Cynnal iechyd a lles anifeiliaid

URN: LANAnC11
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'n cynnwys monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad anifail, cynnal mesurau i hybu ei iechyd a'i les ac adrodd am unrhyw bryderon neu newidiadau annisgwyl.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn cynnal iechyd a lles anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
  2. gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  3. gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. cynnal gwiriad iechyd a lles ar yr anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
  6. adnabod arwyddion salwch mewn anifeiliaid a gweithredu, gan adrodd am unrhyw bryderon lle bo angen
  7. lleihau'r risg o straen ac anaf i anifeiliaid er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
  8. monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad anifeiliaid er mwyn cynnal iechyd a lles anifail
  9. nodi rhyw yr anifail er mwyn cynnal iechyd a lles
  10. monitro cyflwr llety'r anifail a nodi unrhyw weithredu sydd yn ofynnol
  11. monitro'r amodau amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r anifail a gwneud addasiadau lle bo angen
  12. sicrhau bod anifeiliaid, lle bo angen, yn cael y bwyd â’r dŵr gofynnol, monitro faint y maent yn ei gymryd ac adrodd am unrhyw bryderon
  13. rhoi'r cyfle i anifeiliaid wneud ymarfer corff, lle bo angen, er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
  14. rhoi'r gorfaethiad angenrheidiol i anifeiliaid, lle bo angen, er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
  15. rhoi cyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol i anifeiliaid lle bo angen, er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
  16. rhyngweithio gyda'r anifeiliaid, wrth reoli eu hiechyd a'u lles, mewn ffordd sydd yn lleihau straen i'r anifail
  17. cael cymorth ar gyfer unrhyw argyfwng o ran iechyd anifail a dechrau camau gweithredu sydd yn berthnasol i'r sefyllfa
  18. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  19. rheoli gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol.

  20. gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried yr amgylchedd ac yn osgoi gwastraff diangen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd gwneud gweithgareddau yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. diben cadw anifeiliaid a sut gallai hyn effeithio ar eu hwsmonaeth
  6. sut i asesu anghenion iechyd a lles anifeiliaid yn eich gofal a sut gellir cynnal y rhain
  7. clefydau ac anhwylderau cyffredin anifeiliaid a allai effeithio ar yr anifeiliaid yn eich gofal

  8. sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid a lleihau unrhyw straen neu anaf

  9. sut i adnabod arwyddion iechyd yn yr anifeiliaid yn eich gofal â’r camau y dylid eu cymryd

  10. sut i adnabod ymddygiad cymdeithasol arferol er mwyn deall pa gyfleoedd cymdeithasol i'w cyflwyno i'r anifail
  11. sut i adnabod yr arwyddion sydd yn nodi problemau gyda iechyd a lles anifail, â’r camau y dylid eu cymryd
  12. gofynion y llety â'r arferion cynnal a chadw ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal
  13. y gofynion bwyd a dŵr â'r drefn ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal
  14. sut gellir addasu'r amodau amgylcheddol i fodloni gofynion iechyd a lles yr anifeiliaid yn eich gofal
  15. pam mae angen ymarfer corff ar anifeiliaid a sut mae'r math â’r maint yn amrywio yn ôl rhywogaeth, brîd ac yn ystod cyfnodau gwahanol bywyd anifail
  16. y mathau gwahanol o orfaethu sy'n ofynnol gan yr anifeiliaid yn eich gofal

  17. sut mae anifeiliaid yn cynnal eu cyflwr a'u hymddygiad corfforol eu hunain

  18. sut i adnabod argyfwng iechyd mewn anifail â’r camau i'w cymryd
  19. sut i ymateb i bryderon neu faterion mewn perthynas â'ch dyletswydd gofal
  20. y terfynau o fewn eich maes cyfrifoldeb mewn perthynas â phroblemau iechyd gyda'r anifeiliaid yn eich gofal.

  21. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol


Cwmpas/ystod

Arwyddion iechyd yn y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef yn cynnwys:

  1. ymddangosiad a chyflwr y corff
  2. ystum a symudiad
  3. ymddygiad a rhyngweithio cymdeithasol
  4. ysgarthiadau (gweithrediadau'r corff)

Problemau posibl gydag iechyd a lles anifail yn cynnwys:
5. poen
6. salwch
7. anaf
8. plâu
9. trawma
10. pwysau

straen


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
  • Amodau amgylcheddol:
  • golau
  • awyru
  • tymheredd
  • lleithder
  • y tywydd
  • maint/gofod
  • cyswllt cymdeithasol

  • Anghenion anifeiliaid:

  • amgylchedd addas (lle i fyw)
  • deiet addas
  • gallu i arddangos ymddygiad arferol
  • diogelwch rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau
  • wedi eu cartrefi gyda, neu ar wahân i, anifeiliaid eraill (lle y bo'n berthnasol)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU32

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; iechyd; lles; gofal