Cynllunio a monitro sefydlu a rheoli poblogaethau anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a monitro sefydlu a rheoli poblogaethau anifeiliaid.
Byddwch yn gallu creu cynlluniau sydd yn creu cydbwysedd rhwng y diben a fwriadwyd ar gyfer sefydlu a rheoli â’r cyfyngiadau â’r cyfleoedd cysylltiedig. Mae hefyd yn cynnwys dewis a gweithredu dulliau monitro â’r gallu i weithredu os nad yw sefydlu a rheoli yn gweithio.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cynllunio ac yn monitro sefydlu a rheoli poblogaeth anifeiliaid gwyllt neu anifeiliaid sydd i gael eu rhyddhau i'r gwyllt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion sefydlu a rheoli poblogaeth anifeiliaid
nodi'r cyfyngiadau â’r cyfleoedd sydd yn berthnasol i sefydlu a rheoli poblogaeth anifeiliaid
- datblygu cynlluniau sydd yn cyflawni cydbwysedd rhwng y diben a fwriadwyd â’r risg â’r cyfleoedd â’r cyfyngiadau
- nodi a chael unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau angenrheidiol gan yr awdurdodau perthnasol fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth bresennol
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r cynlluniau a sefydlu argaeledd yr adnoddau hyn
- creu cynlluniau sydd yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol ar gyfer eu gweithredu yn y safle penodedig
- cyflwyno a chyfathrebu cynlluniau i bawb sydd yn gysylltiedig â'r cynllun, neu wedi eu heffeithio ganddo
- dewis dulliau monitro sydd yn addas ar gyfer y cynlluniau sefydlu a rheoli ac ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu
- monitro sefydlu a rheoli'r amlder gorau i werthuso cynnydd yn erbyn y cynllun a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth leol a chenedlaethol, canllawiau a chodau ymarfer perthnasol
cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogewlch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau sefydliadol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd sefydlu a rheoli poblogaethau anifeiliaid wrth fodloni'r canlyniad dymunol ynghylch y graddfeydd amser gofynnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y diben a fwriadwyd, cwmpas ac amcanion sefydlu a rheoli poblogaethau anifeiliaid ac effaith y gweithgaredd hwn ar yr amgylchedd cyfagos
y dulliau ar gyfer nodi'r cyfleoedd â’r cyfyngiadau wrth sefydlu a rheoli poblogaethau anifeiliaid
- y gofynion â’r ddeddfwriaeth berthasol yn ymwneud â sefydlu a rheoli poblogaethau anifeiliaid
- y dulliau cynllunio â’r amgylchiadau pan maent yn berthnasol
- yr amgylchiadau lle mae angen caniatâd neu drwyddedau a sut i wneud cais amdanynt a'u cael
- y dulliau sydd ar gael ar gyfer asesu targedau twf poblogaeth anifeiliaid
- y dulliau sydd ar gael ar gyfer cyfrifo maint a mathau'r cyfleusterau sydd yn ofynnol ar gyfer twf posibl poblogaeth anifeiliaid
sut i ffurfio cynlluniau sydd yn bodloni'r amcanion, gan ystyried y cyfleoedd â’r cyfyngiadau
sut i bennu'r adnoddau sydd yn ofynnol a sut i sicrhau eu bod ar gael yn y lleoliad ac ar yr adeg a gytunwyd
- pwysigrwydd creu cynlluniau gwaith a manylebau a sut i wneud y rhain
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r gweithlu a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- y ffactorau sydd yn effeithio ar sefydlu poblogaethau anifeiliaid a sut gellir rheoli'r rhain
- y ffactorau sydd yn cynorthwyo twf anifeiliaid a sut gellir annog y rhain
y dulliau sydd ar gael ar gyfer monitro cynnydd yn erbyn y cynllun
y camau y dylech eu cymryd os oes problemau yn gweithredu'r cynllun
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â phoblogaethau anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
pwysigrwydd monitro hirdymor i bennu a yw sefydlu a rheoli wedi bod yn effeithiol yn cyflawni'r canlyniad dymunol, â’r dulliau o wneud hyn
pwysigrwydd rhannu gwybodaeth a phrofiadau gydag eraill yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae cyfleoedd a chyfyngiadau yn cynnwys y canlynol:
- cyfreithiol
- amgylcheddol
- cymdeithasol, diwydlliannol ac esthetig
- economaidd
- ffisegol
- sefydliadol
- amseru/tymoroldeb