Darparu a gwerthuso therapi corfforol anifeiliaid

URN: LANAnC64
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Lled-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu a gwerthuso therapi corfforol anifeiliaid.

Mae’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn cyfyngu’r gweithgareddau y gellir eu gwneud gan y rheiny nad ydynt yn llawfeddygon milfeddygol cymwys.  Dylid gwneud yr holl weithgareddau o fewn cyfyngiadau’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael eu hyfforddi a chadarnhau bod eu hymarfer yn defnyddio data sydd yn gadarn yn wyddonol, safonau a pholisïau trugarog. Mae’n rhaid iddynt weithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’u profiad.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau therapy corfforol i anifeiliaid y mae pobl eraill yn berchen arnynt, wrth gael eu hatgyfeirio gan lawfeddyg milfeddygol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol, y Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol

  3. asesu arferion mewn ffordd gadarn i bennu eu haddasrwydd, effeithlonrwydd a goblygiadau lles
  4. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  5. asesu'r ffordd y gallai anghenion anifeiliaid gael eu bodloni tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
  6. asesu'r risgiau posibl i iechyd a diogelwch wrth ddarparu therapi corfforol i anifeiliaid
  7. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal
  8. asesu addasrwydd yr anifail ar gyfer cynllun y driniaeth therapi corfforol, gan ystyried ei iechyd a'i ymddygiad, ymlaen llaw ac ar ddiwrnod y driniaeth
  9. cyflwyno'r anifail i'r amgylchedd therapiwtig, y cyfarpar â’r dull o drin
  10. rhoi dull o drafod a rheoli ar waith sydd yn addas ar gyfer yr anifail cysylltiedig a'i ofynion trin, er mwyn lleihau'r risg i'r anifail, i chi eich hun â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith
  11. addasu trafod a rheoli'r anifail mewn ymateb i'w adweithiau a'i ymddygiad

  12. cwblhau paratoadau sydd yn ofynnol cyn triniaeth cyn y therapi corfforol, gallai hyn gynnwys cael cawod, tynnu dillad neu garthenni'r anifail neu glipio

  13. darparu triniaeth therapi corfforol i fodloni anghenion yr anifail, ei gyflwr a'i ofynion
  14. monitro a chofnodi ymateb a chynnydd yr anifail trwy gydol y cynllun trin corfforol
  15. monitro'r anifail am arwyddion poen, trallod neu fraw ac ymateb yn unol â hynny
  16. gwybod pryd y gallai cynnydd yr anifail gael ei ddylanwadu gan weithgaredd yn yr amgylchedd uniongyrchol
  17. gwybod pryd y gallai ymddygiad yr anifail ddangos na ddylech barhau gyda'r gweithgaredd
  18. cydnabod sefyllfaoedd sydd angen atgyfeirio yn ôl at y llawfeddyg milfeddygol sydd yn atgyfeirio
  19. cwblhau gweithdrefnau ar ôl triniaeth a sicrhau bod yr anifail mewn cyflwr addas i ddychwelyd at ei berchennog neu geidwad
  20. gwerthuso ac adolygu addasrwydd y cynllun trin fel sydd yn ofynnol
  21. sicrhau bod ymateb a chynnydd yr anifail o ran y cynllun trin yn cael ei gyfathrebu i'r perchennog neu'r ceidwad ac i'r llawfeddyg milfeddygol sydd yn atgyfeirio
  22. rhoi cyngor i'r perchennog neu'r ceidwad am ofal anifeiliaid yn dilyn triniaeth a disgrifio unrhyw weithredoedd y dylid eu gwneud
  23. cynllunio, cofnodi a gwerthuso eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
  24. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol mewn perthynas â'ch rôl a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gynnal cymhwysedd proffesiynol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a sut gellir cyflawni hyn
  6. y ffordd y gall anghenion anifeiliaid o dan eich dyletswydd gofal gael eu hasesu a'u trin
  7. anatomeg a ffisioleg y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
  8. effeithiau ffisiolegol y therapi corfforol ar yr anifail
  9. effeithiau posibl y therapi corfforol ar ymddygiad yr anifail
  10. pwysigrwydd cyflwyno'r anifail i'r amgylchedd, cyfarpar â’r dull o drin, â’r technegau y gellir eu defnyddio i wneud hyn
  11. y rhagofalon i'w cymryd i atal anaf, straen neu waethygu cyflyrau presennol yr anifail
  12. pwysigrwydd cydnabod ymddygiad sydd yn dangos na fyddai'n briodol parhau gyda'r gweithgaredd
  13. y ffactorau allai achosi trallod, poen neu fraw i'r anifeiliaid a sut i adnabod ac asesu'r arwyddion, ac ymateb posibl yr anifail
  14. sut i adnabod sefyllfaoedd brys â’r camau i'w cymryd i ymdrin â nhw

  15. egwyddorion cymorth cyntaf anifeiliaid â’r protocolau sydd yn berthnasol i ddarparu cymorth cyntaf a thriniaeth frys i anifeiliaid yn eich canolfan therapi

  16. sut i nodi namau neu niwed i'r cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer triniaethau amrywiol therapi anifeiliaid, â’r camau gofynnol i'w cymryd

  17. sut i gydnabod eich galluoedd a'ch cyfyngiadau eich hun yn ymwneud â thrafod a rheoli anifeiliaid a sut gellir gwella'r rhain
  18. y ffordd y gall eich gweithredoedd, gweithredoedd anifeiliaid eraill a gweithredoedd pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo effeithio ar ymddygiad, lles a chynnydd yr anifail yn ystod therapi corfforol
  19. sut i weithredu a gwerthuso cynllun trin ar gyfer anifail, gan ystyried cyflyrau meddygol penodol neu ar ôl llawdriniaeth
  20. pam y mae'n bwysig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r perchennog neu'r ceidwad am y camau sydd yn cael eu cymryd
  21. sut i gynghori'r perchennog neu'r ceidwad ynghylch y camau gofynnol i'w cymryd ar ôl triniaeth a phwysigrwydd arsylwi ymddygiad yr anifail
  22. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â darparu a gwerthuso therapi corfforol anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  23. eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol fel gweithiwr parabroffesiynol iechyd a lles anifeiliaid a phwysigrwydd diogelwch yswiriant addas

Cwmpas/ystod

Gallai cyngor i'r perchennog gynnwys:

  1. cyfarpar â’r dulliau trin neu therapi sydd ar gael
  2. trosolwg o ystod o raglenni a chyfarpar, addasrwydd, meini prawf dethol a buddion cysylltiedig
  3. paratoadau cyn triniaeth/therapi
  4. gofal ar ôl y driniaeth/therapi
  5. goblygiadau cleient mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud ag anifeiliaid:

  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
  • Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad)
  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC62

Galwedigaethau Perthnasol

Therapïau Anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; adsefydlu; hydrotherapi; therapi