Cynllunio, rheoli a gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes

URN: LANAnC55
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli a gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd, profiad â’r gofynion deddfwriaethol perthnasol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes, yn cynnwys cerdded cŵn, lletya gartref, gwarchod anifeiliaid anwes/cartrefi, lletya yn ystod y dydd a gwasanaethau cludo anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig

  3. cadarnhau bod y polisïau â’r gofynion asesu risg amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  4. datblygu cynllun, gyda nodau a pholisïau wedi eu diffinio'n glir, ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  5. diffinio cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymdrin â phroblemau a allai godi wrth ddarparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  6. datblygu gweithdrefnau i gefnogi darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  7. cadarnhau bod cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar ac unrhyw adnoddau eraill sydd yn ofynnol ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes yn llwyddiannus
  8. sicrhau bod gan bawb sydd yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes y sgiliau â’r wybodaeth sydd yn ofynnol i wneud y gweithgareddau
  9. cyfrifo goblygiadau cost eich cynllun
  10. rheoli darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  11. monitro a gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes, gweithredu a gwneud newidiadau i'r cynllun lle bo angen
  12. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth gynllunio gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol cysylltiedig
  4. yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  5. ble a phryd i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol
  6. y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer eich cynllun
  7. pwysigrwydd datblygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  8. sut i sefydlu'r gofynion adnoddau ar gyfer darparu gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes llwyddiannus
  9. pwysigrwydd cadarnhau bod gan staff y sgiliau â’r wybodaeth sydd yn ofynnol i ddarparu'r gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  10. pwysigrwydd asesu effeithiolrwydd cost y cynllun
  11. y mathau o broblemau a allai godi a sut dylid ystyried y rhain yn y cynllun
  12. y cyfreithiau perthnasol sydd yn llywodraethu'r defnydd o feddyginiaethau anifeiliaid
  13. sut i reoli a monitro darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes
  14. pwysigrwydd gwerthuso darpariaeth gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes ac adolygu ac ailedrych ar eich cynllun i gadarnhau ei fod yn parhau i fodloni'r nodau â’r amcanion
  15. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

Yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddatblygu cynllun i gyflwyno gwasanaethau gofal anifeiliaid anwes:

  1. yr ystod o wasanaethau gofal anifeiliaid anwes a ddarperir, y ffordd y gall y cynllun amrywio yn ôl gwasanaeth a gofynion anifeiliaid unigol a'u perchnogion
  2. y rhywogaethau sydd wedi eu cynnwys, â’r brîd, os yw'n berthnasol
  3. asesiad anghenion y gofynion lles ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn derbyn gofal
  4. gofynion tai a hwsmonaeth
  5. gofynion deietegol a bwydo
  6. mynediad a thrafod gan bobl
  7. rhyngweithio gydag anifeiliaid eraill
  8. gofynion diogelwch a diogeledd
  9. gofynion hyfforddiant a dulliau priodol i'w defnyddio
  10. gofynion ymarfer corff a dulliau priodol i'w defnyddio
  11. monitro iechyd, sydd yn briodol i'r rhywogaeth
  12. gofyniad ar gyfer brechlynnau, yn unol â'r rhywogaeth
  13. adnabod yr anifail, yn cynnwys sganio am ficrosglodyn
  14. gofynion ar gyfer triniaethau proffylactig
  15. mynediad at sylw milfeddygol a'i ddarpariaeth
  16. trefniadau brys
  17. gofynion cludo
  18. gofynion deddfwriaethol a thrwyddedu
  19. yswiriant ac atebolrwydd priodol
  20. ystyriaethau bioddiogelwch
  21. rheoli gwastraff
  22. unrhyw ofynion arbennig neu gyfyngiadau

Problemau a allai godi:

  1. materion iechyd
  2. clefydau hysbysadwy
  3. ynysu
  4. Argyfyngau
  5. anifeiliaid yn dianc
  6. yr angen am ewthanasia
  7. materion lles anifeiliaid
  8. materion iechyd a diogelwch bodau dynol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC70

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

cerdded cŵn; gwarchod anifeiliaid anwes; lletya gartref; anifail anwes; gofal dydd