Hwyluso ffrwythloni anifeiliaid

URN: LANAnC20
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso ffrwythloni anifeiliaid gan ddefnyddio dulliau naturiol neu ffrwythloni artiffisial, yn unol â'r rhaglen fridio.

Mae'n rhaid i chi gynnal iechyd a lles yr anifeiliaid ac adnabod unrhyw broblemau iechyd.

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn hwyluso ffrwythloni anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad iech hun

  2. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. cadarnhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle a gofynion y rhaglen fridio
  5. asesu'r ffordd y gall anghenion yr anifeiliaid sydd yn cael eu dewis ar gyfer ffrwythloni gael eu darparu tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
  6. monitro a chadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu sefydlu a'u cynnal yn unol ag arferion sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
  7. dewis anifeiliaid ar gyfer ffrwythloni yn unol â'r rhaglen fridio a chadarnhau bod y prawf iechyd gofynnol yn cael ei gynnal
  8. archwilio cyflwr corfforol yr anifeiliaid sydd yn cael eu dewis ar gyfer ffrwythloni, yn cynnwys eu parodrwydd ar gyfer bridio, a pharatoi'r anifeiliaid yn y ffordd ofynnol
  9. hwyluso ffrwythloni anifeiliaid yn unol â'r dull a nodir yn y rhaglen fridio
  10. pan fo angen, cynnal iechyd a chyflwr yr anifeiliaid sydd wedi eu dewis ar gyfer ffrwythloni trwy gydol eu cylch atgenhedlu
  11. arsylwi ac adnabod ymddygiad yr anifail ar ôl ffrwythloni a'i gofnodi fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad
  12. rhyngweithio gyda'r anifail ar ôl ffrwythloni mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn caniatáu arsylwi i gael ei wneud yn ddiogel
  13. cadarnhau ffrwythloni a chymryd y camau gofynnol, mewn perthynas â gofynion hwsmonaeth a gofynion adrodd
  14. cynnal lles yr anifail bob amser ac addasu eich ymddygiad eich hun neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, i osgoi creu ymddygiad annymunol mewn anifeiliaid
  15. adnabod ymddygiad anifail a allai ddangos pryderon lles ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol
  16. ymdrin â gwastraff yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
  17. cwblhau'r cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles berthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau o gyflawni hyn
  5. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer hwyluso ffrwythloni anifeiliaid a phwysigrwydd ei wisgo
  6. pwysigrwydd hwyluso ffrwythloni mewn anifeiliaid yn unol â pholisi sefydliadol, y gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion y rhaglen fridio
  7. sut i asesu anghenion lles yr anifeiliaid a ddewisir ar gyfer ffrwythloni tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal a sut gellir cynnal hyn
  8. y dulliau o ddewis anifeiliaid unigol ar gyfer bridio a'u cymhwysedd
  9. sut i asesu iechyd a chyflwr corfforol anifeiliaid sydd yn cael eu dewis ar gyfer ffrwythloni
  10. anatomeg systemau atgenhedlu anifeiliaid gwrywaidd a benywaidd
  11. ymddygiad paru mathau gwahanol o anifeiliaid sydd yn pennu neu yn cau allan y dull paru
  12. sut i adnabod estrws mewn anifeiliaid â'r amseriad ar gyfer paru neu ffrwythloni artiffisial
  13. sut i baratoi ar gyfer a hwyluso paru neu ffrwythloni artiffisial mewn anifeiliaid
  14. y ffactorau sydd yn dylanwadu ar feichiogi mewn anifeiliaid
  15. sut mae ffrwythloni'n cael ei adnabod yn yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
  16. y camau i'w cymryd pan fydd ffrwythloni'n cael ei gadarnhau
  17. y camau i'w cymryd pan na fydd ffrwythloni'n llwyddiannus
  18. manylion trefniadau arbennig ar gyfer gofalu am wrywod sydd yn bridio â'r rhai nad ydynt yn bridio
  19. sut i arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid fel rhan o'ch rhyngweithio gyda'r anifail
  20. sut i adnabod ymddygiad gwahanol mewn anifeiliaid fel ofn, ymosodedd, uchafiaeth, tawelu, gorbryder ac ymlacio
  21. y ffordd y gall eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â bridio anifeiliaid, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
  22. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
  23. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â bridio anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Rheoliad Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau yn Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr)
  • Rheoliad Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru)
  • Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Sefydliadau Bridio Cŵn a Diwygiadau Amrywiol) (Gogledd Iwerddon)

* *

Dulliau ffrwythloni:

  • naturiol
  • Ffrwythloni Artiffisial (AI)

* *

Dulliau ar gyfer cadarnhau ffrwythloni mewn anifeiliaid:

  • arsylwadau
  • sganio uwchsain gan weithwyr proffesiynol wedi eu hyfforddi
  • prawf hormonau
  • dylofi gan weithiwr milfeddygol proffesiynol
  • pelydr-X gan weithiwr milfeddygol proffesiynol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU36

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgrafellu cŵn

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

bridio; anifeiliaid; esgor; genedigaeth; epil