Cynnal gweithgareddau ar ôl mewnblannu microsglodion

URN: LANAnC50
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Lled-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â cynnal gweithgareddau ar ôl mewnblannu microsglodion. Mae'n cynnwys rhoi cyngor i berchennog neu geidwad yr anifail, cwblhau cofnodion a chynnal hylendid a bioddiogelwch.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu deddfwriaeth ac arweiniad presennol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod yr anifail wedi ei gofrestru ar y cronfeydd data gofynnol.

Gallai ceidwad yn y safon fod yn ofalwr maeth, cynorthwyydd gofal anifeiliaid mewn canolfan achub, swyddog lles anifeiliaid mewn canolfan achub, gweithwyr proffesiynol o fewn y polisïau, diogeledd ac ati.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn ymwneud â mewnblannu microsglodion o dan groen cŵn, cathod, cwningod a ffuredau yn unig.  Dylai'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith mewnosod fod yn ymwybodol o'r amgylchiadau y mae microsglodyn yn cael ei ystyried yn weithred llawdriniaeth filfeddygol yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gysylltiedig â gosod microsglodion mewn anifeiliaid.  Nid yw'n drwydded i ymarfer. I gyflawni gweithgareddau ar ôl mewnblannu microsglodyn mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau'r hyfforddiant gofynnol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gweithio yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol a Rheoliadau Microsglodion presennol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  3. gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig ac ymarfer sefydliadol
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  6. hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am unrhyw broblemau posibl ar ôl mewnblannu microsglodyn ac esbonio'r sefyllfaoedd lle dylid cael cyngor milfeddygol
  7. hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am y gofynion ôl-ofal ar ôl mewnblannu

  8. cofrestru'r anifail ar gronfa ddata sydd yn cydymffurfio â DEFRA, lle mae'n berthnasol i'ch rôl

  9. cadw cofnod o rif y sglodyn a manylion y perchennog neu'r ceidwad at ddibenion ôl-olrhain yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol diogelu data
  10. hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am eu cyfrifoldebau mewn perthynas â chofrestru'r anifail a'i ficrosglodyn â’r angen i ddiweddaru'r manylion

  11. rhoi cofnod o'ch manylion cyswllt i'r perchennog neu'r ceidwad er mwyn iddynt allu cysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw ymholiadau

  12. egluro'r taliad sydd ei angen, lle bo angen, esbonio sut cafodd y swm hwn ei gyfrifo a chytuno sut bydd y taliad yn cael ei wneud
  13. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â gofal yr anifail, yn cynnwys milfeddyg yr anifail, a darparu'r cofnodion perthnasol lle bo angen
  14. glanhau a storio'r offer â’r cyfarpar gofynnol, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisi sefydliadol
  15. ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth fewnblannu microsglodion mewn anifeiliaid a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol â’r Rheoliadau Microsglodion presennol mewn perthynas â'ch rôl a therfynau eich awdurdod a mewnblannu microsglodion

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a sut gellir cyflawni hyn
  6. y problemau posibl ar ôl mewnblannu microsglodyn a phryd dylid cael cyngor milfeddygol
  7. y cyngor â’r wybodaeth fydd eu hangen i chi eu rhoi i berchennog neu geidwad yr anifail ar ôl mewnblannu
  8. sut i gofrestru'r anifail ar gronfa ddata sydd yn cydymffurfio â DEFRA ar ôl mewnblannu microsglodyn a phwysigrwydd gwneud hyn, os yw'n berthnasol i'ch rôl

  9. y ffioedd ar gyfer gwasanaethau, y ffordd y mae'r rhain yn cael eu cyfrifo, yn cynnwys costau a threthi, â’r rheswm dros bob math o ffi, lle bo angen

  10. sut i brosesu taliadau, ac unrhyw ffurflenni perthnasol y mae angen eu cwblhau, lle bo angen
  11. pwysigrwydd hysbysu'r perchennog neu'r ceidwad am eu cyfrifoldebau ar gyfer cwblhau a chynnal y manylion sydd yn cael eu cadw ar y gronfa ddata gofrestru
  12. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â mewnblannu microsglodion a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
  13. sut i lanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisïau sefydliadol
  14. sut i drafod, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisi sefydliadol
  15. eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol a phwysigrwydd yswiriant addas

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Anifail:

At ddiben y safon hon, mae'r term "anifail" yn cyfeirio at gi, cath, cwningen a ffured.

Gallai deddfwriaith lles anifeiliaid fod fel a ganlyn:

  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Gallai gofynion ôl-ofal mewnblannu microsglodyn fod fel a ganlyn:

  • archwilio'r safle mewnblannu a beth i edrych amdano
  • cyngor ynghylch pryd mae'r safle mewnblannu yn ddiogel i'w drafod
  • cyngor ynghylch pryd y gall yr anifail wneud ymarfer corff nesaf
  • sganio'r microsglodyn ar ôl ei fewnblannu
  • adrodd am adweithiau niweidiol ar-lein i VMD
  • microsglodion yn symud
  • ymddangosiad lwmp neu chwyddo
  • methiant i sganio microsglodyn mewn anifail y mae'n hysbys ei fod wedi cael ei fewnblannu

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC65

Galwedigaethau Perthnasol

Gosod microsglodion mewn anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

gosod microsglodion; anifeiliaid; cŵn; cathod; cwningod; ffuredau