Steilio a chaboli côt ci

URN: LANAnC39
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â steilio a chaboli côt ci gan ddefnyddio dulliau tocio amrywiol.

Mae'n cynnwys defnyddio technegau trafod perthnasol, adnabod mathau o gotiau a siâp pennau a dulliau tocio cywir i gyflawni'r canlyniad dymunol.

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, y ci â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu'r ddyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn steilio ac yn caboli côt ci.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. cadarnhau bod yr ardal waith ar gyfer steilio a chaboli côt y ci yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod i'w defnyddio
  6. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol
  7. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  8. arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci a chofnodi hyn lle bo angen
  9. mynd at y ci, ei drafod a'i atal mewn ffordd sydd yn sicrhau lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch

  10. steilio a chaboli'r ci yn unol â gofynion y cleient, y cynllun y cytunwyd arno â’r math o frîd

  11. defnyddio'r dulliau tocio cywir ar gyfer math a steil y gôt
  12. creu'r siâp gofynnol ar gyfer y corff â’r gwddf
  13. creu'r siâp gofynnol ar gyfer y coesau, y traed â’r cynffon
  14. creu'r siâp gofynnol ar gyfer y pen â’r clustiau
  15. cwblhau eich gwaith o fewn y graddfeydd amser a gadarnhawyd gyda'r cleient, gan gynnal lles y ci yr holl amser
  16. ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
  17. glanhau, sterileiddio a storio'r offer â’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer steilio a chaboli yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi sefydliadol, ac adrodd am unrhyw namau
  18. trosglwyddo'r ci i lety addas yn barod ar gyfer ei gasglu
  19. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth steilio a chaboli cotiau cŵn a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  6. y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer steilio a chaboli côt ci a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal y rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
  7. pam y mae'n bwysig arsylwi ac asesu iaith corff y ci cyn dechrau gwaith ac arwyddion i chwilio amdanynt
  8. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn a ble i gael cyngor ac arweiniad lle bo angen
  9. mathau o gotiau Kennel Club UK a'u nodweddion
  10. sut i fynd at gŵn, eu trafod a'u hatal mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  11. y mathau gwahanol o fridiau a chotiau cŵn â’r technegau torri â’r llinellau tocio ar gyfer bob un
  12. sut i farnu'r maint cywir o flew i'w dorri neu ei dorri â siswrn a pham y mae'n bwysig peidio â thynnu gormod
  13. sut i gynnal dulliau tocio gwahanol
  14. pryd y bydd angen teneuo a chyfuno
  15. sut i gyflawni'r siâp gofynnol ar gyfer y corff â’r gwddf
  16. sut i gyflawni'r siâp gofynnol ar gyfer y coesau, y traed â’r cynffon
  17. sut i gyflawni'r siâp gofynnol ar gyfer y pen â’r clustiau
  18. pam y mae angen gofal penodol wrth dynnu blew ychwanegol o ardal y llygaid, y clustiau, yr ardal rhefrol â’r organau cenhedlu o fewn terfynau eich rôl
  19. y technegau ar gyfer steilio a chaboli
  20. y graddfeydd amser ar gyfer cwblhau gweithgareddau, yn unol â pholisi'r gweithle a gofynion y cleient

  21. arwyddion trallod mewn cŵn â’r camau y dylid eu cymryd pan fydd y rhain yn cael eu harsylwi

  22. sut i drin, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
  23. sut i archwilio, glanhau a sterileiddio offer a chyfarpar â’r dull cywir o'u storio

  24. sut i ddarparu llety addas ar gyfer y ci rhwng cyfnodau ysgrafellu

  25. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â steilio a chaboli cotiau cŵn a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

Defnyddio'r offer â’r cyfarpar canlynol wrth steilio a chaboli côt ci

  1. clipwyr a llafnau

  2. siswrn

  3. siswrn teneuo
  4. offer stripio

steilio a chaboli'r mathau canlynol o gotiau:

  1. gwlân

  2. weiar

  3. sidan
  4. dwbl – hir a byr
  5. llyfn

cyflawni'r siapiau pen canlynol:

  1. pen crwn
  2. pen gydag aeliau rhanedig byr
  3. pen gydag aeliau rhanedig hir
  4. pen gydag aeliau sydd yn syrthio yn y canol
  5. pen glân
  6. wyneb glân

defnyddio'r dulliau tocio canlynol:

  1. côt corff wedi ei dorri â siswrn
  2. côt corff sylfaenol wedi ei stripio â llaw
  3. côt uwch wedi ei stripio â llaw
  4. côd ci adara wedi ei stripio a llaw
  5. côt corff wedi ei dorri
  6. siapiau coesau a thraed wedi eu torri â siswrn
  7. cynffon wedi ei dorri â siswrn/wedi ei dorri neu gyfuniad
  8. cyfuno

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol

Gallai cyfarpar a dillad amddiffynnol gynnwys:

  • menig
  • ffedog

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC48

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgrafellu cŵn

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

ci; ysgrafellu; steil; côt