Ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid

URN: LANAnC35
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid.  Dylai hyn gynnwys amheuaeth o fethu â bodloni anghenion lles anifeliaid, yn cynnwys cam-drin, niwed neu esgeulustod.

Mae'n cynnwys derbyn ac ymchwilio i adroddiadau, casglu gwybodaeth a chymryd camau priodol.  Lle bo angen, bydd angen i chi hefyd gynnwys yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith perthnasol.

Defnyddir y term "ceidwad" i ddynodi'r unigolyn sydd yn gyfrifol am reoli lles anifeiliaid, gallai hyn fod yn berchennog neu beidio.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol trwy ymchwilio i adroddiadau o gam-drin, niwed neu esgeuluso anifeiliaid, a gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill i gynorthwyo'r gwaith o erlyn y rheiny sydd wedi methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid.

Mae'r rheiny sydd yn ymgymryd â'r rôl hon yn debygol o fod yn gweithio i gorff cydnabyddedig sydd yn gyfrifol am ddiogelu lles anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. derbyn a chofnodi adroddiadau o ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid

  2. canfod pwy sydd yn berchen ar yr anifail a nodi'r unigolyn sydd yn gyfrifol am ei reolaeth a'i les

  3. dewis dulliau ymchwilio sydd yn rhoi cyfrif am yr holl ffactorau perthnasol
  4. ymchwilio a chasglu'r wybodaeth berthnasol yn ymwneud â'r adroddiad o ddigwyddiad yn ymwneud ag anifail â’r unigolion cysylltiedig
  5. cael deunydd ychwanegol ac eglurhad o'r ffynonellau perthnasol, os yw gwybodaeth neu dystiolaeth yn anghyflawn, yn annelwig neu'n amwys
  6. rhoi rhybudd ar unwaith a hysbysu'r unigolyn cyfrifol o'u hawliau cyfreithiol os oes sail i amau bod trosedd wedi cael ei chyflawni

  7. galw am gymorth i atal anaf neu niwed i chi eich hun, aelodau'r cyhoedd ac anifeiliaid, os yw ymddygiad unigolion yn awgrymu'r posibilrwydd o ymddygiad ymosodol neu sarhaus

  8. cynnal y gweithgaredd yn unol â pholisïau sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac/neu arbenigwyr perthnasol eraill fe y bo angen
  9. creu adroddiadau a chanfyddiadau ymchwiliad sydd yn gywir ac yn gyflawn, a'u trosglwyddo i'r awdurdod perthnasol
  10. storio gwybodaeth yn ymwneud â'r ymchwiliad gan ddilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o ddulliau i bennu hunaniaeth a pherchnogaeth anifail unigol

  2. y dulliau o gael gwybodaeth gan unigolion yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad yn ymwneud ag anifail

  3. pwysigrwydd ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid yn drwyadl a sut i gefnogi cydweithrediad
  4. y mathau o dechnegau holi a sut gellir eu cymhwyso
  5. pwysigrwydd cwblhau cofnodion yn gywir
  6. ystod, cymhwysiad a pherthnasedd deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â methu â bodloni anghenion lles anifeiliaid
  7. eich cyfrifoldebau eich hun yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  8. ffynonellau gwybodaeth arbenigol a sut i gael mynediad atynt
  9. y technegau i leihau a rheoli ymddygiad ymosodol a sarhaus gan unigolion
  10. yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith perthnasol a phŵerau a buddiannau pob un, fel yr heddlu, llywodraeth leol a chenedlaethol, y sector gwirfoddol
  11. y mathau o arbenigwyr allai fod eu hangen, fel llawfeddyg milfeddygol a chanolfan achub anifeiliaid
  12. arwyddion iechyd ac ymddygiad arferol mewn anifeiliaid
  13. y ffordd y gall methu â bodloni anghenion lles effeithio ar iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
  14. y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chasglu, storio a datgelu gwybodaeth

Cwmpas/ystod

Ffactorau perthnasol i'w hystyried:

  1. brys o ran gweithredu
  2. difrifoldeb yr honiad
  3. effaith oedi ar les yr anifail
  4. cost

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Pum angen lles anifeiliaid:

  • amgylchedd addas (lle i fyw)
  • deiet addas
  • gallu i arddangos ymddygiad arferol
  • diogelwch rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau
  • lletya gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt (lle y bo'n berthnasol)

Digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid:

  • cam-drin
  • niwed
  • esgeulustod
  • cael eu gadael
  • mynd yn strae
  • niwsans

Gallai gwybodaeth gynnwys:

  • cyfryngau gweledol e.e. ffotograffau, Teledu Cylch Cyfyng
  • sbesimenau
  • cofnodion milfeddygol
  • datganiadau ysgrifenedig
  • eitemau ffisegol
  • cofnodion yn ymwneud ag ymddygiad a hanes hyfforddiant yr anifail
  • asesiad ymddygiadol
  • gwybodaeth

Arbenigwyr eraill:

  • Llawfeddygon milfeddygol
  • Adrannau llywodraeth leol a chenedlaethol
  • Canolfannau achub anifeiliaid

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC11

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; cam-drin; niwed; ymchwilio; tystiolaeth