Paratoi a thrin problemau iechyd mewn pysgod

URN: LANAqu14
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a thrin problemau iechyd mewn pysgod a helpu i gyflwyno Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle. Gellir ei gymhwyso i unrhyw sefyllfa lle mae pysgod yn cael eu trin i gynnal eu hiechyd a'u cyflwr. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon yn cynnwys gweinyddu triniaethau mewnol ac allanol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn trin problemau iechyd mewn pysgod sydd yn cael eu ffermio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. adnabod a chyflyru pysgod yn barod ar gyfer gweinyddu triniaethau yn ddiogel
  3. paratoi triniaethau a chyfarpar i fodloni gofynion penodol, yn unol â Chynllun Iechyd Pysgod y safle
  4. paratoi cyfleusterau trin i ynysu stoc targed yn effeithiol yn ystod triniaeth, ac osgoi halogi stoc nad ydynt yn rhai targed a'r amgylchedd
  5. gweinyddu triniaethau i bysgod yn gywir yn unol â chyfarwyddiadau milfeddygol tra'n monitro pysgod yn barhaus am arwyddion o straen
  6. defnyddio cyfleusterau triniaeth i reoli gweinyddu triniaethau i osgoi halogi stoc eraill a'r amgylchedd (h.y. unedau cadw a chynwysyddion)
  7. cymryd camau brys, o fewn terfynau eich awdurdod eich hun, mewn ymateb i unrhyw effaith niweidiol a achosir gan driniaethau
  8. monitro pysgod wedi eu trin i werthuso adferiad ac effeithiolrwydd triniaethau
  9. darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion triniaethau a weinyddir i bysgod yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol wrth drin problemau mewn pysgod
  2. y peryglon sydd yn gysylltiedig â thriniaethau a'r rhagofalon a ddefnyddir i'w rheoli
  3. y ffordd y mae pysgod yn cael eu cyflyru yn barod ar gyfer triniaeth
  4. y ffordd y caiff asesiadau risg hwsmonaeth eu defnyddio i sicrhau triniaethau llwyddiannus ac i gynnal lles pysgod
  5. y cyfarpar a'r dulliau a ddefnyddir i drin pysgod
  6. sut i baratoi'r cyfarpar a ddefnyddir i drin pysgod
  7. pwysigrwydd paratoi pysgod yn llawn cyn gweinyddu triniaethau
  8. sut i wybod pan nad yw pysgod wedi eu paratoi yn llawn ac yn barod ar gyfer triniaeth
  9. pam y mae'n bwysig paratoi triniaeth yn unol â gofynion cyfreithiol
  10. y ffordd y mae dognau ar gyfer triniaethau yn cael eu cyfrifo
  11. pam y mae'n bwysig gweinyddu triniaeth yn unol â chyfarwyddiadau milfeddygol a gofynion Cynllun Iechyd Pysgod y safle
  12. pam y mae'n bwysig rheoli triniaethau i ddiogelu stoc eraill a'r amgylchedd
  13. pam y mae angen i bysgod sydd yn cael eu trin gael eu hynysu a'u rheoli
  14. sut i adnabod arwyddion straen yn ystod triniaeth
  15. y camau brys i'w cymryd mewn ymateb i unrhyw effeithiau niweidiol a achosir gan driniaethau
  16. diben cyfnodau diddyfnu a sut i gyfrifo cyfnodau diddyfnu
  17. pam y mae'n bwysig cadw cofnodion cywir o driniaethau a weinyddir i bysgod
  18. pwysigrwydd monitro a gwerthuso pysgod sydd yn cael eu trin
  19. gweithdrefnau safle ar gyfer gwaredu cemegion a thriniaethau

  20. y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion o driniaethau a weinyddir i bysgod


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) – cyfeirir ato hefyd fel Cynllun Iechyd Milfeddygol (VHP) neu Gynllun Iechyd a Lles Milfeddygol (VHWP)

cyflyru – dileu porthiant

triniaethau – e.e. bath, chwistrelliad, triniaeth mewn porthiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu14

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; problemau iechyd; trin