Dewis a symud anifeiliaid i leoliad newydd

URN: LANCS63
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Gofal a Lles Anifeiliaid,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys dewis a symud anifeiliaid i leoliad newydd. Dylai’r llwybr gael ei gynllunio a’i wirio ymlaen llaw a dylai’r lleoliad newydd gael ei baratoi ar gyfer derbyn yr anifeiliaid.

Dylid symud yr anifeiliaid mewn ffordd sy’n briodol, yn lleihau straen ac yn ddiogel ar gyfer pobl ac anifeiliaid. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod y lleoliad lle mae’r anifeiliaid yn cael eu symud yn barod i’w derbyn ac yn ddiogel, yn gadarn ac yn addas.

Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dewis ac yn symud anifeiliaid i leoliad newydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. sicrhau bod y lleoliad newydd yn bodloni’r gofynion diogelwch, diogeledd ac addasrwydd yr anifail (anifeiliaid) sydd yn cael eu symud
  4. sicrhau bod y llwybr wedi cael ei gynllunio a’i fod yn addas
  5. nodi dulliau ar gyfer trin a symud yr anifail (anifeiliaid) sy’n lleihau straen ac anafiadau ac yn cynnal iechyd a llesiant
  6. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
  7. dewis yr anifail (anifeiliaid) i gael eu symud a mynd atynt mewn ffordd ddigyffro a hyderus fydd yn lleihau straen ac ofn
  8. addasu dulliau ymdrin mewn ymateb i weithredoedd yr anifail (anifeiliaid)
  9. symud yr anifail (anifeiliaid) tra’n cynnal eich diogelwch eich hun a phobl neu anifeiliaid eraill yn y cyffiniau
  10. gwybod pryd nad yw’n ddiogel i symud yr anifail (anifeiliaid) ar eich pen eich hun a galw am gymorth
  11. sicrhau bod yr holl gatiau a mynedfeydd eraill wedi eu hagor/cau fel y bo’n briodol, ac ar briffyrdd cyhoeddus, bod digon o bobl yn eu lle i dawelu/atal traffig fel y bo angen
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. ymgartrefu’r anifail (anifeiliaid) yn y lleoliad newydd
  14. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
  15. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  16. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y risgiau sydd yn gysylltiedig â symud anifeiliaid a’r ffordd y gellir eu lleihau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y rheswm y mae angen symud yr anifail (anifeiliaid) o un lleoliad i un arall 
  4. statws iechyd yr anifail (anifeiliaid) cyn cael eu symud a sut gallai hyn effeithio ar y symud
  5. sut i asesu diogelwch, diogeledd ac addasrwydd y lleoliad newydd
  6. pwysigrwydd cynllunio a gwirio’r llwybr i’w gymryd
  7. y dulliau gwahanol o drin a symud anifail (anifeiliaid) a sut i ddewis y dull(iau) mwyaf addas ar gyfer symud yr anifail (anifeiliaid)
  8. y mathau o offer a chyfarpar sydd yn angenrheidiol ar gyfer symud anifeiliaid a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  9. sut i nodi’r anifail (anifeiliaid) y mae angen eu symud 
  10. sut i fynd at yr anifail (anifeiliaid) mewn ffordd dawel, ddigyffro a hyderus sy’n lleihau straen
  11. sut i adnabod ymddygiad normal ac annormal yn yr anifail (anifeiliaid) sy’n cael eu trin a’u symud
  12. pwysigrwydd cael cymorth pobl eraill os yw’r llwybr yn cynnwys gatiau, priffyrdd cyhoeddus neu rwystrau eraill
  13. y cynlluniau wrth gefn ddylai fod yn eu lle wrth drin a symud anifail (anifeiliaid)
  14. sut i ymgartrefu’r anifail (anifeiliaid) yn eu lleoliad newydd unwaith y maent wedi cael eu symud
  15. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  16. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  17. y rhesymau dros alw am gymorth mewn sefyllfaoedd lle mae’n anodd rheoli a symud yr anifail (anifeiliaid) ar eich pen eich hun, a chanlyniadau posibl peidio â galw am gymorth
  18. eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a di-ogelwch anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  20. y cyfnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae cludo anifeiliaid wedi ei gynnwys yn CS64, CS65 a CS66.
Mae cynllunio a monitro symud anifeiliaid wedi eu cynnwys yn LANAgM3




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS63

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gofal anifeiliaid, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; moch; defaid; cynnyrch llaeth; cig eidion; gwartheg; dofednod; anifeiliaid; camelod