Cynnal a chadw cofnodion yn y gweithle

URN: LANCS5
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Cynhyrchu Da Byw,Aml-grefftau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 01 Maw 2009

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw gwybodaeth yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cofnodi gwybodaeth yn gywir a'i chadw yn y lleoliad cywir.

Mae'r rhan fwyaf o weithleoedd yn defnyddio cyfrifiaduron i gadw a chynnal cofnodion ond mae systemau papur yn dal i gael eu defnyddio.

Gallai'r cofnodion gynnwys y rheiny sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith sy'n cael eu cynnal er mwyn helpu'r busnes i redeg yn effeithlon. Bydd angen i chi gadw unrhyw gyfrinachedd angenrheidiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 Dod o hyd i’r dull cofnodi priodol yn gywir ar gyfer y wybodaeth y mae angen i chi ei chofnodi

P2 Os nad oes cofnodion yn bodoli ar hyn o bryd, eu sefydlu, neu weithio gyda’r bobl briodol i’w sefydlu

P3 Ychwanegu cofnodion sydd yn gywir, yn gyflawn ac, yn achos cofnodion ysgrifenedig, yn ddealladwy

P4 Cofnodi gwybodaeth o fewn y graddfeydd amser gofynnol

P5 Cadw cofnodion wedi eu diweddaru yn gywir yn y lleoliad cywir

P6 Dilyn gweithdrefnau pan fydd cofnodion yn cael eu trosglwyddo i leoliad arall

P7 Cynnal diogelwch a chyfrinachedd y wybodaeth a gofnodir, yn unol â’r gofynion

P8 Cymryd y camau gweithredu priodol i ddatrys neu adrodd ynghylch unrhyw wallau neu hepgoriadau sy’n cael eu canfod yn y cofnodion, neu unrhyw broblemau gyda chynnal, cadw neu adfer y cofnodion


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 Y systemau ar gyfer cynnal a chadw cofnodion a ddefnyddir yn y sefydliad

G2 Y cofnodion y mae angen i chi eu diweddaru a ble maent wedi eu lleoli

G3 Y fformat cywir ar gyfer cwblhau cofnodion

G4 Pryd y dylid cwblhau’r cofnodion

G5 Terfynau eich cyfrifoldeb ar gyfer trin a defnyddio cofnodion

G6 Eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth berthnasol

G7 Ar gyfer beth y defnyddir y cofnodion a phwysigrwydd cadw cofnodion cywir

G8 Gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo cofnodion

G9 Cofnodion sydd yn gyfrinachol neu’n sensitif yn fasnachol a sut i drin y rhain

G10 Y mathau o broblemau a allai ddigwydd gyda’r cofnodion, a sut y dylid datrys y rhain

G11 Y person y dylid ei hysbysu ynghylch problemau gyda’r cofnodion

G12 Am ba hyd y mae angen cadw cofnodion.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2014

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU6

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cofnodion; cadw