Cynllunio a monitro gofynion deietegol anifeiliaid cynhyrchu

URN: LANAgM7
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio a monitro gofynion deietegol anifeiliaid cynhyrchu, yn cynnwys anifeiliaid sy’n cnoi cil ac unstumogaidd. Mae’r broses yn cynnwys nodi rôl maeth yn iechyd a pherfformiad anifeiliaid, a chynllunio, gweithredu a monitro cynlluniau deietegol.

Mae porthiant yn cynrychioli cydran gost fwyaf unrhyw system cynhyrchu anifeiliaid ac mae ganddo ddylanwad mawr ar iechyd a pherfformiad anifeiliaid. Dylai’r dognau gyd-fynd â safonau a gydnabyddir gan y diwydiant ar gyfer cydrannau deietegol, fel egni, protein, mwynau a fitaminau.
   
Mae angen i berchnogion, rheolwyr a phobl eraill sy’n gyfrifol am baratoi deiet a bwydo anifeiliaid ymateb yn gyflym os oes problemau’n digwydd. Mae’r safon hon yn cydnabod pwysigrwydd monitro perfformiad corfforol ac ariannol yr anifeiliaid a gweithredu’n gyflym pan fo angen.
   
Mae pwysigrwydd cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes wedi eu cynnwys hefyd.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â chynllunio a monitro gofynion deietegol anifeiliaid cynhyrchu, er enghraifft, rheolwyr fferm anifeiliaid, ffermwyr, crofftwyr, tyddynwyr, cynghorwyr technegol amaethyddol, milfeddygon a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant cyflenwi porthiant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi a gwerthuso’r amrywiaeth o fwydydd sydd ar gael a dewis y rheiny sydd yn addas ar gyfer y system cynhyrchu anifeiliaid ac yn cyd-fynd â gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes
  2. gwerthuso rôl atchwanegiadau ac ychwanegion bwyd yn iechyd a pherfformiad anifeiliaid a’u costau a’u buddion 
  3. cael cyngor arbenigol lle bo angen
  4. ffurfio deiet trwy dechnegau llaw neu ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol 
  5. creu cynlluniau ar gyfer gofynion deietegol anifeiliaid cynhyrchu sy’n cefnogi’r diben a fwriadwyd ar gyfer yr anifeiliaid ac yn hybu eu hiechyd, eu llesiant a’u cynhyrchiant
  6. cadarnhau bod darpariaeth dŵr glân, ffres wedi ei gynnwys yn y cynlluniau, yn unol â gofynion anifeiliaid
  7. nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen i weithredu’r cynlluniau 
  8. cyfathrebu’r cynlluniau i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’u gweithredu 
  9. sefydlu cyfleusterau storio sydd yn diogelu porthiant anifeiliaid rhag plâu, ac yn cynnal ei ansawdd
  10. cadarnhau bod y cyfleusterau storio’n cael eu defnyddio’n gywir ac yn cael eu monitro’r rheolaidd
  11. sefydlu mesurau i gynnal y lefelau gofynnol o hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  12. sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a bwydydd heb eu defnyddio, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a busnes perthnasol a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  13. darparu cyfarpar addas ar gyfer paratoi a darparu porthiant a dŵr i anifeiliaid a chadarnhau ei fod yn cael ei gadw’n lân, mewn cyflwr da ac yn gwbl weithredol
  14. cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
  15. cadarnhau bod y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion diogelwch bwyd yn cael eu dilyn wrth baratoi a darparu porthiant a dŵr i anifeiliaid
  16. monitro darparu porthiant a dŵr i anifeiliaid cynhyrchu 
  17. monitro arferion bwydo ac yfed yr anifeiliaid a chymryd y camau perthnasol
  18. monitro iechyd a llesiant parhaus yr anifeiliaid
  19. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun deietegol yn bodloni ei amcanion, yn cynnwys canlyniadau corfforol ac ariannol tymor byr a hirdymor y deiet sy’n cael ei gyflwyno, a meincnodi’r data
  20. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. proses draul yr anifeiliaid cynhyrchu perthnasol a’r effaith y mae maeth yn ei gael ar iechyd, llesiant a pherfformiad yr anifeiliaid
  2. sut i gyfrifo’r gofynion maeth, yn cynnwys dŵr, ar gyfer yr anifeiliaid cynhyrchu perthnasol, ar gyfer lefelau perfformiad amrywiol, beichiogrwydd a thwf
  3. buddion maeth gwell ar iechyd, llesiant a chynhyrchiant anifeiliaid
  4. yr arferion sydd yn gallu arwain at broblemau maeth mewn anifeiliaid
  5. sut i werthuso, yn nhermau eu gwerth a’u hansawdd, y bwydydd sydd ar gael i’w defnyddio mewn dognau, yn cynnwys bwydydd sydd wedi eu prynu 
  6. gweithredoedd penodol mwynau, fitaminau ac atchwanegiadau ac ychwanegion eraill ar iechyd, llesiant a pherfformiad anifeiliaid cynhyrchu a’u buddion o ran cost
  7. dylanwad gwybodaeth a syniadau newydd ar baratoi dognau a sut i darddu technoleg newydd
  8. y ffynonellau gwybodaeth a’r cyngor arbenigol ar baratoi cynlluniau deietegol
  9. sut i greu cynlluniau deietegol sydd yn hybu iechyd, llesiant a pherfformiad anifeiliaid cynhyrchu, ac yn bodloni’r diben a fwriadwyd ar gyfer yr anifeiliaid
  10. sut i ffurfio bwydydd dwys, i fanyleb benodol, gan ystyried cost a ffactorau maeth, a chan ddefnyddio methodoleg cost leiaf
  11. sut i ffurfio deiet â llaw neu gan ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol 
  12. yr adnoddau sydd eu hangen i weithredu’r cynllun deietegol, yn cynnwys gofynion a chyfarpar storio
  13. y gofynion storio ar gyfer mathau gwahanol o borthiant anifeiliaid i gynnal ansawdd a’i gadw’n rhydd rhag plâu, a phwysigrwydd cylchdroi stoc a dyddiadau ar ei orau cyn
  14. sut i fonitro effaith deiet ar iechyd a llesiant anifeiliaid, yn cynnwys dylanwad yr amgylchedd a’r dull o fwydo
  15. y dangosyddion perfformiad allweddol a sut i gyfrifo a meincnodi’r canlyniadau
  16. y camau y gellir eu cymryd i ddatrys problemau deietegol a nodir
  17. pwysigrwydd cyfathrebu gydag eraill sydd yn gysylltiedig â’r system cynhyrchu anifeiliaid, yn cynnwys y milfeddyg 
  18. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae’r rhain yn bwysig
  19. y gofynion cyfreithiol a busnes perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff a sgil-gynnyrch
  20. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a hylendid bwyd berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
  21. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi, a’r amser y dylid cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM7

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Cynghorydd Technegol Amaethyddol, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

porthiant; deiet; anifail; anifeiliaid; dognau; maeth; cnoi cil; unstumogaidd; atchwanegiadau; ychwanegion