Darparu gwybodaeth i unigolion, grwpiau neu gymunedau ynghylch sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid

URN: LANAnC27
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth i unigolion, grwpiau neu gymunedau ynghylch sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid.  Gallai hyn gynnwys dod o hyd i wybodaeth i'w darparu a'i chyflwyno mewn ffordd sydd yn berthnasol i'ch cynulleidfa.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon gadarnhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu deddfwriaeth ddiweddar, polisïau'r diwydiant a deddfwriaeth berthnasol.  Mae'n rhaid iddynt weithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.

Mae'r safon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gydag anifeiliaid sydd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i unigolion, grwpiau neu gymunedau ynghylch sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. cydymffurfio â deddfwriaethau perthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig

  3. canfod a darparu gwybodaeth am hybu iechyd a lles anifeiliaid sydd yn berthnasol i'r gynulleidfa
  4. canfod a darparu gwybodaeth sydd yn cyd-fynd a pholisi'r sefydliad ar hybu iechyd
  5. darparu'r deunyddiau perthnasol sydd yn hybu iechyd a lles anifeiliaid
  6. rhoi cyngor am hybu iechyd a lles anifeiliaid mewn ffordd sydd yn berthnasol i'r unigolyn, y grŵp neu'r gymuned yr ydych yn eu cynghori
  7. rhoi cyngor ynghylch y ffordd y gellir lleihau risg i iechyd a lles anifeiliaid
  8. rhoi cyfle i unigolion, grwpiau neu gymunedau drafod a chael eglurhad am unrhyw gyngor a roddir
  9. cydnabod y terfynau o fewn eich maes cyfrifoldeb yn unol â gofynion y Ddeddf Llawfedygon Milfeddygol a chael cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill lle bo angen
  10. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol â'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig

  3. pwysigrwydd darparu dyletswydd gofal ar gyfer anifeiliaid â’r ffordd y gellir mynd i'r afael â'u hanghenion
  4. y ffyrdd gwahanol y gellir cynnal iechyd a lles anifeiliaid
  5. y ffordd y gall lles anifeiliaid amrywio mewn cyd-destun gwahanol a rôl gweithwyr anifeiliaid proffesiynol wrth ymgysylltu ag unigolion, grwpiau neu gymunedau
  6. y gofynion gofal cyffredinol ar gyfer anifeiliaid penodol, yn cynnwys eu maeth, llety, ac anghenion ymarfer corff
  7. ble i ganfod gwybodaeth am hybu iechyd a lles anifeiliaid a sut i bennu gwerth y wybodaeth hon i unigolion, grwpiau neu gymunedau
  8. y cyfyngiadau o fewn eich maes cyfrifoldeb a ble i gael cyngor
  9. y problemau â’r atebolrwydd a allai godi, i chi â'r sefydliad, os bydd y wybodaeth anghywir yn cael ei darparu
  10. y deunyddiau perthnasol i'w defnyddio i ddarparu gwybodaeth â’r dulliau gwahanol sydd ar gael i ymgysylltu â'r gynulleidfa a sut i sicrhau bod y wybodaeth yn bodloni anghenion eich cynulleidfa
  11. sut i sicrhau bod y wybodaeth honno wedi cael ei deall a sut i ddarparu cyfleoedd ar gyfer eglurhad
  12. sut i ymgysylltu â chynulleidfaoedd gwahanol a sut i'w cyrraedd
  13. sut i adnabod patrymau ymddygiad arferol a newidiadau mewn ymddygiad anifeiliaid
  14. arwyddion cynnar newidiadau mewn ymddygiad sydd yn gysylltiedig ag ofn, ymosodedd, straen, poen a salwch
  15. buddion rheoli poblogaethau o anifeiliaid strae a heb berchennog trwy ysbaddu a sut i hybu hyn ymysg unigolion, grwpiau neu gymunedau
  16. y gwahaniaeth rhwng strategaethau hybu iechyd a lleihau risg wrth gynnal iechyd a lles anifeiliaid a pham y mae angen y ddau
  17. y mathau o wybodaeth a chofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

* *

Ffynonellau gwybodaeth:

  • sefydliadau
  • cyhoeddiadau, gwefannau
  • deddfwriaeth
  • y cyfryngau cymdeithasol
  • codau ymarfer
  • papurau gwyddonol/cynnyrch ymchwil
  • codau ymarfer diwydiant/Llywodraeth
  • cyhoeddiadau diwydiant/Llywodraeth/cyrff lles anifeiliaid
  • cyngor milfeddygol

* *

Strategaeth Lleihau Risg

Strategaeth ar gyfer lleihau risg i iechyd pobl ac anifeiliaid


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANANC31

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

Anifail; cyngor; iechyd; lles