Trin ac atal gwartheg ar gyfer tocio’u traed

URN: LANCFT1
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys trin ac atal gwartheg er mwyn tocio'u traed.

Bydd angen i chi asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â thrin ac atal yr anifail a defnyddio offer atal yn ddiogel ac yn waraidd. Bydd hefyd angen i chi arsylwi ymateb yr anifail i gael ei atal a gweithredu'n briodol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer tocwyr traed gwartheg sydd wedi cael hyfforddiant a chymwysterau priodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 cynnal safon uchel o ymddygiad proffesiynol a moesegol a gweithio o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun

P2 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol anifeiliaid fferm bob amser

P3 gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol

P4 cynnal asesiad risg a chymryd camau priodol i sicrhau bod y peryglon i wartheg, chi eich hun ac unrhyw bobl neu anifeiliaid eraill mor isel â phosibl

P5 paratoi’r ardal waith cyn dechrau ar y gwaith

P6 sefydlu a chynnal mesurau priodol ar gyfer hylendid a bioddiogelwch

P7 paratoi a gwirio cyflwr yr offer sydd ei angen ar gyfer tocio traed, yn cynnwys cyfarpar diogelwch personol (PPE)

P8 wynebu a thrin gwartheg mewn ffordd sy’n debygol o hybu eu cydweithrediad a lleihau trallod

P9 atal yr anifail yn ddiogel ac yn waraidd, gan sicrhau bod y cyffglo’n cael ei ddefnyddio’n gywir a bod yr anifail yn ddiogel ac nad yw mewn trallod

P10 monitro ymddygiad yr anifail ac addasu’r ffordd y mae’n cael ei drin a’i atal mewn ymateb i’w adweithiau

P11 sicrhau bod iechyd a lles yr anifail yn cael ei gynnal yr holl amser

P12 cydnabod hynny pan fydd ymddygiad yn dangos na ddylech barhau gyda’r gweithgaredd

P13 cydnabod pryd i gael cymorth yn trin ac atal yr anifail

P14 sefydlu cofnodion i baratoi ar gyfer cofnodi canfyddiadau, camau gweithredu i’w cymryd ac argymhellion

P15 cynnal cymhwysedd proffesiynol trwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

G2 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid bresennol, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol eraill ar gyfer anifeiliaid fferm, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Milfeddygon Llawfeddygol (1966) yn ymwneud â diagnosis a thriniaeth o glefydau neu anafiadau

G3 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

G4 sut i gynnal asesiad risg a'r mesurau y gellir eu rhoi ar waith i leihau peryglon

G5 pwysigrwydd a'r defnydd cywir o gyfarpar diogelwch personol (PPE)

G6 pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch i leihau'r perygl o ledaenu clefydau neu ddatblygu clefyd milheintus a'r mesurau y gellir eu cymryd

G7 yr offer sy'n ofynnol ar gyfer tocio traed gwartheg a'r gwaith paratoi a chynnal sy'n ofynnol

G8 y mathau gwahanol o gyffglo a ddefnyddir i atal gwartheg a sut i'w ddefnyddio'n ddiogel ac yn gywir

G9 peryglon posibl sy'n gysylltiedig â thrin ac atal gwartheg a sut i leihau'r rhain

G10 sut y dylid wynebu, trin ac atal gwartheg er mwyn hybu lles anifeiliaid a chynnal iechyd a diogelwch

G11 sut i adnabod arwyddion trallod yn yr anifeiliaid sy'n cael eu trin a'u hatal a'r camau gweithredu gofynnol

G12 sut i adnabod sefyllfaoedd lle nad yw'n addas neu'n briodol i berson wynebu, trin neu atal anifail heb gymorth a chanlyniadau ceisio gwneud hynny

G13 Y gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion eraill ar gyfer cynnal cofnodion a'r wybodaeth y dylent ei chynnwys

G14 pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol

G15 pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol a rôl sefydliadau proffesiynol


Cwmpas/ystod

​Clefydau y gellir eu trosglwyddo gan y tociwr:

1 salmonela
2 clwy’r traed a’r genau
3 tarwden
4 troed glonc
5 clefyd Johnes
6 BVD (Dolur Rhydd Feirysol Buchol)
7 IBR (Rhinotracheitis Buchol Heintus)
8 dermatitis digidol

Clefydau milheintus cydnabyddedig:

9 leptosbirosis
10 brwselosis
11 tarwden
12 twbercwlosis
13 salmonela
14 e.coli
15 cryptosporidia

Mesurau i leihau’r perygl o glefydau neu filheintiau:

16 hylendid personol
17 cymorth cyntaf priodol a diogelu clwyfau agored
18 dim bwyta, yfed na smygu tra’n gweithio
19 golchi a diheintio cyffglo ac offer yn drwyadl rhwng ffermydd
20 cadw’r ardal o amgylch y cyffglo yn rhydd rhag carthion yn ystod tocio
21 defnyddio diheintydd addas

Offer angenrheidiol ar gyfer tocio traed gwartheg:

22 ffedog
23 esgidiau glaw
24 troswisg
25 amddiffynwyr garddwrn
26 menig
27 diheintydd
28 cyllyll
29 tocwyr
30 rhathell
31 rhathell dro drydanol (os caiff ei defnyddio)
32 sbectol ddiogelwch
33 ceblau trydan (os cânt eu defnyddio)
34 blociau carnau (blociau crafangau)
35 cyffglo
36 system gofnodi
37 pecyn cymorth cyntaf
38 offer perthnasol arall


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Milheintiau:

Clefydau anifeiliaid y gellir eu trosglwyddo i fodau dynol

Gallai paratoi a chynnal a chadw offer gynnwys sicrhau:

ei fod yn ddiogel ac yn gweithio'n dda
ei fod yn lân
ei fod yn finiog
bod y llafn/bwa ar yr ongl gywir
bod mesurau diheintio a bioddiogelwch priodol (hylendid, glanweithdra) yn cael eu cynnal
bod y cyflenwad trydanol wedi cael ei brofi
bod y ceblau wedi eu llwybro yn ddiogel

Gallai'r ffermwr ddefnyddio cofnodion:

i fodloni gofynion cofnodi sicrhau ffermydd
i asesu prif achosion cloffni ar ffermydd
i hysbysu milfeddyg y fferm ynghylch y gwartheg sydd wedi eu tocio a'r canfyddiadau
i nodi anifeiliaid sy'n peri problem
i nodi anifeiliaid y mae angen triniaeth bellach arnynt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Hyd 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCFT1

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwartheg; anifail; trin; atal; cyffglo