Cefnogi contractwyr i’w galluogi i gyflawni amcanion

URN: LANCS81
Sectorau Busnes (Suites): Crofftwyr a Thyddynwyr,Dyframaethu,Rheoli Pysgodfeydd,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cefnogi contractwyr i'w galluogi i gyflawni eu hamcanion.

Byddai disgwyl i chi fonitro'r systemau a gwerthuso cynnydd y gwaith, gan ddefnyddio'r wybodaeth yma i gefnogi'r contractwyr i gyflawni eu hamcanion.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am reoli contractwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'r hyn y mae eu contract yn gofyn iddynt ei gyflawni o ran amcanion, graddfeydd amser, adnoddau

  2. sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'u hymrwymiadau o ran deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol

  3. rhoi'r wybodaeth a'r cyfleusterau angenrehdiol i gontractwyr, ar yr adegau iawn, i'w galluogi i gyflawni'r canlyniadau gofynnol
  4. rhoi'r wybodaeth ddiogelwch briodol i gontractwyr am y safle perthnasol a lleoliad peryglon posibl
  5. cynnal perthynas effeithiol gyda chontractwyr i gefnogi gwaith y sefydliad a'u galluogi i fodloni eu hamcanion
  6. monitro gwaith contractwyr ar adegau addas i bennu cynnydd tuag at amcanion
  7. cynnig adborth priodol i gontractwyr ar eu gwaith ac annog arfer da a chynnyddu ysgogiad
  8. nodi a chofnodi gwyriadau o'r rhaglen a chymryd y camau priodol
  9. ailddiffinio canlyniadau contract lle mae monitro yn nodi bod hyn yn angenrheidiol

  10. cyfathrebu amrywiadau i'r contractwr yn gywir a heb oedi

  11. datrys unrhyw anghydfodau yn brydlon ac yn unol ag amodau'r contract

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwaith y mae'r contractwr o dan gontract i'w gyflawni a'r amcanion y mae disgwyl iddynt eu cyflawni

  2. pwy sydd yn cyflenwi beth o ran adnoddau, contractwr neu sefydliad

  3. y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol sydd yn berthnasol
  4. y wybodaeth y bydd ei hangen ar gontractwyr i'w galluogi i weithio'n effeithiol a phwysigrwydd cyfrinachedd
  5. y cymorth ychwanegol a'r cyfleusterau y gall contractwyr fod eu hangen sy'n berthnasol i gyd-destun eich diwydiant
  6. eich rôl yn cefnogi contractwyr a phwysigrwydd sefydlu a chynnal perthynas waith dda
  7. dulliau o fonitro cyflawni'r gwaith contract
  8. sut i roi adborth adeiladol i gontractwyr a pherthynas hyn â chyflawni canlyniadau ac ysgogi contractwyr
  9. effaith ffactorau allanol ar gyflawni contractau, fel y tywydd, yr amser o'r flwyddyn, cyfnodau cynhyrchu ac ati
  10. y problemau posibl allai ddigwydd a'r camau priodol i'w cymryd
  11. sut i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw gŵynion gan y rheiny a allai gael eu heffeithio gan waith contractwyr
  12. sut i ailddiffinio canlyniadau contract a phwy ddylai fod yn gysylltiedig â hyn
  13. dangosyddion amrywiadau o'r contract a'r camau y dylech eu cymryd
  14. y math o anghydfodau a allai godi mewn perthynas ag ansawdd y gwaith, y cymorth a ddarperir, amserlennu a thaliadau, a sut dylid ymdrin â'r rhain
  15. pwysigrwydd atebolrwydd, bod yn agored ac uniondeb wrth reoli gwaith contract

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU97

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

contractwyr; monitro; cefnogaeth