Hwyluso arweinyddiaeth gymunedol

URN: JETSCD13
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud ag annog ac arddangos, lle bo angen, arweinyddiaeth mewn cymunedau. Mae'n golygu meithrin arweinyddiaeth gymunedol gynhwysol ac effeithiol, a fydd yn symbylu ac yn cefnogi unigolion a chymunedau i chwarae rhan ac i gydweithio er mwyn cyflawni amcanion ar y cyd. 
Yn y safon hon bydd yr ymarferydd datblygu cymunedol yn hwyluso datblygiad sgiliau arweinyddiaeth gymunedol. Gall hyn gynnwys arddangos a darparu enghraifft o ymddygiad ac arddulliau penodol, rhoi cyngor, adborth a nodi meysydd lle mae angen datblygu a dysgu. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol sy'n annog, yn symbylu ac yn cefnogi eraill i arwain gweithgaredd cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Tri


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 hybu arddulliau arweinyddiaeth sy'n briodol ar gyfer sefydliad datblygu cymunedol 
2 defnyddio gwahanol arddulliau arweinyddiaeth wrth ddatblygu, cynnal a meithrin arweinyddiaeth gymunedol
3 arwain trwy enghraifft i sicrhau ymddiriedaeth a chefnogaeth eraill yn eich cymuned eich hun
4 cefnogi pobl eraill i gydweithio, defnyddio'u menter ac arddangos arweinyddiaeth lle bo hynny'n briodol o fewn y sefydliad
5 rheoli'r tensiynau sy'n codi yn sgîl gwahanol ffyrdd o ddeall y term 'arweinyddiaeth'
6 cynnwys pobl eraill wrth ddatblygu a chyfathrebu gweledigaeth a rennir, diben, amcanion a chynlluniau ar gyfer y gymuned
7 defnyddio dulliau cyfranogol o wneud penderfyniadau sy'n agored, yn dryloyw ac yn atebol i'r cymunedau dan sylw
8 sicrhau dealltwriaeth o'r rolau yng nghyswllt cyflawni'r nodau y cytunwyd arnynt ar gyfer y gymuned
9 cefnogi pawb dan sylw i gyflawni eu rolau er mwyn cyrraedd y nodau y cytunwyd arnynt ar gyfer y gymuned
10 symbylu eraill i gyflwyno eu syniadau; gwrando ar syniadau, goresgyn rhwystrau ac ymdrin ag anawsterau a newid yn eich sefydliad eich hun
11 cydnabod cyflawniadau pobl, eu hymdrechion a'u gallu creadigol wrth gyflawni nodau cymunedol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Arddulliau arweinyddiaeth
1 sut mae defnyddio gwahanol theorïau, modelau ac arddulliau arweinyddiaeth i rymuso, symbylu, cefnogi a dylanwadu ar eraill
2 y tensiynau sy'n gysylltiedig â'r term 'arweinyddiaeth' mewn cyd-destun cymunedol
3 sut mae adnabod a datblygu gallu pobl eraill i arwain 
4 sut mae creu diwylliant sy'n annog ac yn cydnabod gallu creadigol ac arloesedd
5 effeithiau cadarnhaol a negyddol gwahanol arddulliau arweinyddiaeth 
6 sut mae defnyddio sgiliau arweinyddiaeth i gynnwys pobl mewn proses agored, dryloyw o wneud penderfyniadau
7 eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun mewn rôl arweinyddiaeth a sut mae ymdrin â hwy

Cefnogi a symbylu eraill
8 pwysigrwydd annog eraill i arwain, a ffyrdd o wneud hynny 
9 gwahanol ffyrdd o gyfathrebu'n effeithiol â gwahanol gynulleidfaoedd
10 sut mae gweithio gydag eraill i gynllunio, pennu amcanion, cydnabod cyflawniad a monitro cynnydd 
11 pwysigrwydd sicrhau llinellau atebolrwydd cyhoeddus clir ar gyfer penderfyniadau a wnaed a chamau a gymerwyd
12 sut mae dangos i eraill gyfraniad eu rôl unigol i gyflawni amcanion ar y cyd
13 dulliau o symbylu, cefnogi ac annog pobl; a chydnabod eu cyflawniadau 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Cam Gweithredu
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod cryfderau, sgiliau ac asedau cymunedol yn cael eu dathlu'n rheolaidd
2 bod diwylliant o barch ac ymddiriedaeth lle gosodir gwerth ar amrywiaeth yn cael ei hybu a'i feithrin
3 bod aelodau o'r gymuned yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth gymunedol eu hunain
4 bod gwneud penderfyniadau cyfranogol yn cael ei feithrin ar bob lefel
5 bod aelodau o'r gymuned yn cael eu hannog i adfyfyrio ar eu profiadau arweinyddiaeth eu hunain a dysgu ohonynt ​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Joint ETS (JETS)

URN gwreiddiol

JETSCD13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol