Cynllunio a rheoli cynhyrchu cnydau

URN: LANAgM24
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli cynhyrchu cnydau. Gallai cnydau gynnwys, grawnfwydydd/grawn, cnydau gwreiddiau, corbys, rêp had olew, gwinwydd, hopys, llysiau, perlysiau, blodau, llwyni, coed neu ffrwythau a gallant fod wedi eu tyfu mewn cae neu mewn amgylchedd wedi ei ddiogelu fel tŷ gwydr neu bolydwnnel.

Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau er mwyn i’r cnydau gael eu tyfu, gan reoli gweithredu’r cynlluniau a monitro’r canlyniadau. 

Wrth gynllunio a rheoli cynhyrchu cnydau mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am reoli cynhyrchu cnydau.

Mae cynhyrchu glaswellt a chnydau porthiant wedi ei gynnwys yn LANAgM4.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi a gwerthuso cyfleoedd a chyfyngiadau i bennu’r cnydau i gael eu tyfu 
  2. ceisio cyngor arbenigol lle bo angen
  3. pennu’r dull cynhyrchu sydd i gael ei ddefnyddo

  4. creu cynllun ar gyfer cynhyrchu cnydau addas gyda graddfeydd amser, amcanion a thargedau  

  5. pennu’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer paratoi, plannu a chynnal y cnwd 
  6. nodi’r ffyrdd y caiff y deunydd plannu ei gaffael a’r gofynion ar gyfer ansawdd

  7. amlinellu dulliau a manylebau ar gyfer gweithredu’r cynllun cynhyrchu cnydau

  8. cyfathrebu’r cynllun i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
  9. rheoli cynhyrchu cnydau i fodloni’r diben a fwriadwyd 
  10. sefydlu mesurau i gynnal y lefelau angenrheidiol o hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  11. sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a sgil-gynnyrch, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a busnes perthnasol a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  12. sefydlu mesurau i reoli’r effaith ar yr amgylchedd
  13. cadarnhau bod dulliau gweithio yn hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
  14. monitro gweithredu cynllun cynhyrchu cnydau yn rheolaidd i gadarnhau bod y graddfeydd amser, yr amcanion a’r targedau’n cael eu bodloni a, lle bo angen, gweithredu i unioni gwyriadau o’r cynllun
  15. gwerthuso llwyddiant y cnydau sydd yn cael eu tyfu i gynorthwyo gyda gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
  16. cadarnhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pwysigrwydd cynllunio i gynhyrchu cnydau’n llwyddiannus
  2. sut i gynllunio cynhyrchu cnydau a chyflawni’r cydbwysedd gorau rhwng cyfleoedd a chyfyngiadau
  3. y mathau gwahanol o gnydau a’r amodau sydd yn ofynnol ar gyfer twf
  4. y ffynonellau gwybodaeth a’r cyngor arbenigol ar gynhyrchu cnydau 
  5. y wybodaeth y mae angen i’r cynllun cynhyrchu cnydau ei gynnwys a sut i bennu manylion penodol 
  6. egwyddorion technegau ffermio manwl gywir mewn perthynas â chynhyrchu cnydau
  7. ffynonellau deunydd plannu a sut gellir sicrhau ansawdd
  8. y ddeddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thriniaethau wrth blannu cnydau
  9. yr effaith bosibl y gallai dulliau rheoli gwahanol ei gael ar y cnydau, yr amgylchedd cyfagos a’r dirwedd
  10. sut i bennu’r adnoddau dynol, ariannol, deunydd a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r cynllun
  11. y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a manylebau i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’u gweithredu
  12. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig 
  13. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff a sgil-gynnyrch
  14. y mesurau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac i ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
  16. y ffyrdd o fonitro a gweithredu’r cynllun cynhyrchu cnydau i gadarnhau bod graddfeydd amser, amcanion a thargedau’n cael eu bodloni 
  17. y dulliau o werthuso a phennu llwyddiant y cynllun cynhyrchu cnydau
  18. y dulliau o fonitro effaith amgylcheddol cynhyrchu cnydau
  19. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi, a’r amser y dylid cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cnydau gynnwys: 
grawnfwydydd/grawn
cnydau gwreiddiau
corbys
rêp had olew
gwinwydd
hopys
llysiau
perlysiau
blodau
llwyni
coed
ffrwythau

Gallai cyfleoedd a chyfyngiadau gynnwys:

gofynion cyfreithiol
amgylcheddol
cyfyngiadau defnydd o dir
cymhellion/grantiau
cyfleoedd marchnad
cost cynhyrchu ac elw disgwyliedig
y diben a fwriadwyd ar gyfer y cnwd
yr amodau angenrheidiol i dyfu cnydau gwahanol
amseru/tymoroldeb
hinsawdd/tywydd
cyflwr y ddaear
math a chyflwr y pridd
arwynebedd sydd ar gael
defnydd blaenorol (cylchdroi cnydau)
gofynion adnoddau
gweithgareddau menter eraill

Deunydd plannu:
hadau
planhigion
bylbiau, cloron, cormau, ac ati 
gwrteithiau
triniaethau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM24

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Gweithiwr Planhigfa, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; planhigion; tyfu