Darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd

URN: LANAnC3
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd. Mae'n cynnwys paratoi a darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid, yn unol â chyfarwyddiadau, ac adrodd am unrhyw newidiadau yn arferion bwydo neu yfed yr anifail wrth y person perthnasol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch, hylendid a deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynnal dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  2. gwneud eich gwaith o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
  3. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  4. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles yr anifail, yn ystod y gwaith
  5. defnyddio dulliau hylendid dwylo perthnasol cyn darparu bwyd a  dŵr i anifeiliaid
  6. paratoi a defnyddio cyfarpar, teclynnau, deunyddiau ac unrhyw gyfarpar diogelu personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith, o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
  7. glanhau'r ardal baratoi, teclynnau a chyfarpar cyn ac ar ôl eu defnyddio
  8. paratoi'r math a maint gofynnol o fwyd anifeiliaid, o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau, mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff

  9. darparu'r math â’r maint gofynnol o fwyd i anifeiliaid gan y ddefnyddio dulliau a theclynnau perthnasol, o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau

  10. darparu'r maint gofynnol o ddŵr o'r ffynonellau â’r systemau cywir o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
  11. rhoi cyfleoedd i anifeiliaid fynegi eu hymddygiad bwydo naturiol
  12. cynnal diogelwch a diogeledd yr anifeiliaid wrth ddarparu bwyd a dŵr
  13. adrodd am unrhyw newidiadau yn arferion bwydo ac yfed yr anifail wrth y person perthnasol
  14. gwaredu unrhyw fwyd anifeiliaid sydd yn hen neu'n anaddas ac unrhyw wastraff arall yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau, arferion sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  15. storio cyfarpar a theclynnau yn barod i'w defnyddio, yn ddiogel yn y lle gofynnol.

  16. cadw'r cofnodion sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd y gweithle
  2. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  4. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi a darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid a sut gellir cynnal hyn
  5. y technegau hylendid dwylo gofynnol ar gyfer paratoi bwyd a dŵr ar gyfer anifeiliaid
  6. y cyfarpar â’r teclynnau a ddefnyddir wrth baratoi a darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid a sut cânt eu defnyddio
  7. sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r cyfarpar, teclynnau, deunyddiau a chyfarpar diogelu personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith yn ddiogel
  8. y mathau o fwydydd sydd ar gael ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw a sut maent yn cael eu paratoi, yn cynnwys unrhyw ragofalon arbennig y dylid eu cymryd
  9. pwysigrwydd dilyn cynlluniau bwydo anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
  10. sut i sicrhau bod y maint cywir o fwyd yn cael ei baratoi ar gyfer pob anifail yn unol â'r cynlluniau bwydo
  11. deddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â pharatoi bwyd ar gyfer anifeiliaid
  12. y dull cywir o ddarparu bwyd ar gyfer yr anifeiliaid perthnasol, o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
  13. pam y dylid defnyddio'r ffynonellau cywir o ddŵr a systemau dŵr wrth ddarparu dŵr ar gyfer anifeiliaid o dan oruchwyliaeth ac yn unol â'r cyfarwyddiadau
  14. canlyniadau darparu bwyd a dŵr i anifeiliaid sydd wedi ei baratoi'n anghywir
  15. sut i roi cyfleoedd i anifeiliaid fynegi eu hymddygiad bwydo naturiol
  16. sut i adnabod newidiadau yn arferion bwydo ac yfed yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw a phwysigrwydd adrodd am y newidiadau wrth y person perthnasol
  17. sut i gynnal eich diogelwch a'ch diogeledd eich hun â’r anifeiliaid wrth ddarparu bwyd a dŵr a pham y mae hyn yn bwysig
  18. y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â'r mathau gwahanol o wastraff sydd yn cael ei gynhyrchu wrth ddarparu bwyd a dŵr i anifeiliaid.

  19. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Gallai'r mathau o fwyd gynnwys bwyd:

  • ffres
  • byw
  • wedi rhewi
  • sych
  • bwyd gwlyb
  • cyflawn
  • ategol

Gallai cyfarpar gynnwys:

  • cyfarpar ar gyfer paratoi bwyd
  • cyfarpar ar gyfer gweini bwyd
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

Original URN LANAC2

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; bwyd; dŵr