Gweithio gydag anifeiliaid mewn addysg neu adloniant

URN: LANAnC61
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag anifeiliaid mewn addysg neu adloniant.

Mae'n cynnwys cael yr anifail i ymgyfarwyddo â'r amgylchedd y bydd yn gweithio ynddo yn ogystal â chynorthwyo'r perfformiwr i baratoi ar gyfer gweithio gyda'r anifail, gan gadarnhau eu bod yn ymwybodol o'u diogelwch eu hunain a diogelwch yr anifail.  Mae hefyd yn cynnwys gweithio gyda'r anifail ar set gynhyrchu adloniant a chadarnhau bod y ffilmio yn digwydd yn effeithlon tra bod lles yr anifail yn cael ei gynnal.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am weithio gydag anifeiliaid mewn addysg ac adloniant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad

  2. cadarnhau bod yr holl ofynion cyfreithiol a statudol perthnasol ar gyfer gweithio gydag anifeiliaid ar y set yn cael eu cynnal

  3. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  4. cadarnhau bod y polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol â’r gofynion asesu risg wedi eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  5. gwirio a chadarnhau bod anghenion lles yr anifail yn cael eu cynnal yn ystod eu cyfnod ar y set gynhyrchu addysg neu adloniant
  6. cadarnhau bod milfeddygon arbenigol ar gael ar gyfer sefyllfaoedd brys
  7. asesu'r risg posibl i iechyd a diogelwch yn y maes gwaith hwn
  8. cysylltu â'r bobl berthnasol yn ymwneud â goblygiadau iechyd a diogelwch wrth gael anifail ar set gynhyrchu addysg neu adloniant
  9. cyflwyno'r anifail i'r set gynhyrchu addysg neu adloniant mewn ffordd sydd yn cynnal ei iechyd a'i les
  10. cynghori'r timau cynhyrchu addysg neu adloniant ynghylch yr amodau gwaith sydd yn ofynnol ar gyfer yr anifail
  11. sicrhau bod yr anifail yn gallu cyflawni'r weithred ofynnol yn unol â'i hyfforddiant blaenorol

  12. cyflwyno'r anifail i'r bobl y mae'n gweithio gyda nhw ar y set gynhyrchu addysg neu adloniant, gan ddefnyddio dulliau priodol a diogel

  13. rhoi cyfarwyddyd i'r perfformiwr ar anian a natur yr anifail y maent yn gweithio gydag ef
  14. rhoi cyfarwyddyd i'r perfformiwr am dechnegau trafod a gorchmynion i'w helpu i weithio gyda'r anifail
  15. cynorthwyo'r perfformiwr i ymgyfarwyddo â'r anifail
  16. monitro a chynnal diogelwch yr anifail â’r perfformiwr bob amser, gan weithredu os yw'r anifail, y perfformiwr neu unrhyw un sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, mewn perygl
  17. adrodd wrth y person perthnasol am unrhyw broblemau neu anawsterau posibl wrth gyflwyno'r anifail â’r perfformiwr i'w gilydd
  18. mynd â'r anifail yn ddiogel i'r set gynhyrchu addysg neu adloniant neu oddi yno

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth weithio gydag anifeiliaid mewn addysg neu adloniant a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  4. y gofynion cyfreithiol a statudol perthnasol sydd yn berthnasol i anifeiliaid sydd yn gweithio ar y set gynhyrchu addysg neu adloniant
  5. sut i gynnal anghenion lles yr anifail trwy gydol eu cyfnod yn yr amgylchedd cynhyrchu addysg neu adloniant
  6. anghenion lles penodol anifeiliaid yn ystod eu cyfnod ar y set gynhyrchu
  7. anghenion diogelwch anifeiliaid penodol a sut i adnabod peryglon ac asesu risg i'r anifail â’r perfformiwr
  8. y dulliau y gellir cyflwyno anifeiliaid unigol i setiau cynhyrchu addysg neu adloniant
  9. y math o amodau gwaith y mae anifeiliaid penodol eu hangen ar y set gynhyrchu addysg neu adloniant
  10. sut i ganfod symptomau straen y mae'r anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw yn debygol o'u harddangos
  11. y math o drafod amgen allai fod ar gael os yw'r anifeiliaid yn canfod y set gynhyrchu addysg neu adloniant yn ormod o straen
  12. pwysigrwydd sicrhau bod anghenion lles yr anifail yn cael eu bodloni yn ystod eu cyfnod ar y set gynhyrchu addysg neu adloniant
  13. y technegau ffilmio, saethu ac onglau'r camera a ddefnyddir yn gyffredin er mwyn hwyluso ffilmio'r anifail yn y weithred ofynnol
  14. y technegau cyfarwyddiadol i helpu perfformwyr i drafod anifeiliaid
  15. sut i gynorthwyo'r perfformwyr i ymgyfarwyddo ag anifeiliaid
  16. sut i wybod nad yw'r perfformiwr neu'r anifail yn ddiogel neu'n dioddef straen gormodol a pha gamau i'w cymryd
  17. wrth bwy i adrodd am broblemau ac anawsterau posibl mewn perthynas â chyflwyno'r anifail â’r perfformiwr
  18. y math o ddigwyddiadau sydd yn digwydd yn gyffredin wrth weithio gydag anifeiliaid ar y set gynhyrchu addysg neu adloniant â’r camau i'w cymryd

  19. pam y mae angen i drinwyr barhau i fod ar gael ar y set gynhyrchu addysg neu adloniant pan fydd anifeiliaid yn gweithio

  20. y gofynion gofal ar gyfer yr anifail yn dilyn y perfformiad


Cwmpas/ystod

Amodau gwaith:

  1. tymheredd
  2. tywydd
  3. golau
  4. gofod
  5. amserau gweithio gorau
  6. hyd yr amser gweithredol
  7. gwisg, colur a gwisgoedd ychwanegol

Digwyddiadau a allai ddigwydd wrth weithio gydag anifeiliaid mewn addysg neu adloniant:

  1. anifail sydd yn dioddef straen
  2. dod ar draws anawsterau wrth weithio gyda'r anifail
  3. gohirio'r cynhyrchu
  4. anifail ddim yn perfformio

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud ag anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC59

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol y Cyfryngau

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; addysg; adloniant; ffilm; teledu; set