Rheoli poblogaethau plâu asgwrn cefn gan ddefnyddio dulliau cemegol

URN: LANCS84
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli poblogaethau plâu asgwrn cefn gan ddefnyddio dulliau cemegol. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i reoli plâu asgwrn cefn gan ddefnyddio dulliau cemegol.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
nodi presenoldeb plâu asgwrn cefn
cymhwyso a monitro mesurau rheoli cemegol yn gyfreithlon.
 
Wrth ddefnyddio cemegau mae’n rhaid eich bod wedi cael eich hyfforddi’n llawn i’w defnyddio a meddu ar dystysgrifau perthnasol, pan mae hynny’n ofynnol gan ddeddfwriaeth.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio cemegau i reoli plâu asgwrn cefn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwneud y gweithgaredd yn ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol addas 
  3. defnyddio’r dulliau perthnasol i fonitro arwyddion i bennu gweithgaredd poblogaethau plâu asgwrn cefn
  4. addasu gweithgareddau monitro i ystyried amrywiadau tymhorol, tywydd cyffredin a chynefin
  5. adnabod rhywogaethau plâu asgwrn cefn a dehongli arwyddion i amcangyfrif lefelau poblogaeth
  6. nodi presenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu
  7. pennu pryd y byddai rheolaeth gemegol yn gam gorau i ymdrin â phoblogaethau plâu asgwrn cefn, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n benodol i wlad
  8. gwirio a oes angen trwydded sy’n benodol i rywogaeth a chadarnhau ei bod yn ei lle
  9. dewis dull rheoli cemegol sy’n briodol i’r plâu asgwrn cefn, nodweddion y safle, ei leoliad a'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer sy’n benodol i wlad 
  10. datblygu cyfundrefn i reoli’r defnydd o reolaeth gemegol
  11. sefydlu a chynnal y cyfarpar angenrheidiol i reoli defnyddio gemegau yn effeithiol yn unol ag argymhellion cynhyrchwyr
  12. ymdrin, defnyddio a storio cemegau yn ddiogel yn unol ag argymhellion y cynhyrchwyr a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  13. gweithredu’r dull rheoli cemegol mewn ffordd sy’n lleihau’r risg i rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu a'r amgylchedd
  14. monitro effeithiolrwydd y dull rheoli cemegol
  15. gwaredu marwolaethau a deunyddiau wedi eu disbyddu yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol
  16. cadw cofnodion rheoli plâu yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y risgiau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â rheoli plâu asgwrn cefn trwy ddulliau cemegol, yn cynnwys peryglon gweithio unigol
  2. y dillad a’r cyfarpar diogelu personol y dylid eu gwisgo 
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol a chadwraeth berthnasol mewn perthynas â rheoli plâu asgwrn cefn gan ddefnyddio dulliau cemegol
  4. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad sy’n rheoli prynu, storio a defnyddio cemegau rheoli plâu asgwrn cefn, yn cynnwys y gofynion ar gyfer hyfforddi ac ardystio 
  5. sut mae’r Ddeddf Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH) yn rheoli’r defnydd o gemegau
  6. y dulliau o fonitro presenoldeb plâu asgwrn cefn, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg
  7. effeithiau’r tymhorau a’r tywydd ar fonitro poblogaethau plâu a sut mae monitro’n cael ei addasu i ystyried y tywydd
  8. y rhywogaethau cyffredin o blâu asgwrn cefn a sut i adnabod a dehongli’r arwyddion i amcangyfrif lefelau poblogaeth
  9. nodweddion rhywogaethau gwahanol o blâu asgwrn cefn a’u heffaith bosibl ar weithgareddau'r safle
  10. effeithiau plâu asgwrn cefn ar boblogaethau o anifeiliaid/planhigion
  11. nodweddion ymddygiadol plâu asgwrn cefn fydd yn cael dylanwad ar y dull rheoli cemegol a ddewisir
  12. y rhywogaethau o blâu sydd wedi eu cynnwys gan ofynion sy’n benodol i wlad ar gyfer trwyddedau cyffredinol, pryd mae angen trwydded sy’n benodol i rywogaeth a sut i wneud cais amdani
  13. sut i ddewis dull rheoli cemegol sy’n briodol ar gyfer y boblogaeth o blâu asgwrn cefn, nodweddion y safle, ei leoliad a'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad
  14. sut i addasu dulliau rheoli plâu cemegol i ystyried y newidiadau yn y tywydd
  15. sut i adnabod rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu a pham y mae’n bwysig rheoli’r defnydd o gemegau ar gyfer rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu
  16. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad sy’n rheoli gwaredu cyrff plâu a deunyddiau wedi eu disbyddu
  17. y gofynion ar gyfer cadw cofnodion rheoli plâu cywir a diweddar
  18. sut i fonitro effeithiolrwydd y dulliau rheoli cemegau a’r camau i’w cymryd



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Plâu asgwrn cefn – er enghraifft: cwningod, gwaddod, llygod, llygod Ffrengig

Dulliau cemegol – gwenwyn cyfreithlon

Arwyddion o weithgaredd plâu asgwrn cefn – er enghraifft:
eu gweld yn uniongyrchol
rhedfeydd
olion traed
niwed i gynefin
anifeiliaid marw
lladdedigaethau
synau
arogleuon
tail


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS84

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pla; ysglyfaethwr; asgwrn cefn; cemegol; gwenwyn