Paratoi unedau cadw i dderbyn pysgod

URN: LANAqu1
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi unedau cadw i dderbyn pysgod. Mae'n cynnwys darparu amgylchedd diogel a glân, fydd yn cynnal iechyd a lles y pysgod i gael eu stocio. Mae'n cynnwys y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu amodau yn yr unedau cadw ac i ddeall mesurau sydd yn gwaith o reoli dylanwadau allanol, fel gweithredoedd rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau rheoli safonol y safle.

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn sicrhau bod yr uned gadw wedi'i sefydlu i dderbyn a chadw pysgod yn ddiogel a'u cadw'n ddiogel rhag gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr, a'ch bod yn gwneud gwaith yn unol â chodau ymarfer y diwydiant.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi unedau cadw i dderbyn pysgod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. paratoi a glanhau unedau cadw fel eu bod mewn cyflwr addas i dderbyn pysgod
  3. gwirio diogeledd a chyfanrwydd yr unedau cadw
  4. cadarnhau bod amodau amgylcheddol yn yr unedau cadw yn addas ar gyfer derbyn pysgod

  5. sicrhau bod y mesurau a'r dyfeisiadau atal plâu ac ysglyfaethwyr yn cael eu cymhwyso'n effeithiol i unedau cadw

  6. sicrhau bod cyfleusterau bwydo priodol ar gael

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogewlch perthnasol sydd yn gysylltiedig â pharatoi unedau cadw
  2. yr amodau amgylcheddol (tymheredd, ansawdd a chyfaint y dŵr) sydd yn ofynnol gan y rhywogaethau o bysgod sydd yn cael eu ffermio
  3. y ffordd y gall amodau amgylcheddol niweidiol effeithio ar baratoi unedau cadw
  4. pwysigrwydd sicrhau diogeledd a chyfanrwydd unedau cadw
  5. plâu ac ysglyfaethwyr cyffredin ac effaith eu presenoldeb ar stoc fferm
  6. y mesurau a'r dyfeisiadau atal plâu ac ysglyfaethwyr cyfreithiol perthnasol
  7. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch ar gyfer pysgod sydd yn cael eu ffermio
  8. y mathau gwahanol o unedau cadw a ddefnyddir
  9. pwysigrwydd mesur gallu cario unedau cadw er mwyn sicrhau bod gofynion lles y pysgod i gael eu stocio yn cael eu bodloni
  10. y ffordd y mae gallu cario unedau cadw yn cael ei gyfrifo
  11. y ffordd y mae cynlluniau cynhyrchu yn rheoli'r broses stocio
  12. y mathau gwahanol o systemau bwydo a ddefnyddir mewn unedau cadw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

unedau cadw – cyfleusterau a ddefnyddir i gadw pysgod neu gregynbysgod mewn amgylchedd cynhyrchu wedi'i reoli e.e. cewyll, llociau, pyllau, tanciau, leiniau hir, rhedfeydd, rhwydi llusern, sanau/tiwbiau, sachau ac ati

gallu cario – biomas y pysgod y gall corff o ddŵr eu cynnal


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu1

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; unedau cadw