Gwneud apwyntiadau ar gyfer cleientiaid a’u hanifeiliaid

URN: LANAnC7
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol,Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud apwyntiadau ar gyfer cleientiaid a'u hanifeiliaid ac ymdrin ag ymholiadau.

Mae'n bwysig cynnal perthynas gyda chleientiaid, er mwyn iddynt barhau i gael hyder yng ngwasanaethau'r busnes.  Mae hefyd yn bwysig gweithio fel rhan o dîm, yn cael cyngor gan uwch aelodau'r staff pan fo angen.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gwneud apwyntiadau ar gyfer cleientiaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod unrhyw un sydd yn gwneud ymholiadau yn cael cymorth yn unol â'r polisi sefydliadol a'i fod yn cael cymorth ychwanegol lle bo angen
  2. nodi diben yr ymholiad a chyfeirio ymholiadau na ellir ymdrin â nhw at y person perthnasol ar gyfer eu gweithredu
  3. rhoi gwybodaeth i gleientiaid yn ymwneud â'r gwasanaethau gofal anifeiliaid
  4. cael mynediad at gofnodion presennol neu baratoi cofnodion newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. ymdrin â'r holl geisiadau am apwyntiadau yn unol â'r polisi sefydliadol
  6. gwneud apwyntiadau sydd yn berthnasol ar gyfer yr anifail ac yn addas at y diben ac yn sicrhau'r defnydd mwyaf cynhyrchiol o amser
  7. cadarnhau argaeledd gwasanaethau fydd yn ofynnol, lle bo angen, gyda chydweithwyr perthnasol
  8. cadarnhau manylion yr apwyntiad gyda'r cleient
  9. cael y wybodaeth angenrheidiol i wneud yr apwyntiad, er enghraifft, manylion y cleient, manylion yr anifail, a hanes yr anifail
  10. cadarnhau bod manylion yr apwyntiad yn gywir ac wedi eu cofnodi yn y lle iawn
  11. rhoi gwybodaeth fel y bo angen i gleientiaid am bolisïau sefydliadol a gwasanaethau.

  12. cydymffurfio â pholisïau diogelu data a chyfrinachedd cleientiaid yn unol â Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR)


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cymryd negeseuon gan gleientiaid
  2. y rhesymau dros gadarnhau hunaniaeth y cleient a'u gofynion ar gyfer gwasanaethau
  3. pwysigrwydd gwneud apwyntiadau ar gyfer cleientiaid a'u hanifeiliaid sy'n bodloni eu gofynion
  4. y cyflyrau sydd yn gofyn am apwyntiadau brys a sut dylid trefnu'r rhain
  5. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
  6. sut i wneud apwyntiadau a chael mynediad at gofnodion cleientiaid
  7. sut i gael y wybodaeth berthnasol a rhoi'r cyngor gofynnol i gleientiaid
  8. y gwasanaethau sefydliadol sydd ar gael, eu hyd a'u cost
  9. sut mae'r system apwyntiad sefydliadol yn gweithio
  10. terfynau eich awdurdod eich hun wrth wneud apwyntiadau
  11. y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n effeithio ar symud anifeiliaid.

  12. yr egwyddorion a'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ddiogelu data a chyfrinachedd cleientiaid


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC7

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

derbynfa; apwyntiadau; cleientiaid