Paratoi ar gyfer sesiynau hyfforddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer sesiynau hyfforddi. Mae'n ymdrin â chasglu'r wybodaeth i greu cynlluniau hyfforddi a gwneud y paratoadau angenrheidiol.
Mae'r safon wedi ei hanelu at bobl sydd wedi cael hyfforddiant a phrofiad sylfaenol o hyfforddi ac sydd yn gallu cynnal sesiynau ar eu pen eu hunain.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a diogelwch mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen eich bod yn gallu adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu diben y sesiwn hyfforddi
- casglu gwybodaeth sydd wedi ei diweddaru ac yn gynhwysfawr a gwirio trwy gael cadarnhâd o ffynonellau dibynadwy
- lle y bo'n briodol, defnyddio gwybodaeth o sesiynau hyfforddi blaenorol, gan ystyried adborth blaenorol a'ch gwerthusiad
- cadarnhau bod anghenion y cyfranogwyr wedi eu nodi'n gywir ac yn cyd-fynd â'r wybodaeth a gasglwyd
- cadw gwybodaeth y cyfranogwr yn gyfrinachol
- paratoi ar gyfer sesiynau hyfforddi trwy ddatblygu cynlluniau hyfforddi sydd yn crynhoi'r wybodaeth a gasglwyd yn gywir
- cynnwys nodau ac amcanion sydd yn berthnasol i anghenion a nodir mewn cynlluniau hyfforddi
- sicrhau bod eich cynlluniau hyfforddi yn cynnwys cydbwysedd o weithgareddau, cyfarwyddiadau a hyfforddiant sydd yn addas i fodloni anghenion cyfranogwyr, y gamp/gweithgaredd a'r adnoddau sydd ar gael
- cadarnhau bod eich cynlluniau hyfforddi a'ch trefniadau ar gyfer y gamp/gweithgaredd yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch ac arfer da derbyniol
- sicrhau bod eich cynlluniau hyfforddi yn cynnwys gweithgareddau sydd yn datblygu gwerthusiadau a chynlluniau gweithredu sesiynau hyfforddi blaenorol
- sicrhau bod eich cynlluniau hyfforddi yn galluogi'r holl gyfranogwyr i gymryd rhan hyd eithaf eu gallu
- sicrhau bod trefn ac amseriad gweithgareddau yn y sesiynau hyfforddi yn realistig
- cofnodi cynlluniau hyfforddi yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol
- cadarnhau bod y trefniadau yn galluogi nodau'r cynlluniau hyfforddi i gael eu bodloni
- cadarnhau bod y cyfleusterau a'r cyfarpar priodol ar gael ar gyfer y sesiwn hyfforddi
- nodi cyflyrau meddygol cyfranogwyr fyddai'n eu hatal rhag cymryd rhan yn y gamp/gweithgaredd yn ddiogel a gwirio'r rhain gydag awdurdod priodol
- sicrhau bod trefniadau i alluogi'r rheiny â gofynion penodol nad yw'r hyfforddwr yn gallu eu bodloni yn cael eu cyfeirio at berson/asiantaeth gymwys
- sicrhau bod y cyfranogwyr yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol cyn y sesiwn hyfforddi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystod o wybodaeth sydd ei hangen i baratoi ar gyfer sesiynau hyfforddi a ble gellir cael y wybodaeth yma
- ffynonellau dibynadwy y gellir eu defnyddio i ddilysu gwybodaeth
- dulliau o gasglu gwerthusiad gan gyfranogwyr a chydweithwyr sydd yn gysylltiedig â'r gamp/gweithgaredd
- sut i hunan-werthuso a chynllunio ar gyfer gweithredu
- anghenion tebygol pobl sydd yn cymryd rhan yn y gamp/gweithgaredd
- y mathau o wybodaeth y dylid ei thrin yn gyfrinachol
- anghenion penodol cyfranogwyr y gallai hyfforddwr ddod ar eu traws fel y diffinnir yn y diffiniad technegol o'r gweithgaredd
- y wybodaeth y dylid ei chofnodi mewn cynlluniau hyfforddi
- yr ystod o gyfarpar sydd yn briodol ar gyfer y sesiynau hyfforddi
- rheolau a/neu reoliadau'r gamp/gweithgaredd
- pwysigrwydd paratoi'r cyfranogwyr yn gorfforol ac yn feddyliol i ddechrau a gorffen y sesiwn hyfforddi
- yr ystod o dechnegau, dilyniannau, gofynion sefydliadol, ystyriaethau ffisiolegol, sgiliau a dulliau o gyflwyno sy'n briodol i nodau'r sesiwn hyfforddi
- math, dwysedd, hyd a threfn gweithgareddau sy'n briodol i'r ystod o gyfranogwyr
- y ffordd y gallai trefniadau amrywio wrth weithio gyda phobl ag anghenion penodol sy'n briodol i'r gamp/gweithgaredd
- yr arfer da derbyniol cyfredol yn y gamp/gweithgaredd gyda chyfeiriad penodol at gyfranogiad plant
- yr ystod o gyflyrau meddygol y mae angen eu cyfeirio i awdurdod priodol fel y diffinnir yn y diffiniad technegol
- y safonau diogelwch sydd yn ofynnol ar gyfer trin cyfarpar yn eich maes cyfrifoldeb yn cynnwys technegau codi
- y gweithdrefnau ar gyfer cynnal diogeledd y cyfarpar
- y gofynion iechyd a diogelwch a'r arfer da derbyniol yn y gamp/gweithgaredd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
gallai gwybodaeth sydd yn ofynnol i baratoi ar gyfer sesiynau hyfforddi gynnwys:
- anghenion cyfranogwyr
- niferoedd
- oed
- rhyw
- profiad
- cyflyrau meddygol
- adnoddau sydd ar gael
- math o amgylchedd
gallai ffynonellau gwybodaeth gynnwys:
- gwybodaeth flaenorol y cyfranogwyr
- cyfleusterau ac adnoddau
- gwybodaeth gan gyfranogwyr a sefydliadau
anghenion tebygol pobl sydd yn cymryd rhan mewn camp/gweithgaredd – chwaraeon; cymdeithasol; personol