Rheoli a monitro newid

URN: LANCS77
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli a monitro newid. Mae angen i bob busnes fynd trwy newid ar adegau ac mae'n bwysig bod newid yn cael ei reoli yn y ffordd iawn.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gyfrifol am reoli a monitro newid


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cyfathrebu cynlluniau ar gyfer newid yn glir ac yn rhesymegol 
  2. sicrhau bod cyfathrebu yn cynnwys y diben dros y newid a sut bydd yn effeithio ar y busnes, unigolion a thimau
  3. annog pobl i gyfrannu at y cynlluniau ar gyfer newid
  4. addasu a thrafod newidiadau i gynlluniau lle bo angen, tra'n parhau i ganolbwyntio ar y weledigaeth â'r nodau ar gyfer newid
  5. rheoli newid, darparu gwybodaeth, cymorth ac ysgogiad i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio
  6. nodi a datrys problemau yn ystod y broses newid
  7. monitro a gwerthuso'r broses newid
  8. darparu adborth i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r newid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben, buddion a risg newid i fusnesau, unigolion a thimau

  2. diben cael gweledigaeth a nodau ar gyfer newid a chynllun ar gyfer eu gweithredu

  3. pwysigrwydd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl a'u cynnwys yn y newid a'u hannog i gyfrannu at y broses newid
  4. sut i reoli effaith newid i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
  5. goblygiadau newid i brosesau a seilwaith busnes
  6. effaith newid ar dimau ac unigolion, a goblygiadau hyn i rolau a chyfrifoldebau
  7. wrth hyfforddi, byddai mentora neu hyfforddiant yn cynorthwyo'r broses newid
  8. sut mae pobl yn ymateb i newid a chyfnodau adwaith
  9. diben a buddion gallu addasu yn ystod y broses newid ac i fod yn barod i aildrafod cynlluniau
  10. y mathau o broblemau a allai godi yn ystod y broses newid a sut i ymateb i'r rhain
  11. pwysigrwydd caniatáu amser i'r newid sefydlu
  12. diben a buddion monitro a gwerthuso'r broses newid a sut i wneud defnydd o ganlyniadau gwerthusiad
  13. diben a buddion rhoi adborth i'r rheiny sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r newid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS77

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

busnes, tîm, newid