Dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid

URN: LANAnC46
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Lled-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.

Mae'r safon yn cynnwys dylunio a datblygu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid trwy osod amcanion a thargedau. Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso'r gwaith o weithredu rhaglen hyfforddiant a chynnydd y person a'r anifail cysylltiedig.

Dylai'r holl weithgareddau gael eu cynnal yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau bod eu hymarfer yn cydymffurfio â safonau a pholisïau trugarog, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn dylunio ac yn gwerthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. asesu sut i ddarparu ar gyfer anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
  5. cadarnhau diben a'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer yr hyfforddiant gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig

  6. cael a dehongli gwybodaeth am yr anifail o'r ffynonellau perthnasol, gallai hyn fod yn berchennog, ceidwad neu weithwyr milfeddygol proffesiynol

  7. asesu galluogrwydd a photensial yr unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid
  8. asesu anghenion hyfforddiant yr unigolion a'r anifeiliaid a sefydlu amcanion hyfforddiant
  9. ddylunio rhaglen hyfforddiant sydd yn berthnasol i amcanion gofynnol yr unigolyn sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid
  10. gwerthuso dylanwadau amgylcheddol a dewis gweithgareddau a dulliau hyfforddi addas i gyflawni'r canlyniad dymunol
  11. nodi'r adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgareddau hyfforddiant
  12. trafod a chytuno ar y rhaglen hyfforddiant gyda'r unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid, gan ofalu cadarnhau eu bod yn deall eu rôl yn y canlyniadau a'r targedau a cytunwyd arnynt
  13. asesu'r canlyniadau lles posibl ar yr anifail o ganlyniad i'r dull hyfforddi a'r cyfarpar a ddewisir, ac unioni unrhyw broblemau
  14. cael adborth ar gynnydd yr hyfforddiant, yn cynnwys iechyd ac ymddygiad yr anifail ac addasu'r rhaglen hyfforddiant os oes angen
  15. gwerthuso a chofnodi canlyniad yr hyfforddiant yn erbyn y rhaglen yn rheolaidd, a gweithredu i ddatrys sefyllfaoedd lle canfyddir bod gweithgareddau, dulliau neu adnoddau hyfforddi yn anaddas
  16. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a chael cyngor proffesiynol lle bo angen, gan atgyfeirio achosion lle bo angen
  17. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu rheoli a'u cadw fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  18. cynllunio, cofnodi, gwerthuso ac adlewyrchu ar eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth ddylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd diogelwch yswiriant, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
  5. y ffordd y gallai anghenion lles yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw gael eu gwerthuso a'u trin
  6. sut i sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal trwy gydol y rhaglen hyfforddiant a sut i wybod pryd y gallai eich ymddygiad neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod yn yr anifail
  7. dibenion a fwriadwyd ar gyfer y rhaglen hyfforddiant a sut i nodi amcanion y rhaglen hyfforddiant er mwyn i unigolion allu gweithio gydag anifeiliaid
  8. sut i gael gwybodaeth am yr anifail a sut gallai'r wybodaeth hon effeithio ar ddyluniad rhaglen hyfforddiant
  9. ymddygiad arferol, iaith corff a dulliau cyfathrebu yr anifail sydd angen hyfforddiant
  10. pwysigrwydd asesu'r unigolion sydd eisiau gweithio gydag anifeiliaid a sut i ddewis dulliau asesu addas
  11. y ffordd y mae unigolion ac anifeiliaid yn dysgu'r ffactorau corfforol, seicolegol ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar ddysgu
  12. sut i ddylunio rhaglen hyfforddiant gyda thargedau hyfforddi realistig ar y cyd â'r unigolion cysylltiedig
  13. y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer hyfforddi unigolion sydd yn gweithio gydag anifeiliaid
  14. sut i ddewis gweithgareddau hyfforddi, dulliau ac adnoddau perthnasol ar gyfer yr hyfforddiant, a phwysigrwydd asesu addasrwydd yr unigolion a'r anifeiliaid ac unioni unrhyw faterion
  15. egwyddorion a chymhwysiad ymarferol damcaniaeth ddysgu
  16. pwysigrwydd monitro a gwerthuso'r broses hyfforddi a sut i adolygu'r rhaglen hyfforddiant lle bo angen
  17. sut i wybod pryd gall canlyniadau hyffordddiant ddangos nad yw'r unigolion a/neu'r anifeiliaid yn addas ar gyfer y gweithgaredd neu i weithio gyda'i gilydd
  18. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a'r ffordd orau o wneud hyn
  19. ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
  20. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

  21. eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth berthnasol am yr anifail:

  1. hanes bywyd
  2. galluoedd corfforol
  3. oed
  4. iechyd
  5. deiet
  6. statws atgenhedlu
  7. cyfnod hormonaidd
  8. lefel hyfforddiant bresennol
  9. natur/nodweddion
  10. rhywogaethau, brîd a rhieni
  11. hanes meddygol
  12. ysgogwyr ysgogiadol ac effeithiau
  13. amgylchedd – byw, gweithio, hyfforddi/dysgu
  14. deddfwriaeth

Galluoedd a photensial yr unigolion:

  1. anghenion corfforol y person
  2. anghenion dysgu y person
  3. anghenion seicolegol y person

Adnoddau:

  1. personél
  2. cymhorthion/cyfarpar hyfforddiant
  3. cymhorthion/cyfarpar trafod

  4. Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai deddfwriaith lles anifeiliaid fod fel a ganlyn:

  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC53

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddiant ac Ymddygiad Cŵn, Hyfforddiant ac Ymddygiad Anifeiliaid, Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; hyfforddiant; unigolion