Monitro a gweithredu rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd

URN: LANCS30
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Garddwriaeth,Gwaith coed,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n monitro ac yn gweithredu rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd sy’n effeithio ar gnydau neu blanhigion.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Os byddwch yn defnyddio rheolyddion cemegol, mae’r rhain yn destun gofynion deddfwriaethol perthnasol ar wahân, a bydd angen i chi feddu ar dystysgrifau cymhwysedd cyfredol. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
  2. cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
  3. cadarnhau’r dulliau, amseriad ac amlder monitro i bennu presenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd 
  4. casglu gwybodaeth fonitro gywir, ar gyfnodau perthnasol, yn ymwneud â phresenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd 
  5. dehongli’r wybodaeth sydd ar gael i nodi graddau’r chwyn, poblogaeth plâu, clefydau, afiechyd a phresenoldeb rheolyddion biolegol
  6. cael cyngor technegol lle bo angen
  7. datblygu cynlluniau addas ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd a chadarnhau eu bod yn cael eu cyfathrebu’n glir i bawb sydd yn gysylltiedig
  8. cadarnhau bod y dulliau rheoli dethol yn unol â’r gofynion deddfwriaethol, y cyfarwyddiadau a'r manylebau perthnasol
  9. nodi argaeledd cyfarpar ac adnoddau sydd yn angenrheidiol i weithredu rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
  10. sicrhau bod yr offer a’r cyfarpar ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd yn cael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â rheoliadau a gofynion y cynhyrchydd
  11. sicrhau bod ailgylchu neu waredu deunydd gwastraff a dros ben, yn cynnwys cemegau, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol
  12. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
  13. gweithredu dulliau rheoli mewn ffyrdd sy’n lleihau’r risg i rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu a’r amgylchedd
  14. cymryd y camau perthnasol, heb oedi, os bydd problemau’n codi wrth reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
  15. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y dulliau rheoli 
  16. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  17. cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â monitro a rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
  2. y mathau o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y rhesymau dros fonitro presenoldeb chwyn, plâu, anhwylderau ac afiechyd a’r problemau y maent yn eu hachosi i’r cnydau neu’r planhigion
  4. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro presenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, yn cynnwys y defnydd o drothwyon ac amserlenni 
  5. effeithiau’r tymor a’r tywydd ar fonitro a’r ffordd y gellir addasu dulliau monitro i ystyried y rhain
  6. sut i nodi chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, ac asesu arwyddocâd eu presenoldeb
  7. ffynonellau cyngor technegol ar reoli chwyn, plau, clefydau ac afiechyd
  8. sut i ddatblygu cynlluniau addas ar gyfer eu rheoli yn unol â’r gofynion deddfwriaethol perthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau
  9. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cynlluniau, neu wedi eu heffeithio ganddynt
  10. y ddeddfwriaeth genedlaethol bresennol sy’n rheoli’r defnydd o driniaethau i reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
  11. y dulliau rheoli biolegol gwahanol ar gyfer rheoli plâu
  12. y dulliau rheoli diwylliannol ar gyfer rheoli chwyn, plâu a chlefydau
  13. rheolaeth integredig plâu a’i manteision a'i hanfanteision 
  14. ymdriniaeth ddiogel a defnydd effeithiol o gemegau a gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli eu defnydd a’u gwaredu 
  15. sut i gynyddu bywyd effeithiol cemegau
  16. y problemau a allai ddigwydd wrth reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, a’r camau perthnasol i’w cymryd
  17. pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  19. pwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol


Cwmpas/ystod


A.     datblygu cynlluniau addas ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd sydd yn cynnwys y canlynol:
(i) dull(iau) rheoli i’w defnyddio (cemegol, biolegol a/neu driniaethol)
(ii) amseru
(iii) y cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen
(iv) gofynion iechyd a diogelwch
(v) mesurau diogelu amgylcheddol
(vi) gofynion monitro

B. gweithredu’r dulliau rheoli canlynol mewn ffyrdd sy’n lleihau’r risgiau i rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu a’r amgylchedd:
(i) cemegol
(ii) biolegol
(iii) triniaethol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai rheolyddion biolegol gynnwys gwyddon, pryfed, nematodau, bacteria neu ffwng

Gallai clefydau fod yn ffyngol, yn feirysol neu’n facterol 

Gallai afiechyd gynnwys diffygion maeth (e.e. diffygion nitrogen neu botasiwm)

Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau’r cynhyrchydd 
gofynion y cwsmer
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnwd
cyfarwyddiadau llafar

Gallai monitro gynnwys arsylwi chwyn a phlâu yn uniongyrchol, arsylwi clefydau yn uniongyrchol, dehongli arwyddion a graddau poblogaeth y plâu, clefydau neu afiechyd

Gallai plâu gynnwys pryfed, gwlithod, malwod, cnofilod neu adar 

Chwyn: planhigyn gwyllt sydd yn tyfu lle nas dymunir ac mewn cystadleuaeth â phlanhigion wedi eu hamaethu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS30

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau, Ffermwr, Rheolwr Fferm, Garddwr, Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Gweithiwr Planhigfa, Tirluniwr, Ffermwyr a Thyfwyr, Tyddynnwr, Coedwigaeth, Coedyddiaeth, Garddwriaeth

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

pryfed; gwlithod; malwod; dulliau rheoli; ffyngol; feirysol; biolegol; maetholyn