Cryfhau datblygiad sefydliadol grwpiau

URN: JETSCD22
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â rôl ymarferwyr datblygu cymunedol wrth gefnogi grwpiau i adolygu eu ffyrdd o weithredu er mwyn gallu trefnu cyflawni eu nodau mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon. Mae'n golygu annog grwpiau i feddwl ymlaen a chasglu gwybodaeth am eu sefyllfa gyfredol, beth allai newid yn y dyfodol, a sut gallan nhw gynllunio ar gyfer y tymor hwy.  

Mae'r safon hon yn berthnasol i ymarferwyr datblygu cymunedol sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol.  

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Chwech 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 cefnongi grwpiau i ymagweddu'n strategol at gynllunio ar gyfer eu cynaliadwyedd yn y dyfodol
2 cefnogi grwpiau i archwilio eu hymrwymiadau posibl yn erbyn eu gallu i'w cyflawni
3 hwyluso grwpiau i adolygu eu harfer cyfredol a'u polisïau sefydliadol, gan sicrhau aliniad ag arfer da sefydledig a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
4 cefnogi grwpiau i gasglu a dehongli gwybodaeth am gyfleoedd mewnol ac allanol a bygythiadau i'w sefydliad
5 cefnogi grwpiau i ddeall  sut mae defnyddio dangosyddion cenedlaethol a fframweithiau gwerthuso perthnasol yn eu hadolygiad
6 hwyluso grwpiau i adolygu eu gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd a phrosesau gwneud penderfyniadau i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed
7 cefnogi grwpiau i adolygu effeithiolrwydd eu systemau cyfathrebu mewnol ac allanol
8 cynorthwyo grwpiau i gytuno ar y newidiadau mae angen eu gwneud a sut mae rheoli gweithrediad y newidiadau hynny 
9 darparu cefnogaeth i gyrchu gwybodaeth am ddeddfwriaeth gyflogaeth a chyfeirio ymlaen at sefydliadau cyngor cyflogaeth arbenigol lle bo hynny'n briodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Ffyrdd o drefnu
1 technegau cyfranogol i gynorthwyo sefydliadau i adolygu eu nodau, eu blaenoriaethau a'u hymarfer
2 technegau cyfranogol i gynorthwyo sefydliadau i gynllunio a dyrannu rolau wrth ddatblygu a defnyddio sgiliau o fewn y sefydliad
3 systemau, gweithdrefnau a fframweithiau meincnodi sefydliadol 
4 sut mae cefnogi rheoli newid a chynlluniau wrth gefn
5 sut mae cefnogi cynaliadwyedd hir dymor sefydliadau  

Materion Cyfreithiol
6 strwythurau sefydliadol a chyfreithiol sy'n briodol ar gyfer sefydliadau cymunedol
7 rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd sylfaenol gwahanol strwythurau sefydliadol a chyfrifoldebau cysylltiedig aelodau'r bwrdd/pwyllgor, ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr 
8 sefydliadau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth manwl ar strwythurau cyfreithiol a sefydliadol
9 deddfwriaeth berthnasol i sefydliadau cymunedol, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n ymdrin â chydraddoldeb ac arfer gwrth-wahaniaethol
10 rôl a swyddogaeth datblygu polisi ar draws sefydliad
11 gofynion statudol sy'n ymwneud â sefydlu, cyfansoddi a dod â sefydliad i ben


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu gwirio yn erbyn deddfwriaeth cydraddoldebau ac yn cydymffurfio â hwy
2 bod strategaethau cyfathrebu'n ymgorffori arferion cynhwysol sy'n ein cyrraedd a'u hysbysu ar bob lefel 
3 bod amser a lle yn cael eu creu ar gyfer cynllunio effeithiol yn y tymor hir, gan dynnu ar wybodaeth a phrofiadau pawb o fewn y sefydliad
4 bod nodau a chamau gweithredu cynlluniedig yn cael eu hysbysu gan lais y gymuned
5 bod ymrwymiad yn cael ei arddangos i greu sefydliad sy'n dysgu, a bod prosesau'n cael eu rhoi ar waith i gefnogi hynny​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD21

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol