Golchi a glanhau côt a chroen ci

URN: LANAnC24
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â golchi a glanhau côt a chroen ci gan ddefnyddio'r cynnyrch cywir ar gyfer y math o gôt.

Mae'n cynnwys defnyddio technegau trafod addas a diogel, adnabod mathau o gotiau ac adnabod arwyddion o annormaleddau a phlâu o barasitiaid.

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi, y ci a phawb sydd yn cael eu heffeithio gan eich gwaith.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn golchi ac yn glanhau côt a chroen ci.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, y gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. sicrhau bod yr ardal lle mae cotiau cŵn yn cael eu golchi a'u glanhau yn ddiogel, yn gadarn, yn lân ac yn barod i'w defnyddio
  6. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a glanhau offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
  7. dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  8. dewis cynnyrch glanhau sydd yn addas ar gyfer math a chyflwr côt y ci a dewisiadau'r cleient, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle
  9. gwanhau cynnyrch glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
  10. arsylwi ac adnabod ymddygiad y ci a'i gofnodi lle bo angen
  11. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. trafod ac atal y ci mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  13. trosglwyddo'r ci i'r bath a'i gadw mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd, lles a diogelwch pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  14. golchi'r ci yn unol â pholisïau eich sefydliad a chyfarwyddiadau cynhyrchydd y cynnyrch
  15. defnyddio dŵr ar y tymheredd a chyfradd llif dŵr cywir
  16. glanhau'r gôt â'r croen mewn ffordd sydd yn lleihau trallod i'r ci
  17. tynnu baw a thameidiau rhwng bysedd traed a phadiau'r cŵn
  18. cymryd y camau unioni gofynnol ar unwaith os bydd y cynnyrch glanhau yn mynd i mewn i lygaid, ceg neu glustiau'r ci
  19. golchi'r holl weddillion o gôt a chroen y ci lle bo angen
  20. cael gwared ar ddŵr dros ben o gôt y ci cyn sychu gan ddefnyddio dulliau addas

  21. gwybod pan mae arsylwi'r ci yn datgelu pla posibl neu gyflwr anarferol ac adrodd am hyn wrth y person perthnasol

  22. trosglwyddo'r ci i'r ardal gywir ar gyfer y weithdrefn nesaf a chadarnhau ei fod yn ddiogel ac yn gadarn
  23. glanhau, sterileiddio a storio'r offer â'r cyfarpar a ddefnyddiwyd yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
  24. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel ysgrafellwr cŵn a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, asesiadau risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig, polisïau sefydliadol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol
  4. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, â'r ffordd orau o wneud hyn, er mwyn sicrhau bod gofynion y ci yn cael eu bodloni
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  6. y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer golchi a glanhau côt a chroen ci a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
  7. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd

  8. pam y mae'n bwysig arsylwi ac asesu iaith corff y ci cyn dechrau'r gwaith â'r arwyddion i chwilio amdanynt

  9. ble i gael cyngor ac arweiniad yn ymwneud â golchi a glanhau côt a chroen ci
  10. mathau a nodweddion cotiau'r cŵn yr ydych yn gweithio gyda nhw â'r ffordd y mae cyflwr y gôt â'r croen yn effeithio ar y cynnyrch glanhau y dylid eu defnyddio
  11. y mathau gwahanol o gynnyrch glanhau sydd ar gael, sut maent yn gweithio â'r mathau o gôt a chyflyrau y maent yn addas ar eu cyfer
  12. sut i fynd at yr anifail, ei drafod a'i atal mewn ffordd sydd yn cynnal lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
  13. y dulliau diogel o drosglwyddo cŵn i mewn i'r bath a'u dal yn ddiogel

  14. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd yn ymwneud â gwanhau cynnyrch glanhau, sut i ddehongli'r cyfarwyddiadau hyn, a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny

  15. pam y mae'n bwysig cael awdurdodiad gan y cleient neu uwch gydweithiwr cyn defnyddio cynnyrch atal parasitiaid, o fewn terfynau rheoliad meddyginiaeth filfeddygol
  16. y drefn ymolchi ofynnol a gofynion tymheredd dŵr ar gyfer y ci yr ydych yn gweithio gydag ef
  17. pwysigrwydd atal toddiadau rhag mynd i mewn i lygaid, ceg a chlustiau'r ci a pham y mae'n bwysig bod y cleient yn cael ei hysbysu os bydd hyn yn digwydd
  18. arwyddion trallod mewn cŵn â'r camau y dylid eu cymryd os bydd y rhain yn cael eu harsylwi
  19. sut i sicrhau bod yr holl weddillion wedi cael eu golchi o gôt a chroen y ci oni bai bod cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr yn nodi nad yw hyn yn angenrheidiol
  20. y dulliau o gael gwared ar ddŵr dros ben o gôt y ci cyn sychu a pham y mae'n bwysig gwneud hyn
  21. sut i lanhau, sterileiddio a storio offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisïau eich sefydliad
  22. pwysigrwydd darparu llety addas rhwng cyfnodau gwahanol o waith ysgrafellu
  23. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â golchi ac ysgrafellu côt a chroen ci a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

Golchi a glanhau'r mathau canlynol o gôt ci:

  1. gwlân
  2. weiar
  3. sidan
  4. dwbl – hir a byr
  5. llyfn

defnyddio'r mathau canlynol o gynnyrch:

  1. siampŵau arferol
  2. siampŵau parasitig
  3. siampŵau wedi eu rhagnodi gan filfeddyg
  4. cyflyrwyr
  5. chwistrellau cyflyru

Cynnal yr arsylwadau canlynol o'r ci:

  1. traed, ewinedd a phadiau

  2. cyflwr y clustiau

  3. ceg, dannedd a deintgig
  4. croen a chôt
  5. parasitiaid mewnol ac allanol
  6. llygaid
  7. ardal yr organau cenhedlu â'r ardal dethol
  8. chwarennau rhefrol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Deddf Llawfeddygon Milfeddygol

Gallai cyfarpar a dillad diogelu gynnwys:

  • menig
  • ffedog

Dulliau o gael gwared ar ddŵr dros ben:

  • llieiniau amsugnol
  • tywelion
  • sychwr cyflym

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC8.2

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgrafellu cŵn

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

ci; golchi; glanhau; siampŵ