Rheoli’r gwaith o gasglu silod

URN: LANAqu24
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o gasglu silod i gynorthwyo cynhyrchu cregynbysgod. (Diffinnir "Silod" fel cregynbysgod ifanc a had cregynbysgod).

Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i drefnu'r gweithgareddau canlynol:

  • paratoi casglwyr silod
  • defnyddio casglwyr silod yn y môr
  • monitro'r gwath o gasglu silod
  • adennill casglwyr silod
  • trin a storio silod

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli'r gwaith o gasglu silod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle
  2. trefnu'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau'r gweithgareddau a gynlluniwyd o gasglu silod
  3. rheoli gweithgareddau casglu silod i gyflawni'r gofynion cynhyrchu a gynlluniwyd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. sicrhau bod lles silod yn cael ei gynnal wrth gasglu
  5. monitro ac addasu gweithrediadau casglu silod i roi cyfrif am amrywiadau o'r cynhyrchu a gynlluniwyd
  6. rheoli adennill a didoli silod hyfyw trwy roi gweithrediadau casglu a storio silod ar waith yn effeithiol
  7. sicrhau bod lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal

  8. cadw cofnodion casglu silod i fodloni'r gofynion cyfreithiol, yn unol â gweithdrefnau'r safle


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â chasglu silod cregynbysgod
  2. technegau casglu silod sydd yn berthnasol i'r rhywogaethau o gregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
  3. sut i adnabod cyfnodau cylch bywyd y cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
  4. sut i adnabod silod cregynbysgod targed a rhai nad ydynt yn rhai targed, organebau llygru a rhywogaethau o ysglyfaethwyr
  5. sut a phryd i sefydlu gweithgareddau casglu silod er mwyn rheoli a chynyddu casgladau silod
  6. sut i storio a chludo silod cregynbysgod
  7. y dulliau a ddefnyddir i gyfyngu ar weithredoedd ysglyfaethwyr wrth gasglu silod
  8. technegau trin silod sydd yn cyfyngu'r straen a achosir i silod cregynbysgod
  9. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio i reoli'r gwaith o gasglu silod
  10. yr amodau cyfreithiol ac amgylcheddol sydd yn cyfyngu'r detholiad o safleoedd casglu
  11. gofynion adnoddau casglu silod yn ddiogel ac yn effeithiol
  12. ffactorau sydd yn gallu effeithio ar gasglu silod
  13. sut i bennu hyfywedd silod
  14. gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch
  15. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer cadw cofnodion casglu silod

Cwmpas/ystod

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn trefnu'r gweithgareddau canlynol:

  1. paratoi casglwyr silod
  2. defnyddio casglwyr silod yn y môr
  3. monitro'r gwaith o gasglu silod
  4. adennill casglwyr silod
  5. trin a storio silod

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn ystyried amrywiadau o gynhyrchu wedi ei gynllunio oherwydd:

  1. newidiadau mewn amodau amgylcheddol
  2. gweithredoedd ysglyfaethwyr
  3. amrywiadau mewn gollyngiadau silod

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

safleoedd casglu – ardaloedd yn y môr lle mae casglwyr silod wedi cael eu sefydlu

silod hyfyw – silod sydd yn debygol o oroesi mewn amgylchedd fferm bysgod

cynhyrchu wedi ei gynllunio – cynhyrchiant a ragwelir yn seiliedig ar ddata hanesyddol a phrofion

adnoddau – pobl, cyfarpar, storfa, cludiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu24

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

cregynbysgod; silod