Prosesu taliadau gan gleientiaid

URN: LANCS75
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Meh 2010

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â therfynu'r gwasanaethau a ddarparwyd ar gyfer y cleient. Bydd hyn yn cynnwys prosesu'r taliad ar gyfer y gwasanaethau, a hawliadau yswiriant lle bo'n berthnasol, gan roi mwy o wybodaeth i'r cleient a threfnu mwy o apwyntiadau lle bo angen.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n prosesu taliadau gan gleientiaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 hysbysu’r cleient ynghylch y ffioedd sy’n ddyledus

P2 gwneud unrhyw apwyntiadau dilynol sy’n ofynnol

P3 hysbysu’r cleient ynghylch unrhyw gynnyrch neu wasanaethau ychwanegol a allai fod o werth iddynt

P4 cyfeirio’r cleient at uwch aelod o staff os oes angen cyngor arnynt

P5 esbonio’r dulliau talu a dderbynnir yn eich gweithle

P6 derbyn taliad gan gleientiaid a phrosesu taliadau’n gywir, yn cynnwys hawliadau yswiriant lle bo’n berthnasol

P7 cyfeirio unrhyw broblemau gyda thaliadau sydd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod i uwch aelod o staff.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda chleientiaid

G2 y ffioedd ar gyfer y gwasanaethau a sut mae’r rhain yn cael eu cyfrifo yn cynnwys costau a threthi a’r rheswm dros bob math o ffi

G3 y dulliau talu sydd ar gael ac unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’u defnyddio

G4 pan fydd cleientiaid wedi eu heithrio rhag talu

G5 sut i brosesu taliadau ac unrhyw ffurflenni perthnasol y mae angen eu llenwi, yn cynnwys hawliadau yswiriant

G6 problemau a allai ddigwydd wrth brosesu taliadau gan gleientiaid a therfynau eich awdurdod i ymdrin â’r rhain e.e. anghytundeb dros bris, anallu i dalu, gofynion credyd

G7 ystod y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan eich gweithle

G8 y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau’n ymwneud â phrosesu taliadau.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Meh 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU129

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

taliad; arian; cleient; derbynneb