Cydlynu a goruchwylio adeiladu a chynnal seilwaith safleoedd ar y tir

URN: LANCS22
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cydlynu a goruchwylio adeiladu a chynnal seilwaith safleoedd ar y tir, sydd yn cynnwys ffiniau a phwyntiau mynediad, llwybrau ac arwynebau, strwythurau, dodrefn safle a draeniad. 

Bydd angen gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau technegol arnoch mewn perthynas ag adeiladu, yn ogystal â dulliau gosod a chynnal ar gyfer pob math o seilwaith safle.

Gallai’r rheiny sydd yn gwneud y gwaith gynnwys llafur uniongyrchol, contractwyr neu wirfoddolwyr.

Mae’n rhaid i unrhyw un sydd yn gweithio gydag offer pweredig, peiriannau neu ddefnyddio cemegau fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am gydlynu gwaith i adeiladu neu gynnal seilwaith safle ar y tir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwirio cynlluniau a manylebau ar gyfer manylion y gwaith sydd yn ofynnol ar gyfer adeiladu a chynnal isadeiledd safle ar y tir
  2. gwneud ymchwil neu arolygon pellach, lle mae angen gwybodaeth ychwanegol
  3. cadarnhau bod cydymffurfio ag amserlenni cynnal yn digwydd, ac ymateb i’r angen am waith brys
  4. ystyried y defnydd o’r safle ac ystyried hyn wrth gydlynu’r gwaith
  5. nodi’r amser gorau i’r gwaith gael ei wneud 
  6. nodi unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd yn eu lle a chael unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu drwyddedau angenrheidiol
  7. cadarnhau bod asesiad risg yn cael ei wneud a bod gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu iechyd a diogelwch y rheiny sydd yn gwneud y gwaith, a defnyddwyr eraill y safle
  8. cadarnhau bod gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu bioddiogelwch y safle
  9. cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gwaith 
  10. nodi a sefydlu argaeledd yr adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith
  11. trefnu gwasanaethau arbenigol i gefnogi gwaith adeiladu a chynnal, lle bo angen
  12. sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad 
  13. pennu’r dulliau gorau ar gyfer cludo cyfarpar, deunyddiau a’r gweithlu i’r safle ac oddi yno
  14. datblygu cynlluniau gwaith a manylebau ar gyfer y gwaith ar fformat perthnasol
  15. rhoi cyfarwyddyd i’r rheiny sydd yn gwneud y gwaith, a rhoi’r holl fanylion angenrheidiol i’w galluogi i gwblhau eu gwaith
  16. parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
  17. goruchwylio’r gwaith adeiladu neu gynnal wrth iddo ddigwydd a sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau yn unol â chynlluniau gwaith a manylebau
  18. cadarnhau bod dulliau gweithio yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion asesu risg a gofynion sefyd-liadol
  19. sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn daclus ac yn ddiogel gan roi sylw dyledus i ddefnyddwyr eraill y safle 
  20. gwerthuso’r gwaith sydd wedi ei gwblhau er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r manylebau
  21. cyfeirio pryderon am gyflwr a nodweddion diogelwch cyfleusterau at yr arbenigwyr perthnasol 
  22. rheoli unrhyw wyriadau o’r gweithgareddau a gynlluniwyd a gweithredu os oes angen newidiadau i’r cynllun
  23. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio, fel sydd yn angenrheidiol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’ch sefydliad
  24. cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, rheoliadau lleol, arweiniad, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  25. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud gan roi sylw dyledus i’w effaith ar yr amgylchedd
  26. sicrhau bod y safle’n cael ei adfer i’r cyflwr angenrheidiol, sydd yn cyd-fynd â’r ardal gyfagos, ar ôl cwblhau’r gwaith
  27. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd adeiladu’r seilwaith a’r gwaith cynnal a chadw dros raddfeydd amser perthnasol
  28. defnyddio canlyniadau’r monitro i lywio gwaith adeiladu a chynnal seilwaith yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i ddehongli cynlluniau a manylebau ar gyfer manylion y gwaith sydd yn angenrheidiol ar gyfer adeiladu a chynnal seilwaith safle ar y tir
  2. sut i gael gwybodaeth ychwanegol trwy ymchwil neu arolygon
  3. yr effaith y mae defnydd gwahanol o dir yn ei chael ar adeiladu a chynnal seilwaith safle ar y tir a sut i gydbwyso anghenion gwrthgyferbyniol wrth gydlynu’r gwaith
  4. y ffactorau eraill i’w hystyried wrth gydlynu’r gwaith i gael ei wneud 
  5. sut i bennu’r amser gorau ar gyfer gwaith adeiladu neu gynnal 
  6. sut mae amserlenni cynnal yn cael eu datblygu a’r gofynion cynnal ar gyfer seilwaith safle gwahanol 
  7. patrymau pydredd deunyddiau adeiladu
  8. goblygiadau unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd yn eu lle
  9. yr amgylchiadau lle mae angen caniatâd neu drwyddedau a sut i fynd ati i gael y rhain
  10. sut i nodi peryglon, asesu risg, a datblygu dulliau gweithio diogel
  11. pwysigrwydd bioddiogelwch a’r mesurau bioddiogelwch angenrheidiol ar gyfer y safle
  12. pwysigrwydd gwneud asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gwaith, a’r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig
  13. sut i bennu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol i wneud y gwaith a sut i sicrhau eu bod ar gael ble a phan mae eu hangen
  14. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer ymdrin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben
  15. pwysigrwydd creu cynlluniau gwaith a manylebau a’r fformat y dylai’r rhain fod ynddo 
  16. pwysigrwydd briffio’r gweithlu a sut i wneud hyn
  17. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â, neu wedi eu heffeithio gan, eich gwaith a sut dylid gwneud hyn
  18. pwysigrwydd goruchwylio’r gwaith sydd yn cael ei wneud er mwyn sicrhau ei fod wedi ei gwblhau yn unol â chynlluniau gwaith a manylebau
  19. y cyfarpar, y peiriannau a’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith a phwysigrwydd sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol
  20. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  21. pwysigrwydd sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn daclus ac yn ddiogel a bod y safle’n cael ei adfer ar ôl cwblhau’r gwaith
  22. y problemau posibl a allai godi wrth adeiladu a chynnal seilwaith safle ar y tir a’r camau i’w cymryd
  23. terfynau eich arbenigedd eich hun a ble i gael cyngor 
  24. pryd dylid defnyddio gwasanaethau arbenigol i gefnogi gwaith adeiladu a chynnal seilwaith
  25. y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
  26. y ddeddfwriaeth berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  27. pwysigrwydd atal niwed i’r amgylchedd wrth wneud gwaith adeiladu a chynnal
  28. pwysigrwydd monitro yn y tymor hwy i bennu effeithiolrwydd gwaith adeiladu a chynnal a’r dulliau gorau o wneud hyn
  29. sut i ddefnyddio canlyniadau monitro i helpu i gynllunio gwaith adeiladu a chynnal yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai ffactorau i’w hystyried gynnwys:
defnydd
cost 
rhychwant oes
gwerth hanesyddol
perthynas â’r dirwedd
cymeriad rhanbarthol
ffactorau daearyddol
hinsawdd/tywydd

Gallai cyfyngiadau a dynodiadau safle gynnwys:
Parc Cenedlaethol
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
RAMSAR
Gwarchodfa Natur Genedlaethol
Parth Cadwraeth Morol
Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
Safle Archaeolegol
Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
Parthau Diogelu Dŵr Yfed
Heneb Gofrestredig (SM)
Adeilad Rhestredig (LB)
Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
Maes Brwydr Cofrestredig (RB) 
Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
Ardal hyfforddiant milwrol

Gallai cynlluniau gwaith a manylebau gynnwys:
darluniau/cynlluniau
asesiad o fapiau safle/delwedd o’r awyr
cofrestrau
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau cynhyrchwyr
gofynion cyfreithiol
canllawiau arfer da
gofynion cwsmeriaid
safon angenrheidiol canlyniad
cyfarwyddiadau llafar


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS22

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Garddwr, Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystadau, Ciper, Rheolwr Ystadau, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Helgig a Bywyd Gwyllt, Ceidwad

Cod SOC

3553

Geiriau Allweddol

safle; strwythurau; dodrefn safle; ffiniau; pwyntiau mynediad; camfeydd; gatiau; rampiau; llwybrau; arwynebau; draeniau