Bwydo Pysgod

URN: LANAqu6
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â bwydo pysgod yn unol â chyfundrefnau bwydo a nodir, rhai fel mater o drefn ac arbenigol. Mae'n cynnwys cael bwyd, a chynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau bwydo er mwyn gallu bwydo yn gywir. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn bwydo pysgod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion perthnasol iechyd a diogelwch
  2. cynnal storfa fwyd lân ar draws y safle
  3. bwydo pysgod yn unol â manyleb fwydo a nodir, gan wastraffu cyn lleied â phosibl
  4. arsylwi ac adrodd ar ymddygiad bwydo
  5. monitro bwyd sydd yn cael ei fwyta a'i wastraffu
  6. gosod, graddnodi a chynnal cyfarpar bwydo i sicrhau ei fod mewn cyflwr gweithredol da
  7. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau rheoli gwastraff safle
  8. darparu gwybodaeth i gadw cofnodion gweithgareddau bwydo yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â bwydo

  2. y nodweddion â'r mathau o fwyd sydd yn addas ar gyfer bwydo pysgod yn ystod cyfnodau datblygiad gwahanol

  3. y gofynion storio bwyd pysgod yn cynnwys pwysigrwydd rheoli plâu yn effeithiol
  4. pwysigrwydd dilyn amserlenni bwydo a nodir a lleihau gwastraff
  5. sut i adnabod bwyd o ansawdd gwael â'r problemau y gellir eu hachosi os caiff ei roi i bysgod
  6. y mathau gwahanol o systemau bwydo a ddefnyddir ar y safle
  7. pam y mae bwydo'n cael ei addasu mewn ymateb i amodau amgylcheddol
  8. ymddygiad bwydo arferol yn cynnwys arwyddion sydd yn dangos bod pysgod yn llawn
  9. sut gall ansawdd dŵr a gollyngiadau solidau mewn daliant gael eu heffeithio gan weithgaredd bwydo
  10. sut mae cyfraddau bwydo yn cael eu cyfrifo
  11. sut a pham y mae bwydwyr yn cael eu gosod, eu graddnodi a'u cynnal a'u cadw
  12. y systemau a ddefnyddir i fonitro'r bwyd sydd yn cael ei fwyta a gwastraff (yn cynnwys ystyried bwyd o ansawdd gwael, bwyd heb ei fwyta a deunydd pecynnu)

  13. cydrannau bwydydd a'u rôl yn natblygiad pysgod

  14. y ffordd y mae gofynion cwsmeriaid a gofynion ansawdd yn dylanwadu ar gynnwys y bwyd a ddefnyddir
  15. sut mae cyfraddau trosi bwyd yn cael eu cyfrifo ar gyfer stoc pysgod, y ffactorau sydd yn effeithio arno a'i bwysigrwydd i'r broses gynhyrchu
  16. arwyddocâd ariannol costau bwyd wrth gynhyrchu pysgod sydd yn cael eu ffermio
  17. pwysigrwydd hylendid da wrth fwydo pysgod
  18. y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion gweithgareddau bwydo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

cyfundrefn fwydo fel mater o drefn – gweithgareddau bwydo arferol

cyfundrefn fwydo arbenigol – bwydo i gefnogi gofynion penodol e.e. ymprydio, triniaethau mewn bwyd, darparu lliw, deiet gleisiad, imiwno-gyfnerthwyr

amodau amgylcheddol – y tywydd, newidiadau i ansawdd dŵr


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu6

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; bwyd