Ymdrin ag anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd

URN: LANAnC4
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymdrin ag anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.  Mae'n cynnwys y sgiliau sydd yn angenrheidiol i ymdrin ag amrywiaeth o anifeiliaid yn ddiogel ac yn effeithiol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch, hylendid a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn ymdrin ag anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  3. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles yr anifail, yn ystod y gwaith
  4. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r cyfarwyddiadau, arferion busnes â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  6. mynd at anifeiliaid, o dan oruchwyliaeth, mewn ffordd sydd yn lleihau trallod i'r anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
  7. defnyddio technegau trin anifeiliaid diogel, o dan oruchwyliaeth, ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
  8. ymdrin ag anifeiliaid mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles a'u diogelwch, yn lleihau straen ac yn annog eu cydweithrediad
  9. monitro ymddygiad yr anifail a'i ymateb i gael ei drin ac adrodd am broblemau wrth y person perthnasol heb oedi

  10. rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen neu anaf

  11. hybu lles yr anifail bob amser ac addasu eich ymddygiad chi, neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, i osgoi gweithredoedd a allai achosi pryderon lles
  12. adnabod ymddygiad neu adweithiau corfforol yn yr anifeiliad a allai ddangos materion lles neu broblemau eraill ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol

  13. gwybod pan fydd ymddygiad anifail yn dangos na ddylech barhau gyda'r gweithgaredd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cwblhau gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau gan y goruchwyliwr
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth sy'n ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau eich sefydliad
  4. pwysigrwydd â'r defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth ymdrin ag anifeiliaid a sut i gyflawni hyn
  6. sut a ble i gael gwybodaeth am dymer ac ymddygiad arferol yr anifeiliaid y byddwch yn ymdrin â nhw

  7. y technegau ar gyfer ymdrin â'r anifeiliaid cysylltiedig

  8. gofynion lles anifeiliaid a sut i gynnal eu hiechyd a'u lles
  9. y ffactorau gwahanol sydd yn gallu effeithio ar ymddygiad anifail a beth i'w wneud os yw'r ffactorau hyn yn bresennol
  10. pam y mae'n bwysig monitro ymateb anifail i gael ei drin a sut i adnabod ymatebion negyddol
  11. wrth bwy y dylech adrodd am unrhyw newidiadau mewn ymddygiad anifail neu unrhyw ymatebion negyddol i ymdrin, a chanlyniadau posibl peidio ag adrodd am y rhain
  12. sut i adnabod cyflyrau ymddygiadol ac emosiynol mewn anifeiliaid yn cynnwys: ofn, ymosodedd, tawelu, gorbryder, chwarae, ymlacio a salwch
  13. sut gall eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, effeithio ar ymddygiad yr anifail ac achosi pryderon lles.

  14. pwysigrwydd adnabod ymddygiad sydd yn dangos na fyddai'n briodol parhau gyda'r gweithgaredd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

O29NAC1.2

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; ymdrin