ardal i gael ei llosgi ac yn ymgorffori nodau ac amcanion y llosgi, y manylebau a’r amodau ar gyfer cynnal y llosgi a’r mesurau i sicrhau diogelwch a chadw’r tân o dan reolaeth.

Risg – Y tebygolrwydd y bydd y niwed oherwydd y perygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad i hynny.

Asesu risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth yn ymwneud â lefelau derbyniol o risg a lefelau gwirioneddol y risg a gyflwynir i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Y broses sydd yn gysylltiedig â nodi risg, asesu tebygolrwydd o ddigwyddiad yn digwydd ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.  

Graddfa risg – Canlyniad lluosi’r tebygolrwydd gyda’r difrifoldeb i gyrraedd gwerth am risg. Mynegir hyn wedyn naill ai fel gwerth rhifol neu yn syml yn isel, canolig neu’n uchel.

Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodir (a fynegir fel arfer fel rhif 1 i 5, isel i uchel).

Topograffeg – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb tir.

Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb ei reoli sydd yn gofyn am benderfyniad neu weithredu yn ymwneud â gostegu. Mae tanau gwyllt yn cael eu dosbarthu yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau gostegu.

Cynllun rheoli tân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i safle wedi ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r risg o dân gwyllt ac yn nodi mesurau fydd yn lleihau neu’n lleddfu’r risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol mae hyn yn cael ei greu yn dilyn asesiad risg tân gwyllt.

System Rhagfynegi Tân Gwyllt (WiPS) – System a gydnabyddir ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae’n seiliedig ar yr ystyriaeth o wynt, llethr a wynebwedd wedi ei gyfuno â thanwydd.

Atal tân gwyllt – Term ar y cyd am weithgareddau rhagweithiol a weithredir gyda’r nod o leihau digwyddiadau, difrifoldeb a lledaeniad tanau gwyllt.

Cynllun ymateb i dân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i ardal i nodi’r ymateb sydd yn angenrheidiol i ddigwyddiad o dân gwyllt. Dylai WRP gynnwys gwybodaeth fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.

Asesu risg o dân gwyllt – Mae Asesu Risg o Dân Gwyllt yn offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg o dân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesu’r tebygolrwydd o ddigwyddiad ac asesu difrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.       


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS91

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rhodiwr, Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr, Coedwigaeth

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

grug; llystyfiant; rhostir; rhos; llosg; tân; llosgi; tân wedi ei ragnodi; muirburn; swaling; coedwigaeth