Darparu cyfleoedd i anifeiliaid wneud ymarfer corff

URN: LANAnC18
Sectorau Busnes (Suites): Technoleg Anifeiliaid,Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cyfleoedd i anifeiliaid wneud ymarfer corff.  Fodd bynnag, nid yw wedi ei dylunio i nodi safonau'r ymarfer corff sydd yn berthnasol i anifeiliaid sydd wedi eu hyfforddi at ddibenion cystadleuol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un y mae eu gwaith yn darparu cyfleoedd ar gyfer anifeiliaid sydd angen gwneud ymarfer corff.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  3. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  4. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  5. cadarnhau bod yr ardal ymarfer corff yn ddiogel ac yn gadarn
  6. paratoi'r anifeiliaid ar gyfer gwneud ymarfer corff
  7. darparu cyfleoedd ymarfer corff sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid perthnasol a bodloni eu hanghenion penodol
  8. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn ystod y gweithgaredd ymarfer corff
  9. cynnal iechyd, diogelwch a lles yr anifail cyn, yn ystod ac ar ôl y gweithgaredd ymarfer corff, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  10. cwblhau'r cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig

  3. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni'r rhain
  4. angen yr anifail i wneud ymarfer corff â’r rhesymau dros hyn
  5. y ffordd y mae'r angen i wneud ymarfer corff yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid gwahanol ac yn dibynnu ar gyd-destun y lle y mae'r anifail yn cael ei gadw
  6. y rhesymau dros ddarparu cyfleoedd ymarfer corff gwahanol i rywogaethau gwahanol o anifeiliaid
  7. y ffordd y mae angen anifail i wneud ymarfer corff yn wahanol yn ystod cyfnodau twf gwahanol a sut gall prinder neu ormod o ymarfer corff arwain at broblemau yn ystod cyfnodau diweddarach bywyd
  8. pam y gall gormod neu rhy ychydig neu'r mathau anghywir o ymarfer corff fod yn niweidiol i anifeiliaid
  9. yr amser gorau ar gyfer ymarfer anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
  10. y ffactorau sydd yn effeithio ar ddiogelwch yr ardal lle mae'r anifail (anifeiliaid) yn gwneud ymarfer corff, yn ogystal â diogelwch pawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd
  11. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â darparu cyfleoedd ymarfer corff ar gyfer anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAC4

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gofal anifeiliaid, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Technolegydd Anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; ymarfer corff; iechyd; lles