Sychu côt ci yn barod i gyflawni’r steil â'r caboliad gofynnol

URN: LANAnC25
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sychu côt a chroen ci yn barod i gyflawni'r steil â'r caboliad gofynnol gan ddefnyddio'r offer, y cyfarpar â'r cynnyrch gofynnol.

Mae'n cynnwys technegau trafod addas a diogel, nodi mathau o gotiau ac adnabod arwyddion o annormaleddau.

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, y ci a phawb sydd yn cael eu heffeithio gan eich gwaith.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn sychu cotiau cŵn yn barod i gyflawni'r steil â'r caboliad gofynnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud y gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisïau sefydliadol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  6. sicrhau bod yr ardal ar gyfer sychu côt ci yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod i'w defnyddio
  7. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer â'r cyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau sefydliadol
  8. dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas

  9. arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci a'i gofnodi, fel y bo angen

  10. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a chael cyngor proffesiynol lle bo angen
  11. trosglwyddo cŵn i'r ardal sychu a'u sicrhau mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd, lles a diogelwch pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. sychu côt y ci gan ddefnyddio cyfarpar sychu ac offer llaw sydd yn addas ar gyfer y ci, math a chyflwr ei gôt â'r steil y mae angen ei gyflawni

  13. sefydlu'r tymheredd â'r cyflymder sychu cywir a monitro cyflwr côt a chroen y ci yn ystod y broses sychu er mwyn sicrhau nad yw'n gorgynhesu

  14. monitro'r ci wrth ei sychu er mwyn gwybod pan fydd y tymheredd, y cyflymder neu'r dechneg sychu yn achosi trallod i'r ci a chymryd y camau gofynnol
  15. brwsio'r gôt wrth ei sychu er mwyn cael caboliad gofynnol y steil yr ydych yn ceisio ei gyflawni
  16. edrych ar y gôt i gadarnhau ei bod yn gwbl sych ac yn rhydd rhag clymau a drysni
  17. gwybod pan fydd arsylwi'r ci yn datgelu pla posibl neu gyflwr anarferol ac adrodd am hyn wrth y person perthnasol
  18. trosglwyddo'r ci i'r ardal gywir ar gyfer y weithdrefn nesaf a chadarnau ei fod yn ddiogel ac wedi ei ddal yn gadarn
  19. glanhau, sterileiddio a storio'r offer â'r cyfarpar a ddefnyddiwyd, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad ac adrodd am unrhyw namau wrth y person perthnasol
  20. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel ysgrafellwr cŵn a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisïau sefydliadol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, yr asesiad risg, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol

  4. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
  5. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn er mwyn sicrhau bod gofynion y ci yn cael eu bodloni
  6. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  7. y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer sychu côt ci a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal y rhain, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad

  8. pwysigrwydd gwneud gwaith fel y cytunwyd gan y cleient

  9. sut i gynnal asesiad gweledol o iaith corff y ci cyn ei drafod ac adrodd am unrhyw broblemau wrth y person perthnasol
  10. sut i fynd at gŵn, eu trafod a'u hatal mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, sydd yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  11. y dulliau diogel o drosglwyddo cŵn i'r ardal sychu
  12. mathau a nodweddion cotiau'r cŵn yr ydych yn gweithio gyda nhw
  13. sut mae math a chyflwr y gôt â'r croen yn effeithio ar y technegau sychu â'r cyfarpar y gellir eu defnyddio
  14. sut mae'r steil i'w gyflawni yn effeithio ar y technegau sychu â'r cyfarpar y gellir eu defnyddio
  15. y mathau gwahanol o gyfarpar sychu â'r technegau sydd ar gael, eu dibenion a pha fathau o gŵn a chotiau y maent yn fwyaf addas ar eu cyfer er mwyn cyflawni'r caboliad gofynnol
  16. tymheredd a chyflymder sychu cywir y cyfarpar sychu, sut i addasu'r cyfarpar a pheryglon posibl gorgynhesu'r ci a'i groen
  17. risg mathau gwahanol o gyfarpar a thechnegau sychu i'r ci a sut i fonitro'r ci yn ystod y broses hon
  18. arwyddion trallod mewn cŵn â'r camau y dylid eu cymryd pan fydd y rhain yn cael eu harsylwi
  19. sut i wybod pryd bydd cotiau yn gwbl sych a chanlyniadau posibl peidio â sychu ci yn iawn
  20. beth yw straen gwres a llosgiadau brwsh, eu harwyddion a'u hachosion a sut i'w hatal rhag digwydd
  21. sut i ddarparu llety addas rhwng y cyfnodau ysgrafellu
  22. sut i wirio, glanhau, sterileiddio a storio'r offer â'r cyfarpar, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi eich sefydliad
  23. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas ag ysgrafellu cŵn a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

Sychu'r mathau canlynol o gotiau i gyflawni'r steil â'r caboliad gofynnol

  1. gwlân
  2. weiar
  3. sidan

  4. dwbl – hir a byr

  5. llyfn

Defnyddio'r cyfarpar sychu canlynol i sychu côt y ci:

  1. cwpwrdd
  2. sychwr cyflym

  3. sychwr chwythu

Sychu côt ci i gyflawni'r steiliau canlynol:

  1. wedi ei docio
  2. wedi ei dorri â siswrn
  3. wedi ei rannu

  4. naturiol

Cynnal yr arsylwadau canlynol o'r ci:

  1. traed, ewinedd a phadiau
  2. cyflwr y clustiau
  3. ceg, dannedd a deintgig
  4. croen a chôt
  5. parasitiaid mewnol ac allanol
  6. llygaid
  7. ardal yr organau cenhedlu â'r ardal dethol
  8. chwarennau rhefrol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol

Gallai Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a dillad gynnwys:

  • menig
  • ffedog

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC28

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgrafellu cŵn

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

ci; côt; steil; sychu