Rheoli cyfyngiant ar fferm bysgod

URN: LANAqu36
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cyfyngiant ar fferm bysgod. Mae'n cynnwys dylunio a gweithredu arferion fferm sydd yn cefnogi cyfyngiant ac yn lleihau'r posibilrwydd o ddianc.

Bydd y ddeddfwriaeth sydd yn rheoli cymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y fferm bysgod yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.

Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i sefydlu cynllun wrth gefn o ran pysgod yn dianc sydd yn disgrifio'r camau i'w cymryd i:

• ymchwilio i achos y dianc ac ymdrin ag ef
• hwyluso'r gwaith o ddal y pysgod sydd wedi dianc
• adrodd i'r rhanddeiliaid â'r awdurdodau rheoliadol.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am reoli cyfyngiant ar fferm bysgod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn

  2. sicrhau bod arferion gwaith y safle yn cynnal diogeledd a chyfyngiant ac yn lleihau'r perygl o'r pysgod yn dianc

  3. sicrhau bod cyfarpar a chyfleusterau yn cael eu sefydlu a'u cynnal yn unol â'r gofynion cyfreithiol a chanllawiau cynhyrchwyr
  4. sicrhau bod mesurau a rheolyddion atal plâu ac ysglyfaethwyr effeithiol, cyfreithiol yn cael eu sefydlu
  5. datblygu cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc
  6. cyfathrebu gofynion y cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc i bawb sydd yn gysylltiedig â'i weithredu
  7. rheoli'r gwaith o weithredu archwiliadau cyfyngiant
  8. rheoli dianc yn effeithiol yn unol â'r cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc
  9. sefydlu a chynnal cyfathrebiadau effeithiol gyda rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisïau
  10. gwerthuso effeithiolrwydd cyfyngiant
  11. rheoli cofnodion cyfyngiant yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch ar y safle

  2. y gofynion cyfreithiol yn ymwneud â chyfyngiant â'r amgylchedd

  3. rôl a swyddogaeth y cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc
  4. y fframwaith â'r goblygiadau deddfwriaethol presennol yn dilyn torri amodau cyfyngiant
  5. sut mae deddfwriaeth yn rheoli arferion ffermio a chyfyngiant stoc
  6. y gofynion cyfyngiant y rhywogaethau o bysgod sydd yn cael eu ffermio
  7. sut i adrodd am achos o ddianc i'r awdurdod perthnasol
  8. y mesurau y gellir eu defnyddio i leihau effaith plâu ac ysglyfaethwyr
  9. achosion methu â chyfyngu a physgod yn dianc, yn cynnwys y rheiny sydd yn ymwneud â dyluniad ac adeiladwaith fferm bysgod
  10. sut i ddatblygu gweithdrefnau sefydliadol sydd yn ymwneud â chodau ymarfer sy'n berthnasol i'r diwydiant â'r gyfraith
  11. dyluniad a chynllun uned gadw, yn cynnwys cryfderau a gwendidau y systemau sydd yn cael eu defnyddio o ran cyfyngiant
  12. sut mae gweithdrefnau yn cael eu datblygu i leihau'r cyfle i ddianc
  13. y prosesau a ddefnyddir i fonitro cyflwr unedau cadw
  14. y broses archwilio sydd yn berthnasol i gyfyngiant
  15. y camau i'w dilyn i leihau effaith amgylcheddol dianc
  16. sut mae dyluniad ac adeiladwaith unedau cadw a chyfarpar trin yn cynorthwyo cyfyngiant
  17. y peryglon posibl i gyfanwaith unedau cadw
  18. y gofynion archwilio a phrofi unedau cadw
  19. y dulliau y gellir eu defnyddio i ddal pysgod sydd wedi dianc
  20. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau  safle ar gyfer rheoli cofnodion cyfyngiant

Cwmpas/ystod

Mae'r safon hon yn gofyn am y gallu i sefydlu cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc sydd yn disgrifio'r camau i'w cymryd i:

  1. ymchwilio ac ymdrin ag achos y dianc
  2. hwyluso'r gwaith o ddal pysgod sydd wedi dianc
  3. adrodd i randdeiliaid â'r awdurdod perthnasol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

rhanddeiliaid – unrhyw berson, unigolyn neu sefydliad sydd â budd yn safle'r fferm neu'r amgylchedd lleol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu36

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; cyfyngiant