Paratoi a chynnal wyau pysgod mewn deorfa

URN: LANAqu17
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal wyau pysgod mewn deorfa bysgod, cyn ac ar ôl iddynt ddeor. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi ac yn cynnal wyau pysgod mewn deorfa.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. paratoi'r ddeorfa bysgod i gyflwr sydd yn addas ar gyfer derbyn wyau pysgod
  3. golchi a diheintio wyau pysgod i baratoi ar gyfer deorfa
  4. amcangyfrif niferoedd wyau pysgod yn ôl cyfaint
  5. sefydlu wyau pysgod ar ddwysedd penodol o fewn unedau cadw
  6. cynnal amodau amgylcheddol o fewn unedau cadw i gynyddu cyfraddau goroesi wyau
  7. monitro ac adrodd ar dymheredd dŵr yn y ddeorfa
  8. symud wyau pysgod marw o unedau cadw, gan amharu cyn lleied â phosibl ar yr wyau sydd ar ôl

  9. rhoi gwybodaeth i gadw cofnodion o amodau deorfa yn unol â gofynion cyfreithiol ac amodau'r safle


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â gwaith y ddeorfa bysgod
  2. gofynion datblygiadol ac amgylcheddol cyfnodau bywyd cynnar y pysgod sydd yn cael eu ffermio
  3. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli symud wyau pysgod rhwng ffermydd gwahanol
  4. pam y mae'n bwysig diheintio wyau pysgod cyn eu sefydlu mewn deorfa
  5. gweithdrefnau safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch mewn deorfa
  6. problemau iechyd ac anhwylderau cyffredin sydd yn gysylltiedig â deorfeydd, a'r arwyddion sydd yn nodi eu presenoldeb
  7. sut i amcangyfrif niferoedd wyau pysgod yn ôl cyfaint
  8. sut i adnabod wyau pysgod hyfyw
  9. y term "diwrnodau gradd" a sut mae'n cael ei gyfrifo
  10. pam y mae'n bwysig symud wyau marw o ddeorfeydd ac amharu cyn lleied â phosibl ar wyau eraill
  11. gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli gwaredu marwolaethau a gwastraff
  12. argyfyngau deorfeydd a'r gweithdrefnau i'w dilyn os nodir argyfwng
  13. y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion amodau deorfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

diwrnodau gradd**dull o gyfrifo cyfradd twf pysgod trwy luosi nifer y diwrnodau gan dymheredd cyfartalog y dŵr mewn graddau Celsius ar gyfer y cyfnod hwnnw o amser e.e 5 diwrnod gyda thymheredd dŵr o 10 gradd = 50 o ddiwrnodau gradd. Mae gan rywogaethau gwahanol o bysgod ofynion "diwrnod gradd" i gyrraedd y cyfnod twf gofynnol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu17

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

wyau pysgod; deorfa