Llwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo

URN: LANCS65
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Gofal a Lles Anifeiliaid,Crofftio a Chadw Tyddyn,Teulu’r Ceffyl
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys llwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo. Mae’n cynnwys eu llwytho a’u sefydlu yn y cludiant a’u dadlwytho yn eu cyrchfan. Bydd angen y sgiliau perthnasol i ymdrin ag anifeiliaid a gwybodaeth a dealltwriaeth o iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu cludo.

Wrth lwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo, bydd angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn llwytho ac yn dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi unrhyw beryglon posibl cyn llwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. sicrhau a chadarnhau bod y cludiant a’r ardal lwytho yn addas ar gyfer yr anifeil (anifeiliaid) a’i fod wedi cael ei baratoi
  4. nodi’r anifail (anifeiliaid) i gael eu cludo a chadarnhau eu bod yn addas ar gyfer eu cludo ac yn gellir eu cludo’n gyfreithiol
  5. paratoi’r anifail (anifeiliaid) ar gyfer eu cludo yn y dull angenrheidiol
  6. nodi dulliau addas o drin a llwytho’r anifail (anifeiliaid) sy’n lleihau straen a pherygl o anaf ac yn cynnal iechyd a lles
  7. llwytho’r anifail (anifeiliaid) ar gyfer eu cludo, gan gynnal eich iechyd eich hun, pobl eraill a’r anifeiliaid eraill yn y cyffiniau
  8. sefydlu’r anifail (anifeiliaid) yn y cludiant a’u gwneud yn ddiogel ac yn gadarn ar gyfer y daith
  9. dal yr anifail (anifeiliaid) mewn ffordd sydd o fudd i’w hiechyd a’u lles ac yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
  10. cadarnhau bod y gyrchfan wedi ei pharatoi ar gyfer derbyn yr anifail (anifeiliaid)
  11. dadlwytho’r anifail (anifeiliaid) gan ddefnyddio dulliau addas ac mewn ffordd sy’n lleihau straen a’r perygl o anaf
  12. monitro a chynnal iechyd a lles anifeiliaid wrth lwytho a dadlwytho
  13. cymryd camau priodol heb oedi os oes unrhyw bryderon ynghylch iechyd a lles yr anifeiliaid
  14. parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cludo
  15. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
  16. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  17. cwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon sy’n debygol o ymddangos wrth lwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo a sut gellir lleihau’r rhain
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y ffordd y mae angen i’r ardal gludo a llwytho gael eu paratoi ar gyfer yr anifail (anifeiliaid) i gynnal eu hiechyd a’u diogelwch a’r risgiau tebygol sydd yn gysylltiedig
  4. pwy fydd yn derbyn yr anifail (anifeiliaid) yn y gyrchfan a’r wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arnynt
  5. sut i adnabod yr anifail (anifeiliaid) i gael eu cludo
  6. sut i asesu addasrwydd yr anifail (anifeiliaid) i gael eu cludo, yr amodau sy’n eu heithrio rhag cael eu cludo a chanlyniadau cludo anifeiliaid anaddas
  7. y ffordd y mae angen i’r anifail (anifeiliaid) cysylltiedig gael eu paratoi ar gyfer eu cludo a sut i hybu eu hiechyd a’u lles 
  8. y gofynion ar gyfer darparu porthiant a dŵr wrth gludo
  9. y mesurau diogelu ar gyfer anifail (anifeiliaid) sydd yn cael eu cludo
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar straen anifeiliaid a’r ffordd y gellir lleihau’r rhain
  11. y dulliau addas o drin a llwytho’r anifail (anifeiliaid) sy’n lleihau eu straen a’u perygl o anaf
  12. sut i sefydlu a diogelu’r anifail (anifeiliaid) yn y cludiant
  13. y gofynion cyfreithiol mewn perthynas â dwysedd stoc a nifer yr anifeiliaid yn y cludiant
  14. y gofynion cyfreithiol mewn perthynas ag uchafswm amserau/pellterau taith
  15. y dulliau addas i’w defnyddio wrth ddadlwytho anifeiliaid sy’n lleihau eu straen a’r perygl o anaf
  16. dangosyddion problemau posibl gydag iechyd a lles anifeiliaid a’r ffordd y mae hyn yn ymddangos yn eu hymddygiad
  17. sut i asesu achosion tyngedfennol sydd yn peri pryder a phennu’r camau i’w cymryd ym mhob achos
  18. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cludo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  19. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  20. eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, deddfwriaeth cludo anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes
  21. y gofynion cyfreithiol dros hyfforddi ac ardystio wrth gludo anifeiliaid
  22. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  23. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Y gofynion cyfreithiol ar gyfer hyfforddi ac ardystio:

Cludo anifeiliaid dros 65km a hyd at wyth awr:
Mae’n rhaid i yrwyr a chynorthwywyr sy’n gyfrifol am gludo gwartheg, defaid, moch, geifr, Equidae (ceffylau) domestig neu ddofednod feddu ar ardystiad cymhwysedd cyfredol.

Cludo anifeiliaid dros wyth awr:
Mae’n rhaid i unrhyw un sydd yn cludo gwartheg, defaid, moch, geifr, Equidae (ceffylau) domestig neu ddofednod dros 65km fod yn gymwys i wneud hynny. Mae’n rhaid i’r gyrwyr a’r cynorthwywyr feddu ar ardystiad cymhwysedd dilys.

Mae’n rhaid i’r gyrwyr hefyd feddu ar y drwydded berthnasol i yrru’r cerbyd, yn cynnwys ôl-gerbyd, os caiff ei ddefnyddio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS64

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gofal anifeiliaid, Cynorthwyydd Ceffylau, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; teulu’r ceffyl; ceffylau; anifeiliaid; cludiant; taith