Cefnogi cymunedau sydd am gyflawni newid cymdeithasol cadarnhaol

URN: JETSCD12
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Diben datblygu cymunedol yw cefnogi cymunedau i drefnu ar y cyd er mwyn rhoi newid ar waith. Mae hyn yn golygu sicrhau bod grwpiau cymunedol a chymunedau yn derbyn gwybodaeth am gyfleoedd i fynegi eu barn, sut mae cael hyd i gefnogwyr, a sut mae cynllunio ar gyfer gweithredu ac ymgyrchu ar y cyd a rhoi hynny ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd ganddynt. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Tri


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 cefnogi grwpiau i gytuno ar yr heriau y mae angen ymdrin â hwy mewn cymuned
2 hwyluso grwpiau i ymchwilio, cynllunio, a cheisio cefnogaeth, cynghreiriaid ac adnoddau i'w helpu i gyflawni newid cymdeithasol
3 cynghori ar y defnydd o ddulliau cyfranogol er mwyn dyrannu rolau a chyfrifoldebau ac adolygu cynlluniau
4 cynghori ar ffyrdd o ddatrys bylchau sgiliau wrth gynllunio ar gyfer gweithredu
5 cefnogi grwpiau i ddatrys ar y cyd unrhyw wrthdaro sy'n datblygu yn ystod ymgyrch 
6 cefnogi grwpiau i ddefnyddio'r cyfryngau i roi cyhoeddusrwydd i'w hymgyrch 
7 hwyluso ymwybyddiaeth o anghenion gwybodaeth a chyfathrebu y rhai sy'n ymwneud ag ymgyrch lwyddiannus 
8 annog gwerthuso cyfranogol er mwyn adolygu cynlluniau ac effaith yr ymgyrch ar lunwyr penderfyniadau 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y cyd-destun
1 cyfraniad mudiadau cymdeithasol a gweithredu cymunedol wrth gyflawni newid
2 effaith perthnasoedd pŵer ar unigolion a chymunedau 
3 ffyrdd cyfranogol o herio penderfyniadau polisi lleol a chenedlaethol 
4 manteision cydnabod a gosod gwerth ar amrywiaeth; arfer cynhwysol a gwrthwahaniaethol
5 sut mae goresgyn rhwystrau i ymwneud â gweithgareddau ar y cyd 
6 effeithiau cadarnhaol a negyddol gwrthdaro
7 sut mae datblygu strategaethau cymunedol sy'n meithrin hyder, sgiliau ac annibyniaeth grwpiau cymunedol
8 pwysigrwydd annibyniaeth wrth gyflawni newid cymdeithasol cadarnhaol

Pennu nodau cyffredin
9 dulliau ar y cyd a chyfranogol o gytuno ar faterion, nodau, cynlluniau, capasiti, adolygiadau a gwerthusiadau cyffredin

Deinameg a phrosesau grŵp
10 cydraddoldeb ac ymarfer gwrthwahaniaethol mewn grwpiau
11 ymarfer a strwythurau tryloyw ac atebol 
12 sut mae cefnogi'r rolau mae pobl yn ymgymryd â hwy mewn grwpiau 

Ymgyrchu
13 sut mae meithrin cefnogaeth trwy gynghreiriau strategol a gwahanol gyfryngau
14 strategaethau cyfryngau a chyhoeddusrwydd i sicrhau bod llais ymgyrch yn cael ei glywed


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Dengys yr enghreifftiau canlynol sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod sgiliau, gwybodaeth a phrofiad amrywiol pobl yn cael eu cydnabod a'u defnyddio wrth gynllunio ymgyrch
2 bod strwythurau gwneud penderfyniadau cymunedol agored, cydsyniadol, yn cael eu gwerthfawrogi a'u mabwysiadu 
3 bod mecanweithiau syml, clir yn cael eu rhoi ar waith i ddangos atebolrwydd i'r gymuned am bob penderfyniad a cham gweithredu 
4 bod perthnasoedd gwaith cydweithredol gyda grwpiau, rhwydweithiau, sefydliadau sector gwirfoddol a chyrff cyhoeddus eraill yn cael eu datblygu
5 bod y dull gweithredu a ddefnyddir yn yr ymgyrch yn cael ei ddadansoddi ar gyfer gweithredu yn y dyfodol​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol