Gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc

URN: LANAnC22
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc.  Gall hyn fod o ganlyniad i fridio neu trwy brynu neu gyflwyno anifeiliaid ifanc. Bydd disgwyl i chi fonitro ymddygiad, ystum, symudiad ac ymddygiad yr anifeiliaid, a hybu eu hiechyd a'u lles trwy ddeiet, amodau byw a gofal cyffredinol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'n rhaid i chi gynnal iechyd a lles yr anifeiliaid ac adnabod unrhyw broblemau iechyd.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gofalu am epil neu anifeiliaid ifanc.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle

  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  5. dewis, gwisgo a chynnal a chadw dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas

  6. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol

  7. asesu anghenion gofal a lles yr epil ac anifeiliaid ifanc o dan eich dyletswydd gofal
  8. monitro iechyd a chyflwr y fam a'i hepil ar ôl yr enedigaeth a chymryd y camau gofynnol i gynnal eu hiechyd a'u lles
  9. cymryd y camau gofynnol heb oedi pan fydd unrhyw broblemau gydag iechyd yr epil, anifeiliaid ifanc neu'r fam a chael cyngor proffesiynol lle bo angen
  10. pan fydd angen, darparu magwraeth artiffisial sydd yn addas i'r epil neu'r anifail ifanc a'i gyflwr
  11. arsylwi ac adnabod ymddygiad yr epil neu'r anifail ifanc a chofnodi unrhyw bryderon iechyd a lles lle bo angen
  12. rhyngweithio gyda'r epil neu'r anifail ifanc mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn caniatáu arsylwi i gael ei wneud yn ddiogel

  13. ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol

  14. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  15. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich awdurdod proffesiynol a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant a'ch profiad
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, a deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  6. pwysigrwydd gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  7. sut i asesu anghenion lles yr epil â'r anifeiliaid ifanc yr ydych yn gofalu amdanynt

  8. pwysigrwydd darparu amodau amgylcheddol addas ar gyfer y fam a'i hepil

  9. y ffactorau sydd yn effeithio ar iechyd a chyflwr y fam a'i hepil
  10. sut i arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid â'r arwyddion sydd yn dangos pryderon iechyd a lles yn yr anifail ifanc, yr epil â'r fam a phryd i adrodd am bryderon wrth y person perthnasol
  11. y dulliau o ddiddyfnu, â'r ymddygiad sydd yn dangos pryd y dylid eu defnyddio
  12. pwysigrwydd magu gan y fam o ran lles a goblygiadau lles magu â llaw yn y tymor byr â'r hirdymor
  13. yr opsiynau ar gyfer magu yn artiffisial â'r canlyniadau tebygol ar gyfer lles yr epil â'r anifeiliaid ifanc
  14. y mathau o broblemau y mae epil ac anifeiliaid ifanc yn dod ar eu traws â'r camau priodol i'w cymryd, yn cynnwys pryd i gael cyngor a chymorth milfeddygol
  15. pryd y mae angen gwahanu epil ac anifeiliaid ifanc a sut dylid gwneud hyn

  16. sut gallai eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail

  17. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r arferion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  18. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn

  19. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â gofalu am epil ac anifeiliaid ifanc, a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac ymarfer sefydliadol


Cwmpas/ystod

Darparu'r anghenion iechyd a lles canlynol i'r epil â'r anifeiliaid ifanc yn cynnwys:

  1. mynegi ymddygiad naturiol
  2. amodau amgylcheddol

  3. deiet a maeth

  4. cyfoethogi
  5. ymarfer corff
  6. diogelwch a diogeledd

  7. cymdeithasu gyda bodau dynol ac anifeiliaid eraill, fel y bo'n briodol

  8. cyswllt priodol ag ystod o ysgogiadau amgylcheddol sydd yn addas ar gyfer y rhywogaeth
  9. gofynion brechu
  10. gosod microsglodion
  11. gofynion gofal iechyd ataliol eraill
  12. gofynion eraill sydd yn benodol i'r diben neu'r gyrchfan a fwriadwyd

Ymdrin â'r mathau canlynol o broblemau gydag epil neu anifeiliaid ifanc:

  1. colli mam
  2. clefyd cynhenid

  3. cystadleuaeth

  4. risg o niwed a chlefydau
  5. colli cyflenwad llaeth

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

* *

Mae ymddygiad anifeiliaid yn cynnwys:

  • ofn
  • ymosodedd
  • tawelu
  • gorbryder

  • chwarae

  • ymlacio
  • ymddygiad anarferol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU36

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

bridio; anifeiliaid; genedigaeth; epil