Storio a chynnal cnydau wedi eu cynaeafu

URN: LANAgC6
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys storio a chynnal cnydau wedi eu cynaeafu. Gall cnydau gynnwys glaswellt a chnydau porthiant, grawnfwydydd/grawn, cnydau gwreiddiau, corbys, rêp had olew, hopys, llysiau, perlysiau, blodau neu ffrwythau. Mae’r safon yn berthnasol i storio cnydau y tu fewn neu tu allan. Mae hefyd yn cynnwys storio wedi ei reoli gan dymheredd.

Mae’r safon yn cynnwys paratoi’r ardal storio, storio’r cnwd, a monitro a chynnal y cnwd tra’i fod yn cael ei storio.
 
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn storio ac yn cynnal cnydau wedi eu cynaeafu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd angenrheidiol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal y cyfarpar angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  5. paratoi’r cyfleuster storio, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  6. defnyddio mesurau i atal y risg o halogiad gan blâu neu glefydau, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  7. sicrhau bod cnydau wedi eu cynaeafu wedi cael eu paratoi’n gywir cyn eu storio
  8. storio cnydau wedi eu cynaeafu yn y cyfleuster storio, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau ac mewn ffordd sy’n lleihau niwed
  9. cadw’r cyfleuster storio mewn cyflwr diogel a chadarn
  10. cynnal archwiliadau fel mater o drefn o’r cyfleuster storio a’r cnwd, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
  11. gwirio cyflyrau amgylcheddol cyfleusterau storio a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
  12. cynnal cnydau wedi eu cynaeafu yn y cyflwr gorau posibl, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  13. cylchdroi stoc, lle bo angen, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  14. symud cnydau o’r cyfleuster storio, yn unol â gofynion busnes ac mewn ffordd sy’n lleihau niwed
  15. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo 
  16. dilyn canllawiau diwydiant a busnes i leihau niwed amgylcheddol
  17. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  18. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  19. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â storio cnydau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o gyfarpar sydd yn angenrheidiol ar gyfer storio cnydau a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a storio’r rhain, yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth storio cnydau, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. y math o gyfleuster storio a’r amodau sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynnal cnydau wedi eu storio yn eu cyflwr angenrheidiol, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  6. arwyddion plâu a chlefydau a’r camau angenrheidiol i’w cymryd
  7. y mesurau y gellir eu cymryd i atal y risg o niwed yn sgil plâu
  8. y defnydd o fesurau rheoli plâu a’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â’r rhain
  9. y gofynion paratoi ar gyfer cnydau wedi eu cynaeafu
  10. y rhesymau dros y ffordd y mae cnydau wedi eu cynaeafu’n cael eu trefnu mewn cyfleusterau storio
  11. y ffyrdd y caiff diogeledd a diogelwch y cyfleuster storio eu cynnal
  12. y dulliau ar gyfer cynnal archwiliadau fel mater o drefn o’r cyfleuster storio a’r cnwd, a pham y mae’r rhain yn angenrheidiol
  13. sut i nodi cnydau sydd yn cael eu storio sydd wedi eu niweidio neu eu halogi a’r camau angenrheidiol i’w cymryd
  14. y dulliau o atal niwed neu halogiad i gnydau sydd wedi eu storio
  15. diben cylchdroi stoc
  16. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  17. pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  18. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac arferion busnes
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  20. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau’r cynhyrchydd
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
cyfarwyddiadau llafar

Archwiliadau fel mater o drefn am bresenoldeb:
anifeiliaid
pryfed
adar
llwydni
clefydau
halogiad
cleisio/niwed
gwlybaniaeth/lleithder
newidiadau mewn tymheredd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgC6

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; storio; llysiau; tir âr; glaswellt; porthiant; ffrwythau