Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dysgu datblygu cymunedol

URN: JETSCD18
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â phobl yn dysgu trwy weithredu a phrofiad. Mae'n cynnwys ymarferwyr yn galluogi pobl sy'n ymwneud â datblygu cymunedol i ymgysylltu â gwahanol ffyrdd o ddysgu trwy: 
• adfyfyrio ar eu profiadau eu hunain a rhai pobl eraill,  
• dysgu gan eraill, a
• hyrwyddo a chreu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i bobl ddysgu gyda'i gilydd.

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Pump


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 hyrwyddo manteision dysgu i ymarferwyr cymunedol
2 hyrwyddo gwerth dysgu gan gymunedau i sefydliadau a llunwyr polisi
3 grymuso pobl i gredu ynddynt eu hunain er mwyn cyrchu cyfleoedd i ddysgu 
4 defnyddio cyfleoedd dysgu sy'n deillio o weithgaredd cymunedol i rannu syniadau, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymhlith ymarferwyr
5 nodi a hybu enghreifftiau o arfer da er mwyn cynorthwyo eich dealltwriaeth eich hunain ac eraill o ymarfer datblygu cymunedol
6 adfyfyrio ar eich ymarfer eich hun er mwyn llywio eich ffyrdd eich hun o weithio yn y dyfodol
7 cefnogi cymunedau a sefydliadau eraill i ddatblygu cynlluniau dysgu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr eu sefydliad
8 nodi adnoddau er mwyn diwallu anghenion dysgu ymarferwyr datblygu cymunedol
9 defnyddio ystod o ddulliau i hybu cyfleoedd dysgu i wahanol sefydliadau ac ymarferwyr
10 bod yn rhan o gyd-gynhyrchu dysgu gyda darparwyr dysgu a chymunedau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y cyd-destun
1 rôl dysgu wrth hybu ymddiriedaeth, dealltwriaeth a pharch o fewn a rhwng cymunedau
2 rhwystrau i ddysgu a ffyrdd o'u goresgyn
3 arfer gwrth-ormesol wrth ddarparu a chyflwyno dysgu

Agweddau at ddysgu
4 agweddau a dulliau i hwyluso dysgu 
5 sut mae hwyluso adfyfyrio ar brofiad a dysgu cyfranogol gweithredol
6 dulliau ar gyfer rhannu dysgu o wahanol brofiadau, persbectifau ac ymarfer
7 sut mae nodi anghenion dysgu yn awr ac yn y dyfodol ar gyfer pobl sy'n ymwneud â gweithgareddau cymunedol
8 sut mae canlyniadau dysgu mewn datblygu cymunedol yn cyfrannu at hyrwyddo newid

Adnoddau a chefnogaeth ar gyfer dysgu
9 natur dysgu cymunedol a'r adnoddau sydd ar gael i'w gefnogi
10 fframweithiau a chymwysterau dysgu datblygu cymunedol cyfredol
11 rhwydweithiau cynnal dysgu ffurfiol ac anffurfiol a sut mae eu cyrchu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod cyfleoedd yn cael eu creu i bobl ddysgu am y materion cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd sy'n effeithio ar eu cymunedau
2 bod rhwystrau i gyfranogiad mewn dysgu yn cael eu cydnabod a bod camau'n cael eu cymryd i'w goresgyn
3 bod gwahanol bersbectifau a phrofiadau yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi wrth gynllunio dysgu
4 bod cyfleoedd i bobl ddysgu gyda'i gilydd a chan eraill yn cael eu hymgorffori i raglenni dysgu
5 bod cysylltiadau'n cael eu gwneud â phrofiadau cymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang i wella dysgu ​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD17

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dull datblygu cymunedol