Asesu materion ymddygiad anifeiliaid yn ystod ymgynghoriadau ymddygiad anifeiliaid

URN: LANAnC34
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu materion ymddygiad anifeiliaid yn ystod ymgynghoriadau ymddygiad anifeiliaid.

Mae’r safon yn cynnwys deall ymddygiad arferol ac anarferol y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef ac asesu sut gallai ffactorau eraill, yn cynnwys bodau dynol yn rhyngweithio gyda’r anifail, effeithio ar ei ymddygiad.

Gallech fod yn asesu ymddygiad yr anifail at ddibenion hyfforddiant, ymchwil neu astudiaethau academaidd neu wrth ofalu am yr anifail.

Dylid gwneud yr holl weithgareddau yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safle gael hyfforddiant a chadarnhau bod eu hymarfer yn cymhwyso gwybodaeth, safonau dynol a pholisïau sydd yn gadarn yn wyddonol, a’u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’u profiad.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am arsylwi, asesu a deall ymddygiad anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. adnabod, asesu a chofnodi unrhyw faterion ymddygiadol gan yr anifail yn ystod yr ymgynghoriad ymddygiad anifail
  5. gwerthuso ac ystyried y ffactorau sydd yn gallu effeithio ar ymddygiad yr anifail
  6. rhyngweithio gyda'r anifail yn ystod yr ymgynghoriad ymddygiad mewn ffordd sydd yn creu ymddygiad sydd yn achosi unrhyw bryderon o ran lles ac yn caniatáu i arsylwi ac asesu gael eu gwneud yn ddiogel
  7. cynnal lles yr anifail ac addasu eich ymddygiad eich hun, ac ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, os oes angen, i osgoi creu ymddygiad annymunol yn yr anifail
  8. nodi a chofnodi newidiadau yn iechyd ac ymddygiad yr anifail yn ystod yr ymgynghoriad ymddygiad, a allai ddangos problemau lles neu broblemau eraill a gwneud argymhellion lle bo angen
  9. cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a chael cyngor proffesiynol lle bo angen a chyfeirio achosion ymlaen lle bo angen
  10. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant a'ch cymhwysedd eich hun â’r ddeddfwriaeth berthnasol

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifailiaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. y ffordd y gall materion ymddygiadol yr anifeiliaid yr ydych yn ymgysylltu â nhw gael eu hasesu, eu cofnodi a'u trin a phwysigrwydd gwneud hynny
  5. pwysigrwydd hanes esblygol, y newidiadau sydd yn gysylltiedig â dofi, ymddygiad sydd yn arferol i rhywogaethau, brîd, rhieni, natur, ffisioleg a phatholeg, i ymddygiad anifeiliaid unigol
  6. sut mae profiadau blaenorol yn dylanwadu ar ymddygiad anifeiliaid
  7. cyfnodau ymddygiadol, emosiynol a chorfforol yr anifail a phwysigrwydd cyfnodau sensitif ar gyfer dysgu a'u perthynas gyda datblygiad cymdeithasol
  8. patrymau ymddygiad anarferol, fel ymddygiad ystrydebol ac ailadroddus
  9. y ffordd y gall eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r ymgynghoriad ymddygiad anifail, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
  10. patrymau ymddygiadol naturiol yr anifail, yn cynnwys dulliau a phatrymau cyfathrebu, anghenion ysgogiadol a threfniadaeth ac ymddygiad cymdeithasol
  11. effeithiau statws atgenhedlu ac ysgogiadau rhywiol ar ymddygiad anifail
  12. y gwahaniaethau mewn amgyffrediad anifeiliaid a bodau dynol, a achosir gan wahaniaethau yn synhwyrau golwg, arogl, clyw, blas a chyffwrdd
  13. sut i adnabod ymddygiad a chyflyrau emosiynol anifeiliaid yn cynnwys ofn, rhywstredigaeth, ymosodedd, tawelu, gorbryder, chwarae ac ymlacio
  14. arwyddion cynnar newid mewn ymddygiad sydd yn gysylltiedig â salwch, a dangosyddion anaf neu boen, anesmwythdra, clefydau a thrallod
  15. y gwhaniaeth mewn ymddygiad goroesi naturiol rhwng ysglyfaethwyr a phrae a perthnasedd hyn i batrymau ymddygiad anifeiliaid
  16. lle gellir dylanwadu ar batrymau ymddygiadol gan newidiadau yn amgylchedd uniongyrchol anifail, fel newidiadau yn y tywydd, ymddygiad rhywun sydd yn bresennol, hwsmonaeth, anifail gerllaw neu amgaead, a deall sut i roi cyfrif am ffactorau o'r fath
  17. pwysigrwydd cynefino ag ysgogiadau amgylcheddol neu gallu neu gyfyngiadau anifail i ymdopi â nodweddion amgylchedd o gaethiwed
  18. pryd dylid atgyfeirio anifail at lawfeddyg milfeddygol neu weithiwr proffesiynol arall
  19. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas ag asesu materion ymddygiadol anifail yn ystod ymgynghoriadau ymddygiad a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  20. ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol yn ystod ymgynghoriadau ymddygiad anifail a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol

Cwmpas/ystod

Yn ystod ymgynghoriad ymddygiad yr anifail, asesu'r ffactorau canlynol a allai effeithio ar ymddygiad yr anifail:

  1. esblygiad a hanes dofi
  2. ymddygiad sydd yn arferol i rywogaethau
  3. nodweddion brîd, yn cynnwys croesrywiau
  4. rhieni
  5. natur
  6. cyfnod datblygiad (yn cynnwys henaint, statws atgenhedlu)
  7. anghenion ysgogiadol (yn cynnwys newyn, syched, osgoi bygythiad, â’r angen am gyswllt dynol)
  8. patrymau cyfathrebu
  9. cyflyrau emosiynol a meddyliol
  10. galluoedd canfyddiadol

  11. trefniadaeth gymdeithasol ac ymddygiad cymdeithasol

  12. profiadau blaenorol yr anifail â’r ymatebion a ddysgwyd oddi wrthynt
  13. ofn, rhwystredigaeth, ymosodedd, straen, poen
  14. salwch, anaf, anesmwythdra, clefydau a thrallod
  15. yr amgylchedd â’r ysgogiadau allanol a brofwyd
  16. rhyngweithio â bodau dynol
  17. hwsmonaeth a phatrymau rheoli

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Deddf Cŵn Peryglus
  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol

Cyfnod dysgu sensitif:

Y cyfnod sensitif mewn cyfnod o amser fel arfer rhwng 3 wythnos a 3 mis oes, lle mae anifeiliaid yn dysgu am eu hamgylchedd.

Cynefino:

Math o ddysgu heb gyswllt lle mae ymateb i ysgogiad yn lleihau ar ôl chyflwyniad cyson i'r ysgogiad hwnnw.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANACM4

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddiant ac Ymddygiad Cŵn, Hyfforddiant ac Ymddygiad Anifeiliaid, Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; ymddygiad; asesu