Rheoli cludo anifeiliaid

URN: LANCS55
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Gofal a Lles Anifeiliaid,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys rheoli cludo anifeililaid. Mae’n cynnwys datblygu a gweithredu cynllunio ar gyfer cludo anifeiliaid, yn ogystal â ffyrdd o bennu’r polisïau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â chludo anifeiliaid mewn diwydiannau fel ffermio, gofal anifeiliaid neu fusnes ceffylau.

Gallai "anifeiliaid", yn yr achos hwn gyfeirio at anifail unigol neu’r rheiny sydd yn cael eu cludo mewn grwpiau, a gallai cludiant gynnwys y ffordd, rheilffordd, awyr neu’r môr, a gallai fod o fewn neu’r tu allan i’r DU.

Mae angen gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth gyfredol, yn cynnwys cludiant a llesiant anifeiliaid mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae hefyd yn angenrheidiol gallu asesu risg, cynllunio a chyflawni agweddau logisteg cludo anifeiliaid, yn cynnwys y rheiny sydd angen cwarantîn neu ynysu wrth eu cludo.

Wrth gludo anifeiliaid ar y ffordd, dros 65km mae angen i yrwyr feddu ar y cymhwyster perthnasol ar gyfer teithiau naill ai o dan neu dros 8 awr. Mae angen i gynorthwywyr hefyd feddu ar gymhwyster ar gyfer teithiau dros 8 awr.  

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am reoli cludo anifeiliaid.

Nid yw symud anifeiliaid ar droed wedi ei gynnwys yn y safon hon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r angen i gludo anifeiliaid 
  2. nodi’r llwybr a’r dulliau priodol o gludo, pwyntiau trosglwyddo a chyfnod a gwneud y cynlluniau angenrheidiol
  3. cyflwyno cynlluniau llwybr i’r awdurdod priodol a/neu wneud cais am drwyddedau teithio, a hysbysu’r awdurdodau angenrheidiol os oes angen trwyddedau mewn pryd ar gyfer y trosglwyddo
  4. rheoli’r gwaith o weithredu’r cynlluniau ar gyfer cludo anifeiliaid
  5. cadarnhau bod yr holl ddogfennau ac yswiriant cludo anifeiliaid yn eu lle ac wedi eu cwblhau’n gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  6. awdurdodi ceisiadau am drwyddedau ar gyfer symud anifeiliaid fel y bo angen
  7. trefnu i’r anifeiliaid gael eu llwytho, eu dadlwytho a’u cludo mewn ffyrdd sydd yn diogelu iechyd a diogelwch yr anifeiliaid, y bobl sy’n eu trin a phobl eraill a allai fod yn yr ardal
  8. pennu’r dulliau priodol o gyfyngu neu atal i’w defnyddio wrth gludo a chadarnhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir
  9. sefydlu gweithdrefnau i gynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch gofynnol yn ystod pob cam o’r broses gludo a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  10. trefnu i’r amodau llesiant gofynnol gael eu cynnal wrth gludo, yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a lles anifeiliaid a chodau ymarfer perthnasol
  11. sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod anifeiliaid yn cael bwyd, dŵr ac ymarfer corff, pan fo angen, wrth gludo a chadarnhau bod y gweithdrefnau hyn yn cael eu dilyn
  12. sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod goruchwyliaeth briodol yn cael ei darparu ar gyfer yr anifeiliaid wrth eu cludo, a bod trefniadau cywir yn cael eu gwneud iddynt wrth gyrraedd eu cyrchfan
  13. sefydlu cynlluniau wrth gefn i ymdrin â sefyllfaoedd annisgwyl, fel torri i lawr neu oedi arall wrth gludo 
  14. cadarnhau bod eich polisïau a’ch gweithdrefnau yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â symud anifeiliaid a lles anifeiliaid wrth eu cludo
  15. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y rhesymau pam y mae’r anifeiliaid yn cael eu cludo 
  2. y mathau o gludiant sydd ar gael a sut i ddewis yr un mwyaf priodol ar gyfer y daith ofynnol a’r anifeiliaid i gael eu cludo
  3. o dan ba amgylchiadau y mae angen trwyddedau teithio, ble i wneud cais amdanynt a phwy all eu llofnodi
  4. y trwyddedau/dogfennau sydd yn angenrheidiol ar gyfer mewnforio/allforio anifeiliaid a sut i wneud cais am y rhain
  5. y gofynion cyfreithiol a statudol sy’n effeithio ar gludo anifeiliaid, yn cynnwys dwysedd stoc, niferoedd a rhywogaethau anifeiliaid, hyd y daith, gofynion ymarfer corff, bwyd a dyfrhau
  6. y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â symud anifeiliaid, yn cynnwys adnabod anifeiliaid yn gywir pan fo angen 
  7. pwy yw’r awdurdod gofynnol yn ymwneud â chludo anifeiliaid
  8. sut ddylai cludiant gael ei baratoi ar gyfer anifeililaid gwahanol mewn perthynas â’u hiechyd, eu diogelwch, eu diogeledd a’u llesiant
  9. sut dylai mathau gwahanol o anifeiliaid gael eu paratoi ar gyfer eu cludo mewn perthynas â’u hiechyd, eu llesiant, eu diogelwch a’u diogeledd
  10. sut dylai anifeiliaid gwahanol gael eu llwytho a’u dadlwytho
  11. y cyfyngiant, yr ataliaeth a’r llety teithio sydd eu hangen ar anifeiliaid gwahanol 
  12. y dulliau o gynnal mesurau hylendid a bioddiogelwch wrth gludo anifeiliaid a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
  13. pryd mae angen ynysu/cwarantîn wrth gludo a’r ffordd y gellir cyflawni hyn
  14. pryd mae anifail yn anaddas i’w gludo
  15. y ffactorau sydd yn gallu achosi straen i anifeiliaid gwahanol wrth eu cludo a’r ffyrdd o leihau’r rhain
  16. y sefyllfaoedd a allai godi, sydd yn benodol i’r rhywogaethau sy’n cael eu cludo
  17. pwysigrwydd cael cynlluniau wrth gefn i ymdrin â sefyllfaoedd annisgwyl, fel torri i lawr neu oedi arall wrth gludo
  18. pwysigrwydd cadarnhau bod trefniadau cywir yn cael eu gwneud ar gyfer derbyn yr anifeiliaid yn eu cyrchfan
  19. eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a llesiant anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
  20. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi, a’r amser y dylid cynnal cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Deddfwriaeth gyfredol llesiant anifeiliaid:

Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid 
Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 
Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 
Rheoliadau lles anifeiliaid wrth eu cludo 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS55

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gofal anifeiliaid, Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant, Tyddynnwr, Crofftwr, Cludwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; cludiant; cratio; bocsio; trwyddedau; pasbortau