Gwerthuso gwybodaeth sydd yn berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid

URN: LANAnC36
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso gwybodaeth sydd yn berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid, y gellir ei defnyddio fel tystiolaeth bosibl ar gyfer gweithredu yn erbyn unigolion. Byddai hyn yn cynnwys amheuaeth o fethu â bodloni anghenion lles anifeiliaid, yn cynnwys cam-drin, niwed neu esgeulustod.

Mae'n cynnwys gwerthuso'r wybodaeth o ran ei harwyddocâd, ei dilysrwydd a'i dibynadwyedd. Lle bo angen, mae'n rhaid i chi egluro'r wybodaeth sydd yn amwys neu'n annelwig, a chael safbwyntiau arbenigol. Mae'r safon hefyd yn cynnwys argymell gwneuthurwyr penderfyniadau i weithredu.

Defnyddir y term "ceidwad" i ddynodi'r unigolyn sydd yn gyfrifol am reolaeth a lles yr anifail; gall hwn fod yn berchennog neu beidio.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth berthnasol lles anifeiliaid trwy ymchwilio i fethiannau a nodir i fodloni anghenion lles anifeiliaid a gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill i gynorthwyo'r gwaith o erlyn y rheiny sydd wedi methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid.

Mae'r rheiny sydd yn ymgymryd â'r rôl hon yn debygol o fod yn gweithio i gorff cydnabyddedig sydd yn gyfrifol am ddiogelu lles anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso'r wybodaeth sydd yn berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid gan ddefnyddio'r dulliau perthnasol

  2. nodi ffeithiau o dystiolaeth a gwybodaeth sydd ar gael sydd yn berthnasol i adroddiadau o ddigwyddiadau sydd yn ymwneud ag anifeiliaid neu fethiant i fodloni anghenion lles anifeiliaid

  3. gwerthuso a chofnodi arwyddocâd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth a baratowyd gan eraill, a nodi'r cyfraniad y mae'n ei wneud i'r corff tystiolaeth
  4. cael eglurhad o'r ffynonellau perthnasol os yw gwybodaeth yn annelwig neu'n amwys
  5. gwerthuso cyfanswm y dystiolaeth o ran digonoldeb, dilysrwydd a dibynadwyedd
  6. cael deunydd ychwanegol o ffynonellau perthnasol os yw maint y dystiolaeth yn anghyflawn
  7. adolygu tystiolaeth a gwybodaeth yn systematig gan ddefnyddio'r dulliau cywir, a chofnodi ffactorau sydd yn debygol o ddylanwadu ar ganlyniad yr ymchwiliad
  8. cael cyngor arbenigol am broblemau penodol y nodir eu bod yn berthnasol i'r ymchwiliad
  9. gwerthuso'r opsiynau ar gyfer gweithredu trwy bennu'r cyfyngiadau â’r cyfleoedd sydd yn deillio o bob darn o gyngor arbenigol

  10. cyfiawnhau eich argymhellion ar gyfer gweithredu o ran y gyfraith, canlyniadau tebygol parhau â’r siawns o ganlynad llwyddiannus

  11. cyflwyno eich argymhellion ar gyfer gweithredu ar fformat perthnasol a'u hanfon ymlaen at y gwneuthurwr penderfyniadau ar gyfer gweithredu
  12. hysbysu'r unigolyn perthnasol o'i hawliau â’r camau gweithredu a fwriedir os oes posiblirwydd o achos cyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y dulliau sydd ar gael ar gyfer gwerthuso gwybodaeth sydd yn berthnasol i adroddiadau o ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid neu'r methiant i fodloni anghenion lles anifeiliaid

  2. y dulliau sydd ar gael ar gyfer dadansoddi gwybodaeth a chasglu data

  3. sut i bennu arwyddocâd a pherthnasedd y wybodaeth
  4. sut i bennu digonoldeb, dilysrwydd a dibynadwyedd y wybodaeth
  5. ble i gael deunydd ychwanegol os yw'r dystiolaeth yn anghyflawn
  6. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol
  7. cwmpas, cymhwysedd a pherthnasedd y ddeddfwriaeth yn ymwneud â gofal anifeiliaid a chynnal ymchwiliadau
  8. eich cyfrifoldebau eich hun yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  9. y dulliau sydd ar gael ar gyfer gwerthuso a phenderfynu ar opsiynau ar gyfer gweithredu â’r meini prawf y dylid eu defnyddio
  10. yr arwyddion o iechyd ac ymddygiad arferol anifeiliaid
  11. sut i adnabod cyflyrau anarferol anifeiliaid
  12. y ffordd y gall methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid effeithio ar eu hiechyd a'u hymddygiad

Cwmpas/ystod

Argymhellion ar gyfer gweithredu:

  1. camau cyfreithiol
  2. rhybudd anffurfiol
  3. cyngor ac arweiniad
  4. dim gweithredu

Gwerthuso gwybodaeth, yn erbyn y meini prawf perthnasol hyn:

  1. brys o ran gweithredu
  2. difrifoldeb yr honiad
  3. effaith oedi ar les yr anifail

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Deddf Cŵn Peryglus
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE)

* *

Gallai tystiolaeth gynnwys:

  • cyfryngau gweledol e.e. ffotograffau, Teledu Cylch Cyfyng
  • sbesimenau
  • cofnodion milfeddygol
  • datganiadau ysgrifenedig
  • eitemau ffisegol
  • cofnodion yn ymwneud ag ymddygiad a hanes hyfforddiant yr anifail
  • asesiad ymddygiadol
  • gwybodaeth

Mae digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid yn cynnwys:

  • cam-drin
  • niwed
  • esgeulustod

  • cael eu gadael

  • mynd yn strae

  • niwsans

Pum angen lles anifeiliaid:

  • amgylchedd addas (lle i fyw)
  • deiet addas
  • gallu i arddangos ymddygiad arferol
  • diogelwch rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau
  • lletya gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt (lle y bo'n berthnasol)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC11

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; cam-drin; niwed; tystiolaeth