Cynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid

URN: LANAnC52
Sectorau Busnes (Suites): Technoleg Anifeiliaid,Gweithgareddau Milfeddygol Lled-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid. 

Bydd hyn yn cynnwys cynllunio a gweithredu'r gweithdrefnau â’r protocolau ar gyfer hylendid a bioddiogelwch a'u sefydlu wrth weithio gydag anifeiliaid.

Mae trefniadau hylendid a bioddiogelwch da yn hanfodol ar gyfer gweithredu unrhyw fusnes neu sefydliad yn ymwneud ag anifeiliaid yn llwyddiannus.  Dylent fod yn rhan annatod o'r rheolaeth barhaus ac yn ffactorau allweddol wrth hybu iechyd a lles anifeiliaid.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am gynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynllunio, gweithredu a rheoli gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch ar gyfer yr anifeiliaid ar y safle

  2. nodi ac asesu ffynonellau cyngor ac arweiniad am hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid

  3. datblygu polisi ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid i leihau'r risg o glefydau a heintiau
  4. datblygu, gweithredu a rheoli gweithdrefnau ar gyfer rheoli heintiau
  5. datblygu, gweithredu a rheoli gofynion penodol ar gyfer rheoli heintiau
  6. cadarnhau bod holl weithdrefnau a phrotocolau'r safle yn cael eu datblygu yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig
  7. cadarnhau bod asesiadau risg ar gyfer hylendid a bioddiogelwch y safle yn cael eu gwneud, a chadarnhau bod arferion rheoli yn ceisio lleihau'r posibilrwydd o dorri rheolau hylendid a bioddiogelwch
  8. cadarnhau bod holl weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle y cytunwyd arnynt yn cael eu cyfathrebu a'u deall gan bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cynnwys staff, contractwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid
  9. cadarnhau bod systemau ar gyfer cadw cofnodion yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer hylendid a bioddiogelwch y safle
  10. cadarnhau bod yr holl arferion gwaith yn hybu iechyd a diogelwch a'u bod yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig
  11. gwerthuso addasrwydd gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle a'u diweddaru yn unol â hynny

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr angen am weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch ar y safle wrth reoli anifeiliaid, a goblygiadau peidio â chael y rhain

  2. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol ar hylendid a bioddiogelwch wrth weithio gydag anifeiliaid

  3. sut i gynllunio gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch ar y safle yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. y risg posibl o gyswllt a micro-organebau heintus wrth weithio gydag anifeiliaid
  5. egwyddorion ac achosion heintiau, trawshalogi, trosglwyddo a chytrefu
  6. ystyr ac arwyddocâd y termau: pathogenig; ddim yn bathogenig; milheintiol; anthropofilheintiol; hysbysadwy; heintus ac ymledol
  7. y cyngor y dylid ei roi i eraill i leihau'r risg o heintiau gydag anifeiliaid
  8. yr ystod o gyflyrau iechyd a all fod angen cwarantîn a sut i sefydlu a chynnal amodau cwarantîn
  9. sut i leihau lledaeniad heintiau neu drawshalogiad
  10. y dulliau gwahanol o hylendid dwylo a'u defnydd cywir
  11. y mathau â’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) a gofynion gwisg ar gyfer hylendid a bioddiogelwch safle wrth weithio gydag anifeiliaid
  12. y mathau o dechnegau diheintio a sterileiddio sydd ar gael a sut i'w defnyddio
  13. y defnydd o bolisïau sydd yn rheoli mynediad i ardaloedd gwahanol o'r amgylchedd gwaith, yn cynnwys parthau a rhwystrau amddiffynnol
  14. sut i ddatblygu polisi i leihau'r risg o salwch, heintiau neu glefydau er mwyn rheoli iechyd a lles anifeiliaid
  15. pam y mae'n bwysig annog adrodd am unrhyw gyflyrau iechyd personol a allai gynyddu'r risg o drosglwyddo haint neu glefyd, yn cynnwys gwrthimiwnedd ac alergeddau
  16. yr angen i asesu risg ar gyfer hylendid a bioddiogelwch yn gyffredinol a manylion unrhyw safonau penodol
  17. sut i sicrhau bod yr holl weithdrefnau â’r protocolau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cyfathrebu a'u gweithedu yn unol â chyfarwyddiadau gweithle a gofynion cyfreithiol perthnasol
  18. pwysigrwydd sefydlu system ar gyfer cadw cofnodion sydd yn bodloni'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer hylendid a bioddiogelwch safle
  19. pwysigrwydd cadw cofnodion wrth olrhain cyswllt ar gyfer clefydau heintus
  20. cyfrifoldebau eich sefydliad yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a chodau ymarfer ac, yn arbennig, y gofynion ar gyfer sylweddau a allai fod yn beryglus
  21. yr awdurdodau allanol perthnasol sydd wedi eu hawdurdodi i archwilio'r safle, a beth fydd yn ofynnol yn yr archwiliad
  22. pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle a gwneud newidiadau pan fydd angen

Cwmpas/ystod

Gallai gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch gynnwys:

  1. bioddiogelwch safle
  2. gofynion hylendid ar gyfer cyfleusterau, cyfarpar a phersonél
  3. storio a gwaredu gwastraff

Gallai polisi ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid gynnwys:

  1. gofynion deietegol

  2. gofynion llety

  3. gofynion monitro iechyd ar gyfer y rhywogaeth
  4. gofynion ar gyfer triniaethau proffylactig
  5. sylw milfeddygol

Gallai gweithdrefnau ar gyfer rheoli heintiau gynnwys:

  1. darparu a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  2. y safon hylendid sydd yn ofynnol ar gyfer personél
  3. darparu a defnyddio dulliau a deunyddiau diheintio neu sterileiddio
  4. arferion ac amserlenni rheoli heintiau
  5. arwyddion a labelu mesurau bioddiogelwch

Gallai gofynion penodol ar gyfer rheoli heintiau gynnwys:

  1. anifeiliaid newydd yn cyrraedd
  2. ymweld ag anifeiliaid
  3. symud anifeiliaid
  4. a oes risg cynyddol o heintio neu drosglwyddo
  5. amheuaeth o haint neu glefyd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Anifail: defyddir y term hwn i gynnwys pob rhywogaeth; fodd

bynnag, gall rhywogaethau penodol o anifeiliaid fod angen mesurau bioddiogelwch gwahanol.

Amgylchedd gwaith: defnyddir y term hwn i ddisgrifio'r ardaloedd

gwahanol a allai letya anifeiliaid yn barhaol neu dros dro.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC44

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid, Rheolwr Cyfleuster Anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; gofal; hylendid; bioddiogelwch; rheoli heintiau; milhaint