Casglu gwybodaeth am dwf a datblygiad pysgod

URN: LANAqu7
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth i fonitro twf a datblygiad pysgod. Mae'n cynnwys paratoi a chynnal a chadw cyfarpar mesur a chasglu gwybodaeth a ddefnyddir i bennu twf a datblygiad pysgod. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithredfnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn casglu gwybodaeth am dwf a datblygiad pysgod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion perthnasol iechyd a diogelwch
  2. paratoi cyfarpar pwyso a mesur i gasglu gwybodaeth gywir am dwf a datblygiad pysgod
  3. cael samplau cynrychioliadol o bysgod o unedau cadw tra'n amharu cyn lleied â phosibl ar y pysgod sydd ar ôl
  4. anestheteiddio pysgod, lle bo angen, i'r cyfnod cywir o anesthesia
  5. defnyddio cyfarpar mesur yn gywir i bennu twf a datblygiad pysgod
  6. paratoi a thrafod pysgod mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd a lles
  7. cadw cyfarpar mesur mewn cyflwr gweithredol trwy gydol y broses samplu
  8. glanhau a storio cyfarpar mesur pysgod ar ôl ei ddefnyddio
  9. cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch
  10. darparu gwybodaeth i gadw cofnodion twf a datblygiad pysgod yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â'r broses samplu

  2. pwysigrwydd casglu gwybodaeth gywir ar dwf a datblygiad pysgod i gynhyrchiant fferm bysgod

  3. sut gall anesthetigion gael eu defnyddio i gynorthwyo'r gwaith o gasglu data cywir a lleihau'r straen a achosir i bysgod, a sut i sicrhau bod y maint cywir o anesthetig yn cael ei weinyddu
  4. y mesuriadau safonol a ddefnyddir yn gyffredin i nodi maint pysgod unigol
  5. pwysigrwydd cynnal a chadw cyfarpar mesur mewn cyflwr gweithredol, yn cynnwys cadw graddnodau yn gywir
  6. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch
  7. sut i gasglu samplau cynrychioliadol o bysgod
  8. sut caiff asesiadau eu defnyddio i bennu perfformiad er mwyn bodloni targedau cynhyrchu
  9. y cyfarpar â'r dulliau a ddefnyddir i samplu ac asesu pysgod
  10. y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion twf a datblygiad pysgod

Cwmpas/ystod

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn pennu twf a datblygiad pysgod yn cynnwys:

  1. magu pwysau
  2. newidiadau mewn hyd
  3. nodweddion corfforol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu7

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; twf; datblygiad