Sefydlu a chynnal deori wyau gwyrdd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â sefydlu a chynnal deori wyau pysgod gwyrdd (eogaidd). Gellir ei chymhwyso i unrhyw ddeorfa bysgod lle mae'r deori wedi ei gwblhau. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn sefydlu ac yn cynnal deori wyau gwyrdd ar gyfer pysgod sydd yn cael eu ffermio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- caledi a pharatoi wyau pysgod ar gyfer eu deori
- amcangyfrif wyau pysgod yn ôl cyfaint
- sefydlu wyau gwyrdd i ddeori yn ôl dwysedd penodol mewn ffordd sydd yn osgoi achosi niwed
- sefydlu a chynnal llif dŵr a hylendid trwy gydol y deori
- cynnal amodau amgylcheddol wrth ddeori i gyflawni'r datblygiad gofynnol
- arsylwi ac adrodd ar ddatblygiad wyau pysgod
- darparu gwybodaeth i gadw cofnodion deori yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â deori wyau pysgod
- sut a pham y mae wyau'n cael eu paratoi ar gyfer eu deori
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch mewn deorfa
- y broses a ddefnyddir i greu pob ŵy triploid benywaidd mewn brithyll
- sut i amcangyfrif wyau pysgod yn ôl cyfaint
- sut a pham y mae hyfywedd wyau pysgod yn cael eu gwirio
- anghenion datblygiadol ac amgylcheddol wyau'r pysgod sydd yn cael eu ffermio
- y term "diwrnodau gradd" a sut mae'n cael ei gyfrifo
- datblygiad pysgod a chyfnodau deori
- y gwahaniaethau rhwng wyau llygaid ac wyau gwyrdd
- argyfyngau deorfa a'r gweithdrefnau i'w dilyn os bydd argyfwng yn cael ei nodi
- y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion deori
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
wyau gwyrdd – wyau sydd newydd eu ffrwythloni ac yn fregus iawn
wyau llygaid – wyau sydd wedi datblygu i'r pwynt lle gellir gweld lliw y llygad. Yn ystod y cyfnod hwn maent yn llai bregus a gellir eu symud.
diwrnodau gradd – **dull o gyfrifo cyfradd twf pysgod trwy luosi nifer y diwrnodau gan dymheredd cyfartalog y dŵr mewn graddau Celsius ar gyfer y cyfnod hwnnw o amser e.e 5 diwrnod gyda thymheredd dŵr o 10 gradd = 50 o ddiwrnodau gradd. Mae gan rywogaethau gwahanol o bysgod ofynion "diwrnod gradd" i gyrraedd y cyfnod twf gofynnol.