Monitro a chynnal twf iach cnydau

URN: LANAgC3
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal twf iach cnydau.
 
Byddwch yn gallu monitro twf cnydau, cymryd y camau angenrheidiol i gynnal twf iach y cnwd a rheoli risgiau i gnydau yn sgil chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd. Gallai hyn gynnwys taenu maethynnau i hybu twf iach neu weithredu dulliau addas o reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd.

Wrth weithio gyda pheiriannau a chyfarpar, dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio tuag at warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
 
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal twf iach cnydau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gweithgaredd angenrheidiol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. monitro twf a datblygiad cnydau, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  4. asesu cyflwr y pridd a statws maeth ar gyfer y cnwd
  5. cael cyngor technegol yn ymwneud â gofynion maeth a’r camau addas i’w cymryd, pan fo angen
  6. pennu’r maethynnau sydd yn angenrheidiol i gynnal twf iach a’r ffordd y dylid eu taenu ar y cnwd
  7. gweithredu dulliau o daenu’r maethynnau angenrheidiol ar y cnwd
  8. asesu’r risgiau i’r cnwd yn sgil chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd 
  9. cael cyngor technegol yn ymwneud â rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, a’r camau addas i’w cymryd, lle bo angen
  10. pennu’r dull o leihau’r risgiau i’r cnwd yn sgil chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd sydd wedi eu nodi er mwyn cael y cydbwysedd gorau rhwng gofynion cynhyrchu, effaith amgylcheddol a phwrpas tyfu’r cnwd
  11. gweithredu dulliau o reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd yn y cnwd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac arferion busnes
  12. cadarnhau, lle mae cemegau wedi cael eu taenu ar y cnwd, eu bod yn cael eu defnyddio yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  13. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd yr holl gamau i’w cymryd i gynnal twf iach cnydau
  14. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion busnes
  15. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  16. dilyn canllawiau diwydiant a busnes i leihau niwed amgylcheddol
  17. cadarnhau bod gwastraff yn cael ei brosesu’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  18. cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch busnes a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  19. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chynnal twf iach cnydau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. gofynion, manteision ac anfanteision systemau gwahanol cynhyrchu cnydau
  4. egwyddorion amaethyddiaeth gynaliadwy a Rheolaeth Integredig Cnydau (ICM)
  5. cyfnodau datblygiad cnydau
  6. sut i bennu’r amser gorau ar gyfer monitro twf a datblygiad cnydau o ystyried gofynion y cnwd, cyfnod y twf, yr amser o’r flwyddyn a’r risgiau posibl yn sgil chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
  7. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro twf a datblygiad cnydau, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg
  8. sut i ddefnyddio trothwyon ac amserlenni
  9. y ddeddfwriaeth genedlaethol bresennol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thriniaethau ar gyfer cnydau
  10. problemau cywasgiad pridd
  11. y ffyrdd o sicrhau bod y maint cywir o faethynnau ar gael ar gyfer cnydau 
  12. ystyr pH a sut i’w sefydlu
  13. rôl prif elfennau ac elfennau hybrin yn nhwf iach cnydau 
  14. y gofynion maeth ar gyfer cnydau gwahanol
  15. ffynonellau cyngor technegol am y camau addas i’w cymryd i ddarparu maethynnau i gnydau
  16. diben taenu maethynnau a’r ffordd y gellir eu haddasu i annog twf iach cnydau
  17. y math o faethynnau y gellir eu taenu ar y cnwd a’r dulliau taenu y mae’n rhaid eu defnyddio
  18. y mathau gwahanol o wrtaith sydd ar gael a’r ffordd y dylid eu defnyddio
  19. sut i adnabod presenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd a allai effeithio ar y cnwd
  20. ffynonellau cyngor technegol am y camau addas i’w cymryd i reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd 
  21. diben a gofynion Rheolaeth Integredig Plâu (IPM)
  22. yr amrywiaeth o gamau gwahanol y gellir eu cymryd i ddiogelu cnydau rhag chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, yn unol â systemau cynhyrchu gwahanol, a goblygiadau peidio â gweithredu
  23. y dulliau o reoli plâu y gellir eu defnyddio a sut i gynyddu effeithiolrwydd y rhain 
  24. diben a’r defnydd o gemegau ar gnydau a’r goblygiadau posibl i’r gweithredwr, y cnwd, yr amgylchedd a’r defnyddiwr
  25. gofynion deddfwriaeth mewn perthynas â thrin a defnyddio cemegau
  26. labeli a thaflenni data’r cynhyrchydd mewn perthynas â pharatoi a defnyddio cemegau a’r dulliau cywir o’u taenu
  27. pwysigrwydd monitro a gwerthuso canlyniad yr holl gamau a gymerir i gynnal twf iach cnydau
  28. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gynnal twf iach cnydau a’r dulliau o gyflawni hyn
  29. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  30. yr effaith bosibl y gallai eich gweithredoedd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir lleihau hyn, yn cynnwys ystyriaethau NVZ (Parth Perygl Nitradau), llygredd dŵr ac effeithiau gorddos ar iechyd planhigion
  31. pwysigrwydd gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
  32. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  33. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
  34. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Mae gweithredoedd gwahanol i frwydro yn erbyn chwyn, plâu a chlefydau’n cynnwys: 
gorchuddion cnydau
cylchdroi
dewis o amrywiadau
amaethu rhwng rhesi
hen welyau hadau
isafswm braenaru

Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau’r cynhyrchydd
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
cyfarwyddiadau llafar

Mae prif elfennau ac elfennau hybrin yn cynnwys:
nitrogen, sylffwr, magnesiwm, potasiwm a ffosfforws

Monitro twf a datblygiad cnydau:
twf iach dymunol
plâu, clefydau ac afiechyd

o anifeiliaid
o pryfed
o feirysol
o bacterol
o ffyngol
o maeth
o diffyg elfen hybrin
o sychder
o llanw gyda dŵr

Rheoli plâu:
ffensio
dychrynwyr
ymlidwyr
saethu
biolegol
cemegol
defnydd o bryfed buddiol

Amaethyddiaeth gynaliadwy: Bodloni’r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra’n cynnal proffidioldeb a gwarchod yr amgylchedd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgC3

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; plâu; clefydau; anhwylderau; chwyn; maethynnau; gwrtaith